Agenda item

I ystyried adroddiad yr Harbwrfeistr

 

Cofnod:

(a)          Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

                        Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno                       ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2018 a Hydref 2018. Yn dilyn Haf                       arbennig gyda chynnydd sylweddol mewn niferoedd yn ymweld a’r ardal, adroddwyd                    nad oedd yr adnoddau’r Gwasanaeth yn ddigonol  i ymateb i’r holl faterion ac                           amlygwyd hyn fel risg uchel. Ategwyd bod un ddamwain angheuol wedi digwydd a                bod ymateb i’r crwner wedi ei weithredu. Nodwyd hefyd bod y staff yn gorfod delio                        gyda sefyllfaoedd anodd iawn ac mewn ymateb i hyn amlygwyd bod cyfarfod wedi ei                        drefnu gyda Gwylwyr y Glannau i drafod y sefyllfa ymhellach. Adroddwyd bod y                         Gwasanaeth dan bwysau.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer yr angorfeydd yn lleihau, adroddwyd bod                          hyn yn batrwm sydd i’w weld mewn harbyrau naturiol. Ategwyd bod y diwydiant ei                        hun yn dioddef, ond er y lleihad nid oedd yn cael effaith ar y budd economaidd wrth                 edrych ar y sefyllfa yn ei gyfanrwydd e.e., gwelwyd cynnydd positif mewn niferodd                   cychod pŵer. Nododd yr Harbwr Feistr mai newid mewn diwylliant yw un rheswm                  dros leihad yn y nifer o gychod hwylio gyda’r angen am bŵer a chyflymdra yn                               cynyddu. Ategwyd bod cwsmeriaid angen ‘prynu adnodd’, megis angorfeydd, fel                                    eitem ac mai proses hirwyntog yw’r broses sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

                        I gyfarch hyn, awgrymwyd gwasanaeth hwyluso taliadau a gwnaed cais am                          adroddiad i’r cyfarfod nesaf yn rhestru’r opsiynau posib.

 

                        Ategodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod adolygiad yn cael ei wneud                         gan y Gwasanaeth yn holi pam bod perchnogion angorfeydd wedi ymadael ac y                           byddai adroddiad ar y canfyddiadau yn cael ei gyflwyno (i bob Pwyllgor Harbwr ) ym                    mis Mawrth 2019.

 

                        Yng nghyd-destun, gosod angorfeydd, amlygwyd bod Cyngor Tref Abermaw wedi                        ystyried cyllido costau angorfeydd a bod bwriad ganddynt i godi arian ar gyfer                               pontwns. Amlygwyd yr angen i gadarnhau trefniadau perchnogaeth ac awgrymwyd                      y dylai’r Cynghorydd Tref gyfarfod gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr                       i drafod ymhellach. O ran carthu, byddai angen trwydded i weithredu. Gyda                                    chyllidebau'r Cyngor yn dynn ac yn wynebu toriadau pellach ni fyddai modd i’r                            Cyngor ariannu carthu’r Harbwr. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Tref                                              ymgynghori gyda Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i gydsynio i ysgrifennu                              llythyr at CNC i gael gweithredu. Awgrymwyd bod y gymuned yn barod i godi’r arian.

 

                        Canmolwyd cymuned Abermaw am eu parodrwydd i gydweithio a cheisio’r gorau i’r                     dref yn wyneb toriadau i gyllidebau Cyngor Gwynedd. Dylid eu cymeradwyo a’u                            llongyfarch am eu gwaith da.

              

               Adroddwyd bod archwilwyr yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau i                               ailymweld a’r gwasanaeth fis Hydref eleni fel dilyniant i’r adolygiad a gynhaliwyd                  2017. Oherwydd amgylchiadau annisgwyl nodwyd y byddai rhaid gohirio’r                            ymweliad tan fis Mawrth 2019. Bydd gwahoddiad i holl Aelodau’r Pwyllgorau                        Ymgynghorol fynychu cyfarfod ym Mhorthmadog.

 

               Tynnwyd sylw'r Aelodau at fwriad y Gwasanaeth i gyflogi cymhorthydd harbwr llawn            amser i weithio yn Harbyrau Abermaw, Aberdyfi a Porthmadog. Mewn ymateb y                  dylai’r gwasanaeth ystyried yn ofalus lle byddai’r swyddi yn cael eu hysbysebu a                          hefyd    awgrym i geisio prentisiaethau. Gwnaed cais i’r Gwasanaeth rannu’r                                  hysbyseb gyda’r Cyngor Tref.

 

(b)          Adroddiad yr Harbwr Feistr

 

               Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwr Feistr yn manylu ar faterion mordwyo,                        gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at yr angen i wneud mwy o waith                           ar y materion canlynol:

·         arwyddion diogelwch traeth Abermaw wedi bod yn llwyddiannus er bod angen mwy o arwyddion tebyg yn yr Harbwr oherwydd cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn cerdded drwy’r Harbwr.

·         Bod angen clirio ardal lloc y pysgotwyr gan ail leinio'r ardal. Awgrym i greu cytundeb newydd gydag amod i’w gadw’n lan.

·         Y gellid defnyddio tir Ffordd y Compownd ar gyfer parcio. Angen eglurder pwy yw perchennog y tir a gwirio trefniadau gorfodaeth.

Gwnaed cais gan y Pwyllgor i roi gorchymyn traffig ar y tir gan fod 16 lle ar gael. Gellid cynnig man parcio gyda Lloc y Pysgotwyr am gost ychwanegol.

·         Rheolaeth pontŵn yr harbwr - Aelod Grŵp Mynediad Traphont Abermaw i drefnu cyfarfod gyda’r Harbwr Feistr i drafod ymhellach

·         Cadw cychod dros y Gaeaf - angen annog defnyddwyr i aros. Cais i’r Harbwr Feistr ganfod syniadau gan ddefnyddwyr yr Harbwr am gymhelliant posib.

·         Digwyddiadau - angen sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu cofnodi gan Reolwr Digwyddiadau Cyngor Gwynedd fel llwyddiannau.

 

PENDERFYNWYD  derbyn yr adroddiadau.

 

 

Dogfennau ategol: