Agenda item

Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gadarnhau’r Ddogfen Gynnig er mwyn rhoi mandad i’r arweinyddion ymrwymo i Gytundeb Penawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.

 

Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun gwleidyddol ac ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar bwrpas y ddogfen, y prif ystyriaethau a’r camau nesaf.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cefnogaeth frwd i’r ddogfen gan nifer o aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y cynllun hwn yn cynnig cyfle gwych ac unigryw i Wynedd ac y dylid cefnogi’r ddogfen ac ymddiried yn yr Arweinydd i frwydro ar ein rhan.

·         Bydd y cynllun hwn yn helpu pobl ifanc i gael gwaith yn eu hardal leol ac yn creu’r amgylchedd i sector breifat y sir ffynnu yn y dyfodol.

·         Wrth lunio’r cynllun hwn, mae’r ddwy sir bellaf i’r Dwyrain wedi troi eu golygon yn ôl at siroedd y Gorllewin fel bod y 6 awdurdod ar draws y Gogledd yn siarad ag un llais.

·         Nid yw’r ‘status quo’ yn opsiwn a rhaid manteisio ar y cynllun hwn all drawsnewid economi’r Gogledd.

·         Y croesawir y ffaith bod y cynllun yma yn mynd i roi adeiladau diwydiannol ar safleoedd strategol fel Parc Bryn Cegin, Bangor, sydd wedi bod yn wag ers 15 mlynedd ac mae’r addewid potensial o 250 o swyddi, dafliad carreg o ganol y ddinas, yn newyddion cadarnhaol iawn.

 

I’r gwrthwyneb, lleisiwyd pryder am y cynllun gan eraill ar y sail:-

 

·         Bod amheuaeth nad oedd y cynllun yn gwneud digon i gefnogi cefn gwlad Gwynedd.

·         Bod Gwynedd yn fach ac eiddil o gymharu â siroedd poblog y Gogledd Ddwyrain a Glannau Merswy ac y gallem ddifaru cael ein tynnu i mewn i gynllun o’r fath.

·         Bod yr anghyfartaledd rhwng GVA y Gogledd Ddwyrain a’r Gogledd Orllewin yn drawiadol, gyda Wrecsam yn cyrraedd 80% bron o gyfartaledd GVA Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain a De Ddwyrain Lloegr) tra bo Môn yn 50% o’r cyfartaledd.  Disgwylid y byddai GVA Gwynedd, fel un o’r ardaloedd tlotaf yn Ewrop, yn isel hefyd, er y byddai’r swyddi sector cyhoeddus yn ardal Bangor a Chaernarfon yn sgiwio rhywfaint ar y ffigur hwnnw.

·         Nad yw’r ddogfen yn cyfeirio at effaith dylifiad alltudion yn ôl i’r wlad yn sgil Brexit.

·         O ran ynni niwclear a chloddfa gwastraff ynni niwclear Sellafield yn benodol, bod peryg’ i ni gael ein tynnu i mewn i’r egwyddor, os ydi o’n ddigon da i Cumbria, mae’n ddigon da i Wynedd a Môn hefyd.

·         Bod y ddogfen yn sôn am grantiau Ewropeaidd, ond ni fydd yna Undeb Ewropeaidd erbyn y bydd y cynllun hwn yn cael ei wireddu.

·         Bod llawer o sôn am fusnesau a’r arian y bydd busnesau preifat yn rhoi i mewn, ond nid oes yna fusnesau yng Ngwynedd all gyfrannu, gan mai busnesau meicro sydd yma yn cyflogi hyd at 10 o weithwyr yn unig.

·         Mai taflu llwch i lygaid pobl yw sôn am ledaenu’r ffyniant ac nad yw’r egwyddor o economeg rhaeadru erioed wedi gweithio.

·         Y sylwir bod yr adroddiad yn ‘nodi’ bod risg i’r endyd cenedlaethol, yn hytrach nag yn ‘mynnu’ ein bod yn cadw ein endyd cenedlaethol.

·         Na fyddai Llywodraeth San Steffan yn cefnogi’r cynllun hwn oni bai am y cymathu yn yr adroddiad rhyngom ni â Phwerdy’r Gogledd.

·         Y deellid gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol y clustnodwyd £2m i hybu prosiect Arfor, sef y syniad o sefydlu un awdurdod ar gyfer siroedd Gorllewin Cymru.  Dylid cydio yn y cynnig hwnnw yn hytrach na chefnogi’r Cynllun Twf.

·         Bod trydydd argymhelliad yr adroddiad yn rhoi grym absoliwt i’r Arweinydd wneud penderfyniadau gwleidyddol ar economi’r sir.

·         Bod peryg’ y byddai’r prentisiaethau lefel uwch i gyd yn y Dwyrain ac allan o gyrraedd pobl ifanc o Wynedd oherwydd y costau teithio ac aros dros nos mewn rhai achosion.

·         Bod peryg’ y bydd rhai o’r penderfyniadau yn cael eu gwneud er lles y rhanbarth ar gost y Gorllewin a bod angen sicrwydd y bydd y Cyngor hwn yn cael ei lais yn y penderfyniadau.

·         Bod yna ddiffygion sylfaenol sy’n tanseilio’r holl becyn, sef y diffyg cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o ffin galed ym Mhorthladd Caergybi yn sgil Brexit a’r orddibyniaeth ar dechnoleg niwclear.

·         Nad yw’n glir sut mae’r cynllun hwn yn mynd i atal dirywiad canol y trefi.

·         Er bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn gefnogol i’r cyfeiriad strategol ac wedi dangos cefnogaeth i fwrw ymlaen gyda’r Ddogfen Gynnig, ‘roeddent hefyd wedi amlygu nifer o risgiau oedd angen sylw.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a leisiwyd, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Ei fod yn ffyddiog bod pob ymdrech wedi’i wneud i ymestyn y cynllun ar draws holl ardaloedd Gwynedd ac y byddai’n cadw golwg ar y sefyllfa i’r dyfodol ac yn sefyll yn gadarn dros yr ardaloedd gwledig.

·         Bod siroedd y Gogledd yn gryfach gyda’i gilydd.  Y dewis arall fyddai gwneud dim, a byddai hynny’n sicr o adael Gwynedd mewn sefyllfa fwy gwan.

·         Gallai siroedd y Dwyrain fod wedi creu endyd economaidd gyda rhannau o Ogledd Orllewin Lloegr, ond yn hytrach, bu iddynt benderfynu dewis gweithio gyda siroedd y Gorllewin.

·         Bod arian Arfor yn £2m dros 4 sir dros 2 flynedd i wneud gwaith arloesol yng nghyswllt yr iaith a’r economi, ac er bod hyn i’w groesawu, nid oedd y £500,000 i Wynedd yn mynd i gyffwrdd y broblem.

·         Nad oedd ganddo rym absoliwt a bod rhaid iddo ef, fel arweinyddion y 5 awdurdod lleol arall, gael caniatâd aelodau’r Cyngor i weithredu.

·         Bod GVA Gwynedd yn 65% o’r cyfartaledd cenedlaethol, sy’n isel, ac y byddai’n anghyfrifol i wrthod unrhyw gyfle i geisio gwella’r sefyllfa. 

·         Ei bod yn fater o dristwch iddo ein bod, fel Cymry, ofn mentro a chyfeiriodd at enghraifft o Gymro Cymraeg sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus yng Ngwynedd. 

·         Y byddai’n rhaid i’r Bwrdd fod yn gytûn ar bob penderfyniad.  Hefyd, gan fod 4 allan o 6 sir y Gogledd (sef Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn) yn siroedd gwledig ac yn rhannu’r un weledigaeth â ni o ran lledaenu’r twf, siroedd y Dwyrain fyddai yn y lleiafrif yn y trafodaethau.

·         Mai 2 yn unig o’r 16 prosiect oedd yn ymwneud â’r diwydiant niwclear mewn unrhyw ffordd – un yn gynllun gan Brifysgol Bangor i wneud gwaith ymchwil a’r llall yn brosiect i wella’r isadeiledd yn Nhrawsfynydd, waeth beth fyddai’r defnydd o’r safle yn y dyfodol.  Nid oedd datblygiad Wylfa yn rhan o’r Cynllun Twf.

·         Bod Prosiect Caergybi yn ateb y cwestiwn Brexit a hefyd yn creu cyfleoedd llawer mwy na hynny i Gaergybi.

·         Ei fod yn cydnabod bod yna risgiau ynghlwm â’r cynllun, ond y byddai yna drafodaethau manwl iawn ar yr ochr gyllidol eto cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol i’r dyfodol a rhaid mesur y risg yn erbyn y budd y gobeithid ei gael o’r cynllun.

·         Tra’n cydymdeimlo gyda rhai o’r pwyntiau a godwyd gan y gwrthwynebwyr, ei fod yn annog yr aelodau i wrthod yr agwedd negyddol ac i edrych ymlaen yn bositif i’r dyfodol.  Fel y dywedir yn yr ymadrodd – gwell cynnau cannwyll na rhegi’r tywyllwch.

 

Mewn ymateb i’r pryder ynglŷn â phrentisiaethau lefel uwch, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y ceisir £8m gan y ddwy lywodraeth ar gyfer datblygu’r agenda sgiliau yn y Gogledd, gyda’r mwyafrif sylweddol o’r arian yma yn mynd ar gyfer cefnogi pobl ifanc ar gyfer prentisiaethau, ac yn arbennig prentisiaethau lefel uwch, a chynnal pobl ifanc yn eu cymunedau.

 

Nodwyd y pwyntiau ychwanegol a ganlyn:-

 

·         Y dylai’r Pwyllgor Craffu Cymunedau fod wedi cael y cyfle i edrych ar y mater hwn hefyd, gan y bydd y cynigion yn effeithio ar bob cymuned ar draws y sir.

·         Ei bod yn siom gweld bod traean o aelodau’r Cyngor yn absennol o’r cyfarfod pwysig hwn.

·         Y dymunid cael sicrwydd nad yw canol Bangor am golli allan gan fod angen buddsoddiad yn y ddinas fel sydd eisoes wedi digwydd, neu’n mynd i ddigwydd, mewn trefi eraill ar draws Gogledd Cymru.

 

Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â Bangor, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Y rhoddid ystyriaeth yn fuan i ddyrannu £250,000 o’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Mewn Adfywio ar gyfer cynllun adfywio Stryd Fawr Bangor fyddai’n tynnu i lawr swm ychwanegol o £600,000 gan Lywodraeth Cymru.

·         Mai’r neges gref ymhlith arweinyddion y Gogledd oedd na ddylid bod yn blwyfol a rhaid cofio nad oedd rhai cynghorau yn cael fawr ddim yn uniongyrchol allan o’r cynllun, ond eto’n llwyr gefnogol iddo.

 

Diolchwyd i’r Arweinydd, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a phawb arall sydd wedi gweithio ar y cynllun hwn am eu mewnbwn.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig (fel a nodir ym mharagraff 1 o’r adroddiad) i gadarnhau’r Ddogfen Gynnig er mwyn rhoi mandad i’r arweinyddion ymrwymo i Gytundeb Penawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodwyd.  Pleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid cofrestru’r bleidlais.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (45)

 

Y Cynghorwyr Menna Baines, Freya Hannah Bentham, Steve Collings, Annwen Daniels, R.Glyn Daniels, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Peter Antony Garlick, Gareth Wyn Griffith, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, R.Medwyn Hughes, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Charles W.Jones, Elin Walker Jones, Elwyn Jones, Huw Wyn Jones, Keith Jones, Kevin Morris Jones, Sion Wyn Jones, Cai Larsen, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, Dafydd Meurig, Linda Morgan, Dafydd Owen, Dewi Owen, Edgar Owen, W.Roy Owen, Jason Parry, Dewi Wyn Roberts, Elfed P.Roberts, Mair Rowlands, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Cemlyn Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gareth Williams a Gethin Glyn Williams.

 

Yn erbyn (4)

 

Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Alwyn Gruffydd, Angela Russell ac Owain Williams.

 

Atal (1)

 

Y Cynghorydd Aled Wyn Jones.

 

Nododd y Cadeirydd fod y cynnig wedi cario.

 

PENDERFYNWYD yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a buddion ariannol i’w hystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno i’r Cyngor am gymeradwyaeth:-

 

(a)     Mabwysiadu’r Ddogfen Gynnig fel (1) sail strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer y rhaglenni a'r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam Penawdau'r Telerau gyda'r Llywodraethau.

(b)     Awdurdodi'r Arweinydd i ymrwymo'r Cyngor i Benawdau'r Telerau gyda'r Llywodraethau law yn llaw ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o'r naw partner statudol arall a gynrychiolir ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda'r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau'r Telerau.

 

 

Dogfennau ategol: