Cyflwynwyd gan:Cyng Gareth Thomas
Penderfyniad:
Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgol Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.
Cofnod:
PENDERFYNWYD
Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi
2018 i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle
i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a
chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol
1 Medi 2020.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth
Thomas
Yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru bod
cyfle i Awdurdodau Lleol gyflawni
prosiectau ychwanegol oddi mewn Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif, llwyddodd
Gwynedd i sicrhau bid i ad-drefnu ysgolion cynradd yn nalgylch Bangor.
Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet (Ionawr 2017) a chymeradwywyd yr argymhelliad
i gynnal trafodaethau lleol yn unol â’r adroddiad ynglŷn ag adolygu
darpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Ym Mehefin 2017, sefydlwyd Panel Adolygu
Dalgylch Bangor i drafod y nifer o opsiynau fyddai’n gwella a chynnal safon addysg. Cyflwynwyd yr opsiynau i’r Cabinet ym Mawrth
2018 a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y broses
o adrefnu’r ysgolion cynradd. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol a derbyniwyd 68
ymateb a chyflwynwyd prif sylwadau’r ymgynghoriad hwnnw i’r Cabinet yng Ngorffennaf 2018. Penderfyniad y Cabinet yn y cyfarfod
hwnnw oedd
Cymeradwyo'r
cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig
lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu
capasiti Ysgol y Garnedd i 420.
Cymeradwyo
cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol â gofynion Adran
48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
Yn dilyn y penderfyniad, cyhoeddwyd, yn unol
â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol 2013, rybudd statudol ar y 4ydd o Fedi
2018 ac fe gynhaliwyd cyfnod o wrthwynebu statudol ar y cynnig (rhwng 4/9/18 a
2/10/18).
Amlygwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei
dderbyn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu oedd yn ymwneud a materion trafnidiaeth, diogelwch plant, cyllid, addysg ag y Gymraeg. Ategwyd bod un ohebiaeth wedi cyrraedd yn
hwyr yn y dydd a bod angen cyfarch yr ohebiaeth hynny fel rhan o’r
trafodaethau.
Gwnaed cais i’r Cabinet gefnogi’r cynnig
fyddai yn gwella adnoddau addysg yn sylweddol i blant Ysgol y Garnedd ynghyd a
phlant Ysgolion Glan Adda a Coed Mawr.
Trafodwyd y gwrthwynebiadau.
Mewn ymateb i bryderon yn ymwneud a thraffig
ar Ffordd Penrhos nododd Uwch Reolwr
Eiddo (Corfforaethol) bod pob ymgais wedi ei wneud i geisio lliniaru’r sefyllfa
sydd yn creu trafferthion yn yr ardal yn ystod y boreau a’r prynhawniau. Nododd
bod 30 lle parcio ychwanegol wedi ei gynllunio ar gyfer parcio staff ac
ymwelwyr ynghyd a man gollwng fyddai yn cael ei reoli oddi ar y brif-ffordd.
Amlygwyd bod cais cynllunio ar gyfer y
datblygiad wedi ei gymeradwyo ym Mhwyllgor Cynllunio 5.11.18 gyda phryderon
trafnidiaeth wedi eu trafod. Nodwyd bod yr Adran Trafnidiaeth yn hapus gyda’r
cyfuniad newydd o addasiadau fyddai yn cyfarch y problemau.
Mewn ymateb i bryderon trafnidiaeth yn ystod
y cyfnod adeiladu amlygwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau unrhyw
anghydfod i drigolion lleol. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r
trigolion a bod ychydig o addasiadau wedi ei wneud i’r cynlluniau. Nodwyd bod
cynllun rheolaeth traffig wedi ei lunio byddai’n parchu ystyriaethau trigolion
lleol.
Awgrymwyd y gellid ystyried amseroedd agor a
chau'r pum ysgol sydd yn yr ardal, fyddai’n lleihau dwysedd traffig. Mater i’r
ysgolion eu hunain fydd penderfynu hyn.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llwybrau
cerdded, amlygwyd bod asesiad wedi ei wneud i ganfod cartrefi’r disgyblion, ac
o ganlyniad bod y prif lwybrau cerdded yn cyrraedd yr ysgol o dri chyfeiriad
gwahanol. Er nad oedd unrhyw fwriad newid y llwybrau, nodwyd y byddai gwaith yn
cael ei wneud i hyrwyddo diogelwch ffyrdd gyda’r plant.
Er yr ymateb, nododd Aelod Ward Dewi bod sôn
am gau un o’r llwybrau am ddwy flynedd wedi creu pryderon chwyrn ymysg
trigolion lleol. Ymatebodd yr Uwch Reolwr drwy nodi bod trefniadau i gau rhai
o’r llwybrau dros dro (am oddeutu 8 wythnos), ond hefyd roedd yn barod i drafod
y mater gyda’r Aelod.
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd
Aelod Lleol Ward Glyder y prif bwyntiau canlynol:
Mewn ymateb i sylw am warchod y Gymraeg,
amlygodd Aelod Cabinet Addysg, bod pob ysgol yng Ngwynedd gyda’r un polisi
iaith. Gyda chryfder yr iaith yn Ysgol y Garnedd, nodwyd bod cyfle i gryfhau
Cymreictod Bangor a bod defnydd o’r Siarter Iaith yn adnodd ychwanegol fyddai’n
sicrhau defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.
Ategodd y Swyddog Ardal mai rhesymol fyddai
disgwyl gweld mwy o siaradwyr di Gymraeg yn yr ysgol a derbyniwyd bod gwaith
cefnogol i’w wneud yn y tymor byr. Er hynny, adroddwyd bod nifer o blant
di-gymraeg eisoes wedi mynychu Ysgol y Garnedd ac wedi llwyddo.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chadw Ysgol
Glan Adda yn agored, amlygodd y Swyddog Ardal bod sefyllfa ariannol y ddwy
ysgol yn fregus ac er bod yr ysgol yn ymddangos yn llawn nid yw’r sefyllfa yn
ddelfrydol nac yn gynaliadwy.
Mewn ymateb i’r ohebiaeth hwyr a dderbyniwyd
oedd yn amlygu pryder nad oedd ymateb digon ffeithiol wedi cael ei gyflwyno i’r
pryderon ieithyddol, nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod asesiad ieithyddol wedi
ei weithredu fel rhan o’r broses. Ategodd y dylai pob plentyn cael cyfle
cyfartal a ni ddylai plant Cymraeg gael eu cadw arwahan.
Ni ddylid amddifadu unrhyw blentyn rhag cael mynediad i adeilad ac adnodd
newydd ac ni ddylid gwahaniaethu rhwng plant ar unrhyw sail.
Atgoffwyd yr aelodau bod y cynnig yn
ganlyniad i gyfnod hir o gynllunio o fewn amserlen dynn ac y byddai unrhyw
oediad ar y penderfyniad yn amharu ar gyfnod rhyddhau'r arian. Ategwyd bod
camau statudol wedi eu cwblhau a phetai angen ymgynghori ar opsiwn arall byddai
rhaid ail ddechrau’r broses.
Awdur:Diane Jones
Dogfennau ategol: