Agenda item

I ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hwn yn gyfle i edrych yn fanylach a chael trafodaeth ar y rhaglen waith. Ychwanegwyd mai rhaglen waith cychwynnol yw’r hwn ac y bydd datblygiadau yn cael ei wneud i’r rhaglen unwaith y bydd modd cael yr holl bartneriaid at ei gilydd er mwyn datblygu prosiectau ar y cyd.

 

Mynegwyd fod 5 maes blaenoriaeth yn y rhaglen waith ac edrychwyd ar bob blaenoriaeth yn unigol.

 

a.    Iaith y Teulu

 

Trafodwyd partneriaeth gyda’r Mudiad Meithrin gan nodi fod cydweithio yn digwydd ond fod angen trafodaethau pellach. Ychwanegwyd fod y Mudiad Meithrin yn gwneud newidiadau i’w prosiectau ac o ganlyniad nad oes trafodaethau dwys wedi eu cynnal a’r mudiad.

 

Nodwyd fod trosglwyddo iaith yn deuluol yn digwydd yn arferol yng Ngwynedd, ond ychwanegwyd fod angen dealltwriaeth o ble mae’r bylchau o ran ardaloedd ble nad yw trosglwyddo iaith yn deuluol mor uchel ag eraill. Holwyd os byddai modd cael data, a mynegwyd efallai y byddai modd cael y data gan yr Adran Addysg. Trafodwyd y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu mewn ysgolion a nodwyd fod rhieni yn asesu lefel iaith plant cyn iddynt gychwyn yn yr ysgol.

 

Trafodwyd fod plant yn amsugno iaith yn y blynyddoedd cynnar a holwyd os oes appiau ar gael ar gyfer yr oedran yma drwy’r Gymraeg. Ategwyd fod myfyriwr drwy’r Coleg Cymraeg wedi bod yn gwneud ymchwil ar y maes dros gyfnod o 10 diwrnod yn y cyngor, a bod y canlyniad yn dangos fod nifer uchel o appiau yn targedu oedran cynradd a meithrin. Ychwanegwyd fod angen datblygu mwy o appiau ar gyfer oedrannau uwchradd. Mynegwyd fod angen hyrwyddo’r appiau fwy o fewn cymdeithas.

 

Trafodwyd sut mae modd sicrhau fod staff clybiau brecwast ac ar ôl ysgol yn glynu at y polisi iaith. Mynegwyd fod ymrwymiad ysgolion i’r siarter iaith yn gysylltiedig â’r clybiau. Ychwanegwyd fod GwE wedi gwneud asesiad iaith ar staff o fewn ysgolion. Ategwyd efallai fod angen sicrhau fod y Siarter Iaith yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfodydd Llywodraethwyr yn rheolaidd er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei gynnwys ym mhob agwedd o glybiau yn ogystal.

 

b.    Iaith Dysgu

 

Mynegwyd fod y system addysg yn un sydd yn gweithio o fewn y sir ond nodwyd dau fan gwan. Y cyntaf oedd gostyngiad yn nifer y plant sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf ym mlwyddyn 6 a 7 a’r ail y lleihad mewn nifer o blant sydd yn astudio pynciau drwy’r Gymraeg. Nodwyd fod y mannau gwan yma yn cael eu hadnabod o Siarter Iaith ysgolion Uwchradd. Mynegwyd fod angen diweddariad gan yr adran.

 

c.     Iaith gwaith a Gwasanaeth

 

Nodwyd fod angen cadw data o faint sydd yn cael gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol wrth edrych ar wasanaeth ieuenctid, hamdden a gofal. Nodwyd fod angen cadw golwg ar hyn.

 

d.    Iaith a Chymuned

 

Trafodwyd iaith a ddefnyddir mewn cyfarfydd Cynghorau Chymuned ac ychwanegwyd fod ychydig o arian ar gael ar gyfer cael cyfieithwyr mewn cyfarfodydd yn y gymuned. Nodwyd fod yr arian ar gael er mwyn dangos gwerth cyfieithwyr ar y pryd.

 

e.    Ymchwil a Thechnoleg

 

Dim sylwad.

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: