Agenda item

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6.03.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2018, fel rhai cywir.

 

Dymunwyd ymddeoliad hapus i Glynda O’Brien (Swyddog Cefnogi Aelodau) am ei chefnogaeth a’i gwasanaeth i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

(a)           Cynnal a Chadw
                 Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i holi’r Uwch Swyddog Harbyrau a                      
            Harbwr Feistr Abermaw am raglen waith cynnal a chadw dros gyfnod y                                      gaeaf.

 

(b)           Digwyddiadau
                
                 Derbyn bod lle i wella’r broses o atgoffa trefnwyr i gysylltu gyda’r Gwasanaeth                         Morwrol yn gyntaf i gael caniatâd i gynnal gweithgareddau a chryfhau trefniadau o                  ddydd i ddydd.

 

                        Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglŷn â digwyddiad Motorcross yn                           gwrthdaro gyda gwyliau Hanner Tymor Gwynedd a’r diffyg cyfathrebu rhwng y                                trefnwyr a Chyngor Tref Abermaw. Nodwyd bod Mr Arnold (trefnwr y Motorcross)               angen cadarnhad o ddyddiadau 2019 cyn mis Rhagfyr er mwyn trefnu’r digwyddiad.                      Ategwyd nad oedd modd newid y dyddiad ar gyfer 2018 gan fod rhaglen                                           digwyddiadau Motorcross ar draws y wlad eisoes wedi ei chyhoeddi. Gwnaed                                 awgrym y dylid osgoi penwythnosau hanner tymor mis Hydref (Gwynedd) a hefyd              rhoi ystyriaeth i ddyddiad Sul y Cofio.


            Awgrymwyd 9/10 neu 16/17 o Dachwedd fel nad oedd gwrthdaro gyda hanner      tymor. Nodwyd bod y digwyddiad yn un pwysig i’r ardal ac nad oedd eisiau ei                    golli. Pwysleisiwyd yr angen i gadarnhau’r dyddiadau gyda Mr Arnold cyn                                   mis Rhagfyr 2018

 

(c)        Ffonau Gwasanaeth Brys Y Friog

                        Amlygwyd, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i gyfleu i’r Aelod Cabinet perthnasol i                      waredu'r ffonau gwasanaethau brys oherwydd diffyg defnydd, nad oedd hyn wedi             digwydd. Awgrymwyd, cyn gwaredu, y dylid ymgynghori ymhellach gyda Gwylwyr y                      Glannau a Mudiad y Bad Achub o ddefnydd y ffonau.

 

(ch)        Gweithgareddau FLAG (Fisheries Local Action Group)

 

               Adroddwyd bod y gweithgareddau wedi bod yn llwyddiannus a bod bwriad cynyddu'r           fenter i’r dyfodol. Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhan o’r trefniadau.

 

               Nododd y Cynghorydd Tref nad oedd wedi gallu mynychu cyfarfodydd Grwp FLAG             yn yr ardal ac awgrymodd y dylid cynnig yr aelodaeth i rywun arall.                                       Cadarnhawyd mai  cynrychiolaeth gan unrhyw un o aelodau Cyngor Tref Abermaw                      oedd dymuniad y Grwp FLAG

 

(d)          Clirio Tywod

 

               Mewn datganiad nad oedd modd gweld y môr o Abermaw, nodwyd yn dilyn                         cyfarfodydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd nad oedd modd symud tywod. Er                     hynny, amlygwyd bod datganiadau positif wedi eu cynnwys mewn cylchgrawn yn                mynegi bod y traeth yn adnodd bendigedig, y morglawdd yn boblogaidd a’r sianel                         yn glir.

 

(dd)        Carthu

 

               Rhagwelir mai Doc Fictoria a Harbwr Pwllheli  yn unig fydd yn cael ei carthu

 

(e)          Cyngor Cymuned Arthog - rheoli mewn llifiad traffig

 

               Gyda mewnlifiad sylweddol o draffig twristiaeth i’r ardal adroddwyd er bod cyfarfod             wedi ei gynnal gyda’r Adran Trafnidiaeth ymddengys nad oedd pethau yn symud                ymlaen i ymateb i’r cynnydd. Amlygwyd bod Cyngor Cymuned Arthog yn cydweithio                     gyda Grŵp yn Y Friog i geisio adfer rhai o'r materion oedd yn cynnwys camau                              gweithredu  i atal parcio dros nos. Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet perthnasol yn                    derbyn copi o raglen y Pwyllgor ac felly yn ymwybodol o’r materion.

 

               Mewn ymateb i sylw bod Cyngor Tref Y Bala wedi cyflogi swyddog gorfodaeth eu                hunain, awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Louise Hughes gysylltu gyda’r                               Cynghorydd Tref am fanylion perthnasol deddf gorfodaeth, fel y gellid codi’r                         mater yng nghyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Arthog

 

(f)           Difrod i reiliau tu allan i Adeilad Dora

 

               Adroddwyd mai Cyngor Gwynedd oedd wedi ysgwyddo’r baich am dalu am y difrod.            Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r perchennog gyda rhybudd, petai               difrod pellach y byddai’r Cyngor yn cymryd camau i adennill costau.

 

Dogfennau ategol: