Agenda item
- Cyfarfod Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Craffu Gofal, Dydd Mawrth, 6ed Tachwedd, 2018 10.30 y.b. (Item 4.)
- Datganiadau o fuddiant ar gyfer eitem 4.
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
I dderbyn adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Cofnod:
Croesawyd
Sharon Eastlake, Prif Arolygydd y Tîm Arolygu i’r cyfarfod i gyflwyno’r Arolygiad o Wasanaethau
Plant Cyngor Gwynedd.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi mai cyflwyno adroddiad
yr arolygiad i’r pwyllgor hwn oedd cam olaf y broses o arolygu gwasanaethau
plant y Cyngor. Pwysleisiodd ei fod yn
ymfalchïo’n fawr yn y negeseuon cadarnhaol o’r adroddiad a diolchodd i’r Cadeirydd
ac aelodau’r pwyllgor am eu mewnbwn i’r arolwg.
Rhoddwyd trosolwg o ganfyddiadau’r arolwg a’r meysydd i’w datblygu gan y
Prif Arolygydd ac ymhelaethodd y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ar y
gwaith oedd eisoes ar droed i ymateb i argymhellion yr adroddiad, gan nodi:-
·
Bod yr Adran wedi cymryd
sylw manwl o’r materion yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at feysydd i’w datblygu,
ac yn hytrach na datblygu rhaglen wella, bod gan yr Adran Raglen Uchelgais, gan
mai cryfhau materion sydd eisoes angen adeiladu arnynt sydd angen ei wneud.
·
Yn hytrach nag aros nes
cyhoeddi’r adroddiad terfynol yn Awst, y cychwynnwyd ar unwaith ar y gwaith o
edrych yn fanwl ar y meysydd i’w datblygu yn sgil derbyn adborth llafar gan yr
arolygwyr ar ddiwrnod olaf yr arolygiad ym mis Mai.
·
Bod Tîm Rheoli’r Adran yn trafod y trefniadau
sicrhau ansawdd a’r trefniadau monitro cynnydd ymhob cyfarfod a bod
trafodaethau’n digwydd yn y cyfarfodydd herio perfformiad hefyd.
·
Y byddai’r Arolygiaeth
yn cadw llygaid agos hefyd a bod cyfrifoldeb ar yr Adran i adrodd ar gynnydd yn
y cyfarfodydd dwywaith y flwyddyn gyda’r Arolygiaeth.
·
Bod datblygiad y
Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ers yr adolygiad yn cynnwys:-
Ø Gwneud gwaith gyda’n partneriaid i dynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar
gael.
Ø Ychwanegu at y
strwythur o fewn y tîm fel bod un drws ffrynt ar gyfer y gwasanaeth statudol,
ond hefyd ar gyfer y gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol. Hefyd, roedd y gwasanaeth gwybodaeth teuluol
yn eistedd o fewn y gwasanaeth hwnnw erbyn hyn.
Ø Datblygu gwybodaeth ar gyfer y we fel y gellir hysbysebu beth sydd ar
gael i deuluoedd ac unigolion fydd angen cymorth.
Ø Ail-frandio’r gwasanaeth fel ‘Hwb Teulu Gwynedd’, a dyma’r porth
cyfeirio i mewn i’r gwasanaeth bellach.
·
Bod y strategaeth
cefnogi teuluoedd yn flaenoriaeth o dan Gynllun Strategol y Cyngor. Adroddwyd i’r Tim Arweinyddiaeth a’r Cabinet
o ran y cyfeiriad a chafwyd adnodd ychwanegol ar lefel uwch reolwr i ddatblygu
ac i arwain y strategaeth cefnogi teuluoedd fel mater o flaenoriaeth i’r Adran
ac ar draws y gorfforaeth.
·
O ran adolygu cynlluniau gofal ar gyfer plant mewn
gofal, bod angen edrych ar sut i wella’r canlyniad i’r plentyn a bod y Tîm
Swyddogion Adolygu Annibynnol, o dan arweiniad yr Uwch Reolwr Diogelu ac
Ansawdd, yn datblygu eu rhaglen waith eu hunain fydd yn plethu i mewn i’r
Rhaglen Uchelgais hon.
·
Bod diffyg a phrinder lleoliadau maeth addas yn her
genedlaethol, ac nid yn unig ar gyfer y plant hynny sydd â’r anghenion mwyaf
cymhleth. Gwelwyd pwysau hynny’n
gynyddol ar y Tim Maethu a gwelwyd cynnydd yn niferoedd y plant mewn gofal a’r
plant sy’n cael eu lleoli gyda’u teuluoedd estynedig. ‘Roedd gwaith yn digwydd yn rhanbarthol ac yn
genedlaethol drwy’r Fframwaith Faethu Genedlaethol ac eglurodd y Pennaeth ei
bod yn eistedd ar y grŵp llywio ar gyfer y fframwaith hwnnw fel y Pennaeth
Plant Arweiniol ar gyfer y Gogledd.
Hefyd, ‘roedd rhaglen waith ranbarthol yn arwain ar recriwtio a
marchnata ar gyfer maethu yng Ngogledd Cymru.
Yn wyneb y pwysau cynyddol i’r Cyngor fod yn asesu teuluoedd i fod yn
ofalwyr maeth, roedd rhyddhau adnoddau ar gyfer recriwtio a marchnata yn anodd,
gan nad oes gennym y swyddogion hynny ein hunain o fewn ein hadnoddau yng
Ngwynedd. Felly roedd y pwysau o’r
llysoedd i gynnal yr asesiadau a mynd â theuluoedd drwy’r Panel Maethu yn
pwyso’n drwm ar y Tîm Maethu ac roedd yn debyg bod hynny wedi bod ar draul
ychydig o’r gwaith recriwtio yr arferid ei wneud. Er hynny, roedd 9 o deuluoedd oedd yn awyddus
i faethu yn gyffredinol i’r Cyngor wedi dod drwy’r Panel Maethu yn y flwyddyn
ddiwethaf ac roedd hyn yn flaenoriaeth uchel i’r Adran gan ei fod yn diwallu
anghenion ein plant o fewn y sir.
Yna ymatebodd yr Aelod Cabinet, y Prif Arolygydd a’r Pennaeth Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau.
Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Holwyd sut roedd
canlyniadau arolwg Gwynedd yn cymharu gyda siroedd eraill. Mewn ymateb, nodwyd bod Gwynedd yn un o 6
awdurdod lleol ar draws y Gogledd oedd wedi cael archwiliad yn yr un maes a bod
y 6 adroddiad wedi’u cyhoeddi ar y We fel y gellid eu cymharu.
·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â lefelau
staffio i’r dyfodol, nodwyd bod y Cyngor hwn yn ffodus iawn o safbwynt
digonolrwydd staff a gweithwyr cymdeithasol.
Nid oedd y Cyngor yn cyflogi unrhyw weithwyr trwy asiantaeth ac roedd y
staff yn byw’n lleol, gyda chanran uchel ohonynt yn gwbl ddwyieithog ac yn
gallu cynnig gwasanaeth i deuluoedd yn eu dewis iaith. Roedd y gweithlu’n gymwysedig, yn brofiadol
ac yn ymrwymedig iawn ac roedd y gwasanaeth yn edrych ar ystod eang o
gymwysterau a sgiliau gwahanol o fewn y gweithlu, gyda phobl nad ydynt wedi
cymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwaith ardderchog gyda
theuluoedd. Roedd y gwasanaeth yn
llwyddo i ddenu pobl i swyddi yn rhwydd iawn, gyda hynny fel arfer yn golygu
dyrchafiad mewnol neu weithwyr yn symud o un tîm i’r llall i ehangu eu profiad
ac ychydig iawn o staff oedd yn gadael y Cyngor. Roedd y Gwasanaeth wedi rhoi llawer o
fuddsoddiad dros nifer o flynyddoedd i fentora a chefnogi staff ac roedd y Tim
Rheoli ar gael i’r staff ddod i ofyn am gyngor neu arweiniad. Mawr obeithid na fyddai’n rhaid edrych am
arbedion o fewn y gweithlu gan y byddai hynny’n cynyddu’r risgiau yn sylweddol
i’r Cyngor. Hefyd, rhagwelid y byddai
digonolrwydd staff yn mynd yn anoddach i’r dyfodol wrth i nifer y cyfeiriadau
gynyddu.
·
Tra’n croesawu’r ffaith
bod 9 teulu maeth newydd wedi’u recriwtio, holwyd faint o deuluoedd maeth a
gollwyd dros yr un cyfnod. Mewn ymateb,
eglurwyd bod rhai teuluoedd yn ymddeol ac eraill yn penderfynu nad ydynt yn
dymuno parhau i faethu, ond yn gyffredinol, bod niferoedd y lleoliadau maeth yn
cadw’n wastad. Gellid darparu’r union
ffigurau i’r aelod, pe dymunai hynny.
·
Mewn ymateb i ymholiad,
ymhelaethodd y Prif Arolygydd ar rôl a phroses yr Arolygiaeth wrth ymweld â’r
meysydd datblygu. Nododd hefyd y byddai
cyfeiriad at y gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r Cyngor yn llythyr blynyddol yr
Arolygiaeth fyddai’n cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf.
·
Mewn ymateb i ymholiad,
eglurwyd ei bod yn gynamserol i ddweud beth fydd effaith Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant 2014 o safbwynt arbed plant rhag dod i ofal, ac o
bosib’ na welid canlyniad y gwaith hwn am nifer o flynyddoedd.
·
Mewn ymateb i ymholiad,
eglurwyd ei bod yn anodd iawn barnu a yw’r gwaith ataliol wedi arbed plentyn
rhag dod i ofal, oherwydd efallai na fyddai’r plentyn hwnnw erioed wedi dod i
ofal beth bynnag. Ni chredid bod
tystiolaeth ar gael yng Ngwynedd, nac yn genedlaethol chwaith. Roedd grŵp o fewn y Llywodraeth yn
edrych ar ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol ac yn ceisio gwneud y cyswllt, ond
ni chafwyd y maen i’r wal hyd yma yn anffodus.
Pe gellid creu’r cyswllt hwn, byddai dadl dros symud adnoddau i’r ochr
ataliol er mwyn lleihau’r niferoedd sy’n dod i ofal.
·
Holwyd faint o blant
sy’n dal gartref yn aros am leoliad.
Mewn ymateb, nodwyd bod y gwasanaeth yn craffu’r achosion yma’n hynod
ofalus. Pe gwelid bod plentyn mewn
peryg’ o niwed arwyddocaol a bod y trothwy wedi’i gyrraedd o ran cychwyn achos
llys (sy’n golygu bod y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn),
byddai’r Adran yn gweithredu’n ddi-oed, waeth beth yw’r sefyllfa o ran
lleoliad. Roedd y Panel Craffu
Lleoliadau yn edrych ar bob un o’r plant sydd mewn gofal ac yn sicrhau nad oes
oedi na risg i’r plant hynny, ac fel pennaeth, cadarnhaodd nad oedd ganddi
bryder bod yna blant yng Ngwynedd mewn peryg’ oherwydd diffyg lleoliadau.
·
Gan gyfeirio at
baragraff 3.11 o’r adroddiad, holwyd beth oedd maint y sampl o ddogfennau
adolygu a welwyd gan yr arolygwyr. Mewn
ymateb, nodwyd mai bychan oedd y sampl, ond bod y dystiolaeth o’r grŵp
ffocws plant, y cyfweliadau gyda’r staff ar draws yr adran a’r arolygon staff
wedi dod i’r un casgliad, sef bod angen edrych yn fwy manwl ar lais y plentyn
a’r trefniadau o ran gwneud yr adolygiad yn brofiad mwy cadarnhaol.
·
Holwyd a fwriedid gwneud
mwy o waith hanes bywyd gyda’r plant.
Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn waith pwysig iawn sydd angen digwydd
ymhob achos o ran plant mewn gofal.
Roedd yna enghreifftiau da o hyn, ond nid oedd yn digwydd yn gyson ar
draws y gwasanaeth, yn bennaf oherwydd y pwysau gwaith ar weithwyr
cymdeithasol. Cyflogwyd staff dros yr
haf i ddod i mewn i gynorthwyo o fewn y timau ac roedd yna enghreifftiau o
waith stori bywyd yn cychwyn. Roedd y
timau hefyd yn gweithio gyda theuluoedd y plant er mwyn casglu lluniau, ac
ati. Yn genedlaethol, datblygwyd pecyn
cymorth ar gyfer gwneud gwaith stori bywyd sy’n canolbwyntio ar y materion
allweddol ar gyfer hynny ac ar gyfraniad gofalwyr maeth i’r gwaith hwnnw. Cydnabyddid bod angen gwneud mwy o waith yn y
maes hwn, ac er bod y gweithwyr yn awyddus iawn i wneud hynny, roedd yn anochel
bod hyn yn llithro i lawr y rhestr blaenoriaethau wrth i waith arall ddod
trwy’r drws.
Nodwyd bod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn a llongyfarchwyd yr adran ar
gynnal safon mor uchel. Mynegwyd
gwerthfawrogiad yr aelodau o ddeall bod:-
·
y meysydd datblygu
eisoes yn cael sylw;
·
9 teulu maeth newydd
wedi’u recriwtio;
·
denu i swyddi yn digwydd
yn rhwydd;
·
asesiadau manwl o
ansawdd da yn cael eu gwneud mewn modd amserol;
·
staff yn teimlo eu bod
yn cael eu cefnogi gan reolwyr;
·
teuluoedd yn gadarnhaol
ar y cyfan o ran y cymorth a ddarperir gan y Cyngor;
·
pobl ifanc yn
gwerthfawrogi gonestrwydd eu cynghorwyr personol.
Ar gais aelod, cytunwyd i ddosbarthu copïau o’r Rhaglen Uchelgais i holl
aelodau’r pwyllgor.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, y Prif Arolygydd a’r Pennaeth
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd am eu holl waith yn y maes hwn ac am eu
hymatebion i’r cwestiynau/ sylwadau.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r aelodau am eu cyfraniad gan nodi y
gwerthfawrogid y berthynas a’r deialog cyson rhwng yr Adran, y Pwyllgor Craffu
a’r Arolygiaeth.
Dogfennau ategol:
- Arolygiad o Wasanaethau Plant Cyngor Gwynedd, eitem 4. PDF 24 KB
- Atodiad - Arolygiad o Wasanaethau Plant Cyngor Gwynedd, eitem 4. PDF 517 KB