Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y drosedd a hefyd ei amgylchiadau personol. Nododd Mr A bod ei ymddygiad allan o gymeriad ac nad oedd yn berson treisgar. Roedd yn edifar am yr hyn a ddigwyddodd a'i fod wedi cael ei gythruddo ers peth amser gan y dioddefwr. Ategodd bod ganddo gwmni tacsis o safon, ei fod yn cyflogi gyrwyr lleol a’i flaenoriaeth yw cadw’r busnes.

 

Dangoswyd y fideo i’r Is Bwyllgor a’r Cyfreithiwr gyda’r ymgeisydd yn egluro'r digwyddiad.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

  GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

  ffurflen gais yr ymgeisydd

  sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

  llythyrau geirda a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr ymgeisydd

  adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.

      

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2018) ar gyhuddiad o ymosod ar berson yn groes i adran 39 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988.


Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 2.3 o’r Polisi lle cyfeirir at rybuddion ffurfiol.

 

Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais a pharagraff 6.2 yn nodi y bydd cais lle mae ymgeisydd wedi ei gael yn euog o drosedd yn ymwneud â thrais yn     annhebygol o gael trwydded hyd nes ei fod yn rhydd rhag collfarn o’r fath am 3 blynedd o leiaf.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.


Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y rhybudd o 2018 yn ymwneud a throsedd o drais. Nodwyd bod y rhybudd wedi digwydd llai na 6 mis yn ôl ac felly o fewn 3 blynedd. Yn unol â pharagraff 6.5 o’r Polisi, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu roedd yr ystyriaethau cychwynnol o blaid gwrthod y cais. Er hynny, roedd yr Is Bwyllgor hefyd yn ymwybodol mai canllaw yw’r Polisi a bod modd gwyro oddi wrtho os oes cyfiawnhad dros wneud hynny.

 

Penderfynodd yr Is Bwyllgor bod amgylchiadau’r cais yn cyfiawnhau gwyro am y rhesymau canlynol:

 

·         Bod yr ymgeisydd wedi dangos edifeirwch dros yr ymosodiad

·         Roedd y digwyddiad allan o gymeriad ac amlygwyd hyn yn y nifer o dystlythyrau a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr ymgeisydd

·         Nad oedd cofnod o unrhyw gollfarn na rhybudd yn erbyn yr ymgeisydd fel y nodwyd ar y cofnod DBS

·         Bod yr ymgeisydd eisoes dan rybudd gan yr Heddlu ac felly'n yn ymwybodol i beidio â thorri'r gyfraith eto

·         Nad oedd yr ymosodiad yn un o drais yn erbyn y cyhoedd ond yn hytrach yn erbyn    cystadleuwr arall yn y diwydiant tacsi

·         Nad oedd dioddefwr yr ymosodiad yn ddiniwed. Cafodd yr ymosodiad ei bryfocio mewn lleoliad o dan oruchwyliaeth TCC

·         Roedd yr ymosodiad wedi codi yng nghyd-destun ymgyrch hir o aflonyddu a phryfocio gan ddioddefwr yr ymosodiad

·         Cafwyd esboniad gonest pam nad oedd yr ymgeisydd heb apelio penderfyniad  (11.05.18) i ddiddymu ei drwydded - roedd yn mynd drwy gyfnod anodd, personol oedd yn ymwneud ac iechyd ei fab. 


Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr         i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r     drwydded