Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Cofnod:
Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol
i'r eiddo
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais
ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad deulawr gromen i sgwario blaen y tŷ,
gosod ffenestr gromen a balconi ar y blaen ynghyd ac estyniad unllawr blaen i ardal y modurdy cysylltiol presennol.
Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll ar lethr
mewn rhes o dai preswyl, yng nghornel cul de sac lled fodern Ystâd Cae Du ac yn
gyfochrog a thŷ Fferm draddodiadol Cae Du.
Byngalo gromen oedd yr eiddo dan sylw oedd o ddyluniad ychydig yn wahanol i
weddill tai gromen y rhes, sydd eisoes a balconïau blaen uwchben modurdai
integredig. Nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu llenwi cornel de ddwyreiniol i
sgwario’r tŷ gydag estyniad deulawr talcen gromen a chyflwyno ffenestr
gromen a balconi i’r blaen. Er nad yw talcen yn nodwedd gyffredin yn y rhes dan
sylw, ceir elfennau talcenni gwydr ar dai yn y cul de sac cyfochrog o fewn yr
Ystâd, felly nid yw’n nodwedd gwbl ddieithr yn y cyffiniau. Nodwyd bod gweddill
y tai yn y rhes yn cynnwys balconïau blaen ac yn nodwedd gyffredin ac amlwg
iawn yn nyluniad tai’r ystâd, felly nid oedd pryder sylweddol am yr
ychwanegiad.
Derbyniwyd bod y tŷ yn weladwy o bellter oherwydd ei
leoliad uchel, fodd bynnag o ystyried fod dyluniad y tŷ presennol yn
wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun
adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyriwyd y byddai’r
ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd
na thirlun yr AHNE.
Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail goredrych,
colli preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ystyriwyd oherwydd ongl gosodiad yr
eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn
uniongyrchol. Nodwyd bod ffenestri ochr y cynnig yn cael eu newid, o ffenestri
ystafelloedd gwely i ffenestri bychan ystafelloedd ymolchi felly yn hynny o
beth yn welliant i’r gwrthwynebwyr ar y ddwy ochr, o’r hyn a brofir yn
bresennol.
Oherwydd gwahaniaethau mewn lefel tir mae’r eiddo o flaen
safle’r cais, sef byngalo 67 Cae Du, ar lefel llawer is gyda dim ond to’r
adeilad yn weladwy o safle’r cais, felly ni fyddai ehangder ffenestri na’r
balconi blaen yn cyfaddawdu eu preifatrwydd. Byddai golygfeydd o’r balconi yn
edrych dros erddi agored a ffordd ystâd y cul de sac a dros ben to’r tŷ
i’r blaen. Oherwydd gosodiad y tŷ i’r gogledd o eiddo Fferm Cae Du, a
chwrs yr haul, ni ystyriwyd bod sail i’r honiad y byddai’r estyniad yn tywyllu
eu heiddo.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd
dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio
gyda gofynion y polisïau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol a oedd yn
gwrthwynebu’r cais y prif bwyntiau canlynol:
·
Yn hanesyddol bod pobl leol ac
ymwelwyr wedi bod yn byw law yn llaw ar yr ystâd ond bellach bod y balans wedi newid yn sylweddol a hynny oherwydd prisiau’r
farchnad. Ymddengys bod llawer o dai haf yn yr ystâd bellach a bod amryw un yn
gwneud addasiadau i ychwanegu gwerth ac elw.
·
Pryderon parcio ar yr ystâd
oherwydd nifer ymwelwyr. Rhaid ystyried polisi TRA 2
·
Nifer yr ymwelwyr i bob annedd
yn cynnal partïon yn y tai ac wedi prynu bwyd a diod ymlaen llaw - nid yw hyn o
fudd i’r economi leol
·
Bod cymdogion yn colli goleuni
naturiol
·
Nad yw PS19 wedi ei ystyried
yn llawn
·
Nad oedd unrhyw ystyriaeth
wedi ei roi i PS1 ar effaith y caiff ar y Gymraeg
·
Eisoes yn derbyn cwynion o
ddiffyg ailgylchu yn yr ystâd
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i
gynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle
Dogfennau ategol: