Ymestyn arwynebedd safle ar gyfer gosod 5 carafan gwyliau ychwanegol ar gae 470, cadw ffordd fynedfa wasanaethol dros dro a’i ymestyn ar gyfer yr unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2m ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 410, newid gosodiad 5 carafan sydd ganiatawyd dan gais C15/0495/43/LL ac adleoli tanc septig
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones
Cofnod:
Ymestyn arwynebedd safle ar gyfer
gosod 5 carafán gwyliau ychwanegol ar gae 470, cadw ffordd fynedfa wasanaethol
dros dro a’i ymestyn ar gyfer yr unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2m ar
hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 410, newid gosodiad 5 carafán sydd ganiatawyd
dan gais C15/0495/43/LL ac adleoli tanc septig
Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i uwchraddio ac
ymestyn safle carafanau presennol. Roedd
y cais yn cynnwys bwriad i uwchraddio’r 10 carafán sefydlog bresennol am
gabanau gwyliau a’u hail leoli i ran o safle'r cwrs golff presennol. Rhoddwyd
caniatâd yn 2015 i ail-leoli 5 o unedau sefydlog i’r cwrs golff tra roedd y 5
arall i’w hail-leoli o fewn ffiniau presennol. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys
cadw ffordd wasanaethol dros dro a dderbyniodd ganiatâd fel rhan o gais
C15/0495/43/LL a’i hymestyn ar gyfer gwasanaethu’r unedau ychwanegol, codi
clawdd pridd 1.2 medr ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol y safle ac adleoli
tanc septig.
Nodwyd bod hanes cynllunio maith i’r safle a phan ganiatawyd
cais C15/0495/43/LL roedd hwnnw ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd. Ategwyd bod
hynny wedi bod o gymorth i resymoli’r holl geisiadau hanesyddol ar y safle.
Lleolir y safle yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
(AHNE). Roedd hefyd oddifewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol.
Amlygwyd bod nifer o bolisïau o fewn y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLL) oedd yn berthnasol i bennu’r cais. Y prif bolisi i’w ystyried wrth
asesu egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR
3. Nodwyd bod y polisi yn
caniatáu estyniadau bach i arwynebedd safle a /neu ail leoli unedau o leoliadau
amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf.
Yng nghais C15/1495/43/LL, caniatawyd estyniad i’r safle
presennol o 3565medr sgwâr tra bod y cais presennol yn gofyn am ymestyn y safle
fel y byddai’n defnyddio cyfanswm o 7658 medr sgwâr. Byddai’r cynnydd yma yn
gynnydd o bron i 43% i faint y safle yn seiliedig ar ei faint cyn caniatâd
2015. Cyfeiriwyd at yr angen i ail leoli tanc trin carthion
ond nid oes rheswm i ymestyn y safle er lleoli’r tanc trin carthion.
Wrth ystyried y rhesymau rhaid cwestiynu os yw bwriad yn
gymwys i’w ystyried fel estyniad o gwbl. Nid oedd unrhyw gysylltiad ffisegol
rhwng yr elfen parc gwyliau presennol a’r lleoliad bwriadedig
a bwriedir creu mynedfa a thrac cwbl ar wahân. Ymddengys y byddai’r adleoli yn
golygu yn ei gyfanrwydd safle newydd. Nid yw Polisi TWR 3 yn gefnogol i sefydlu
safleoedd carafanau sefydlog newydd oddi fewn i’r AHNE. Ystyriwyd bod y cynllun
a ganiatawyd yn 2015 wedi bod yn gyfaddawd priodol i ganiatáu ymestyn y safle
presennol er mwyn ail leoli.
Amlygwyd y byddai nifer o lefydd gwag yn ymddangos heb
unrhyw eglurhad dros ddefnydd y gwagle ar wahân i le chwarae anffurfiol.
Lleisiwyd pryder gan yr Uned AHNE o safbwynt effaith ymestyn
arwynebedd y safle a gosod 5 carafán ychwanegol arno. Nodwyd yn flaenorol y byddai’r lleoliad
arfaethedig yn cael ei gydnabod yn fwy gweledol na’r safle carafanau sefydlog
presennol, ond yng nghyswllt caniatâd C15/0495/43/LL ni ystyriwyd y byddai ail
leoli’r 5 uned arall i’r safle yma yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad yr
AHNE.
Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais
(b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod gwaith ar fwriad 2015 wedi
ei ddechrau
·
CNC wedi datgan a chyflwyno
nodyn yn egluro rhesymeg symud y tanc septig
·
Nad oedd diffiniad clir o
‘ddatblygiad bach’
·
Nad oedd effaith weledol
·
Bod y maes carafanau bellach
yn rhan o gymeriad yr ardal
·
Bwriad yr ymgeisydd oedd
gwella ansawdd y safle
·
Cabanau gwyliau sydd yma ac
nid carafanau
·
Bod y fynedfa a ganiatawyd yn
2015 i garafanau teithiol ddim yn ddiogel ac felly angen symud i sicrhau
diogelwch ymwelwyr
·
Nad oedd polisi TWR 3 yn
berthnasol
(c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:
·
Cais ydoedd i symud y
carafanau statig at ei gilydd - nid oedd eu cael arwahan yn ddelfrydol i ymwelwyr
·
Nad oedd cais i gynyddu'r
nifer o garafanau dim ond uwchraddio'r cyfleusterau fel bod mwy o le ar gyfer decin a pharcio ceir ymwelwyr
·
Bod symud y carafanau statig
at ei gilydd yn rhoi maes chwarae plant ynghanol y safle a bod adnodd fel hyn
bellach yn ddisgwyliedig
·
Bod angen codir’ safon i
sicrhau llwyddiant
·
Nad yw’r safle yn weledol - ar
ddarn bychan o ffordd wledig y gellid gweld y safle - rhaid edrych yn ofalus
iawn i’w adnabod
·
Bod rhaid cadw’r safle ar
gyfer cenedlaethau’r dyfodol - angen sicrhau bywoliaeth
·
Bod ychwanegiad i’r arwynebedd
oherwydd bod y tir yn cael ei drosi yn nol i lecyn gwyrdd
·
Bod anghenion defnyddwyr y
safle yn cael eu diwallu
·
Nad oedd gwrthwynebiadau i’r
cais
·
Dros 200 o goed wedi eu plannu
·
Bod y cynllun yn un sylweddol
i wella’r ddarpariaeth ac uwchraddio cyfleusterau ar gyfer y dyfodol
·
Bod angen cefnogi pobl leol
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y
cais yn unol â’r argymhelliad
(d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnal trafodaethau os mai
gwella'r safle yw’r bwriad, nododd y
Rheolwr Cynllunio nad oedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am gyngor cyn cyflwyno cais.
(dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Nad oedd yr ymgeisydd yn gofyn
am ymestyn y safle - roedd yn ymateb i ofynion ymwelwyr gan fod codi safonau yn
hanfodol bwysig.
·
Bod angen defnyddio mwy o dir
i sicrhau gwelliannau
·
Derbyn mai estyniad bychan
oedd dan sylw, ond beth fydd y cam nesaf / neu’r cais nesaf yn ei geisio
·
Nad oedd angen difetha’r AHNE
- angen ei warchod
·
Gellir gwneud gwelliannau wrth
ddilyn caniatâd cais 2015
(e) Mewn ymateb i rai o’r sylwadau nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio
nad oedd y datblygiad yn estyniad bychan ac felly rhaid sicrhau cysondeb wrth
wneud penderfyniadau ar draws y Sir. Ategodd nad oedd y cais yn cydymffurfio
gyda’ pholisïau
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm: Nid yw’r bwriad a gynigir yn cael ei ystyried yn estyniad bach i arwynebedd y safle a byddai’n golygu ail-leoli'r holl unedau sefydlog o’r safle presennol i’r safle estynedig gan adael safle’r carafanau sefydlog presennol yn wag ac ni ystyrir y byddai hynny yn gwneud dim mewn gwirionedd i wella dyluniad, gosodiad nag edrychiad y safle a’i le yn y dirwedd ac felly ystyrir y bwriad yn groes i ran 3i a vi o Bolisi TWR 3 CDLL.
Dogfennau ategol: