skip to main content

Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet yn darparu gwybodaeth ar niferoedd y cwynion a dderbyniwyd gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ystod y flwyddyn a’r rhesymau drostynt ynghyd â datrysiadau.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb o’r gwersi a ddysgwyd a’r camau a gymerwyd o ran y cwynion a dderbyniwyd ynghyd â manylion am y niferoedd o geisiadau gwybodaeth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi bod yr adroddiad blynyddol statudol hwn yn adroddiad cadarnhaol.  Eglurodd, oherwydd natur gwaith dydd i ddydd y gweithwyr, sy’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, ei bod yn anorfod bod yna densiynau, ond mai lles a diogelwch y person ifanc yw’r ystyriaeth bennaf.  Ychwanegodd nad oedd yr Arolygiaeth wedi codi unrhyw bryderon am drefn gwynion y Cyngor a chyfeiriodd at y sylwadau cadarnhaol a restrwyd ar gefn yr adroddiad gan unigolion ac asiantaethau sy’n bartneriaid i’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd at rai o’r prif faterion yn yr adroddiad ac ymatebodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd i gwestiynau / sylwadau cyffredinol gan yr aelodau ynglŷn â’r drefn.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r gallu i baratoi gwybodaeth byr rybudd ar gyfer achosion llys mewn achos o salwch / gwyliau’r swyddog perthnasol, eglurwyd nad oedd y gwasanaeth wedi wynebu’r sefyllfa honno hyd yma, ond bod gan yr Adran unigolion eraill sy’n gallu gwneud rhai rhannau o’r gwaith.  Pwysleisiwyd ei fod yn waith manwl sy’n rhaid ei wneud yn ofalus iawn ac efallai y byddai’n rhaid dweud wrth y llys mewn rhai sefyllfaoedd nad yw’n ymarferol bosib’ cyflawni’r gwaith o fewn yr amserlen.

·         Holwyd faint o deuluoedd sy’n gleientiaid i’r gwasanaeth fel y gellid amcangyfrif pa ganran sy’n cyflwyno cŵyn am y gwasanaeth.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad yn perthyn yn bennaf o ran yr hanes i’r cyfnod pan roedd yna tua 600 - 700 o achosion, yn cynnwys plant mewn gofal, plant mewn angen a phlant sydd angen eu cefnogi, ond bod yr agenda ataliol wedi ymestyn y nifer hynny’n sylweddol erbyn hyn.  Gan hynny, roedd yn anodd mesur ar hyn o bryd a oedd lefelau cwynion ar gynnydd ai peidio.  Nodwyd hefyd ei bod yn anodd adnabod tueddiadau gan fod y materion sy’n codi yn arbenigol iawn ac yn unigryw i amgylchiadau’r teuluoedd unigol.

·         Holwyd pryd y credid ei bod yn addas i ddod â phryder i sylw’r pwyllgor craffu.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad blynyddol yn gynnyrch pedwar adroddiad chwarterol, sy’n cael eu cynhyrchu fel rhan o drefniadau monitro’r gwasanaeth er mwyn gweld a oes unrhyw dueddiadau yn dod i’r amlwg.  Cadarnhawyd nad oedd yna unrhyw fater o bryder wedi codi yn yr achos hwn.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod yr Arolygiaeth yn cadw golwg manwl ar y cwynion a’r rhesymau drostynt a’i fod yntau hefyd yn derbyn adroddiadau cyson.  Ar hyn o bryd, roedd yr ymatebion roedd yn dderbyn, a’r Arolygiaeth yn dderbyn, yn cadarnhau bod popeth posib’ yn cael ei wneud, ond pe gwelai bod yna nifer uchel o un math o gŵyn a bod y mater angen ei graffu, byddai’n gofyn i’r pwyllgor gael golwg arno. 

·         Holwyd beth sy’n digwydd mewn sefyllfa lle mae’r Cyngor yn derbyn cŵyn dro ar ôl tro ynglŷn â diffyg cyfleusterau, oherwydd oni ddarperir y cyfleusterau hynny, bydd rhagor o gwynion yn dod i law.  Mewn ymateb, gofynnodd yr Aelod Cabinet i’r pwyllgor ymddiried ynddo ef a’r Gwasanaeth a’r Arolygiaeth i ddelio â’r sefyllfa, ond cadarnhaodd y byddai’n dod â’r mater i sylw’r pwyllgor craffu pe gwelai bod yna golli rheolaeth neu fod yna bryder.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ffynhonnell y cwynion, nodwyd ei bod yn bosib’ mewn theori i deulu gyflwyno mwy nag un gŵyn ynghylch yr un mater oherwydd nad ydynt yn hapus gyda’r ymateb a gafwyd i’w cŵyn wreiddiol, ond na chredid bod y ffigurau’n dangos hynny.

·         Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd ei bod yn syndod bod nifer y cwynion mor isel mewn maes sydd â chymaint o wrthdaro a bod pob cŵyn yn ymddangos yn briodol.

·         Holwyd pryd mae’r gloch yn canu o ran niferoedd a beth yw’r cam nesaf os nad yw’r adnodd yn cael ei roi.  Mewn ymateb, eglurwyd y byddai hyn yn cael ei godi yn y Tîm Rheoli ac y byddai’r Aelod Cabinet yn dod i wybod am y mater.  Edrychid ar y gwersi i’w dysgu o gwynion, gan gynnwys unrhyw negeseuon ynghylch prinder adnoddau a disgwylid y byddai’r rheolwyr priodol yn ymwybodol bod yna broblem.

·         Gan gyfeirio at gŵyn GC/3971-17 yn y tabl yn Atodiad 1 i’r adroddiad, sylwyd bod y golofn olaf yn nodi ‘Yn anffodus, nid oes adnodd yn bodoli ar hyn o bryd’ a holwyd lle gallai’r achwynydd droi nesaf.  Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn fater penodol yn ymwneud â’r unig therapydd galwedigaethol o fewn Gwasanaeth Derwen, ac er ceisio sicrhau trefniadau parhad gwasanaeth yn ystod absenoldeb y person hynny, y cyflwynwyd bid yn gorfforaethol yn ddiweddar iawn i gynyddu’r adnodd.

·         Holwyd beth oedd yr amserlen o ran creu taflen gwynion.  Mewn ymateb, eglurwyd y gohiriwyd creu’r daflen ar hyn o bryd gan y disgwylid i’r Cynulliad gyhoeddi rheoliadau diwygiedig.  Nid oedd yr amserlen ar gyfer hynny yn hysbys eto.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r aelodau am y drafodaeth a’r cydweithio da rhwng pawb.

 

Dogfennau ategol: