Cyflwyno adroddiad
gan Uwch Swyddog Polisi Cynllunio
Cofnod:
Cyflwyniad
gan Linda Lee a oedd yn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn. Cyflwynwyd tabl a oedd yn rhan
o’r adroddiad ymgynghori (Atodiad 1) a oedd yn nodi’r sylwadau hyn ynghyd ag
ymateb ac argymhelliad y Swyddogion ar eu cyfer.
Fe
nodwyd bod sylwadau wedi amlygu’r angen am newidiadau bach a dau newid mwy
arwyddocaol i’r CCA sef:
·
Sut
dylid diffinio ‘gormodedd’ o lety gwyliau mewn ardal? Nodwyd bod rhai ymatebion
yn gofyn am roddi ffigwr neu ganran penodol o ran hyn. Mae’r sefyllfa yn
wahanol ar draws ardal y Cynllun ac nad oes modd felly rhoi un ffigwr fel
trothwy a fyddai’n berthnasol i bobman o fewn ardal y Cynllun. Awgrymwyd mai’r
ffordd orau ymlaen fyddai amlygu ystyriaethau penodol a fyddai’n sefydlu’r
amgylchiadau hynny pryd mae digon o lety gwyliau gwasanaeth neu hunan-
wasanaeth mewn ardal a lle byddai ychwanegu atynt yn broblemus.
·
Mae
angen mwy o wybodaeth ac arweiniad yn y CCA o ran sut i ymdrin â cheisiadau i
newid gwestai i ddefnydd preswyl. Mae Polisi yn y CDLl
ar y Cyd yn gwarchod gwestai ond mae angen darparu rhagor o wybodaeth ar ei
gyfer. Awgrymwyd mai’r ffordd orau ydi cynnwys rhan newydd yn CCA i egluro’r
dystiolaeth a fyddai’n rhaid ei gyflwyno er mwyn profi fod y gwesty ddim
bellach yn hyfyw.
Gofynnwyd
am gefnogaeth i’r ymatebion arfaethedig a’r hawl i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus am y ddau newid a ddisgrifiwyd uchod ac yn rhes 1 a 2 yn yr adroddiad
ymgynghoriad cyhoeddus
Materion
a godwyd:
·
Wrth
ddelio gyda cheisiadau cynllunio am lety gwyliau hunan- wasanaeth a ddylid
cynnwys pob math o lety gwyliau, gan gynnwys tai haf, yn yr hafaliad ar gyfer
asesu os oes gormodedd yn yr ardal?
·
Cafwyd dwy farn wahanol am yr angen neu beidio
i geisio cadw gwestai: (i) ‘roedd mynd ar wyliau yn boblogaidd iawn yn oes
Fictoria ond oherwydd newidiadau yn nyheadau ymwelwyr, amlder cyfnodau gwyliau
a chyfnodau gwyliau yn y wlad yma nid yw aros mewn gwesty mor boblogaidd ac mae
llawer o westai yn cau. Mae’n anodd meddwl sut gellir atal hyn; (ii) mae rhai ymwelwyr dal yn hoffi mynd i aros mewn gwestai
o safon dda.
Ymateb:
·
Nodi’r
sylw bod sawl math o lety yn ardal y Cynllun ar gyfer yr ymwelwyr, - tai haf
(pan mae eu perchnogion yn dod i aros ynddynt ar wahanol adegau’r flwyddyn);
tai gwyliau (pan mae eu perchnogion yn eu gosod allan i wahanol ymwelwyr ar
adegau yn y flwyddyn neu trwy gydol y flwyddyn; gwestai; carafanau a mathau
tebyg o lefydd aros. Mae Polisi TWR 2: Llety Gwyliau yn y CDLl
ar y Cyd ond yn delio gyda llety â gwasanaeth a llety hunan- wasanaeth. Mae
Polisïau eraill yn bodoli yn y Cynllun yn barod i reoli lleoliad mathau o lety
sydd angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, sef y polisïau sydd yn ymwneud â
charafanau a llety gwyliau amgen, er mwyn osgoi niwed i gymunedau. Mae Polisi
TWR 2 yn rheoli effaith caniatáu llety hunan -wasanaeth mewn cymunedau. Pan
fydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno ar gyfer darparu gwesty newydd
neu pan fydd angen caniatâd cynllunio i greu llety hunan- wasanaeth mewn
adeilad cyfredol a ddefnyddir ar hyn o bryd fel tŷ, nid ydy Polisi TWR 2
yn caniatáu colli stoc tai presennol i lety gwasanaeth a hunan -wasanaeth. Yn
yr un modd nid yw’r Polisi’n cefnogi cynnig wedi ei leoli mewn ardal sy’n
breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl ardal. Trwy
ofyn am gynllun busnes nod Polisi TWR 2 ydy sicrhau bod cynnig yn creu busnes
llety gwyliau sydd yn debygol o fod yn hyfyw yn y farchnad leol, nid i hybu
busnesau a fyddai ond yn cael eu gosod allan yn gymharol achlysurol. O ran tai
haf nid oes gan y system gynllunio rheolaeth dros y math yma o dai oherwydd nad
oes angen caniatâd cynllunio i ddefnyddio tŷ fel ail dy i’w berchennog.
Mae tŷ a ddefnyddir yn achlysurol gan ei berchennog fel rhywle i ddod ar
wyliau o fewn yr un Dosbarth Defnydd, felly nid oes angen caniatâd cynllunio.
Yn yr un modd, os ydy pobl eisiau gosod eu tai allan fel llety hunan -wasanaeth
maent yn parhau i fod yn Nosbarth Defnydd tŷ yn nhermau cynllunio. Mae’r
cynyddiad mawr ym mhoblogrwydd cwmnïau marchnata llety gwyliau fel Airbnb wedi gwneud hi’n anodd cadw trac o leoliadau’r holl
lety hunan -wasanaeth mewn ardaloedd. Mae angen newid deddfwriaethol i fynd i’r
afael yn y mater, h.y. newid y Rhybudd Dosbarth Defnydd. Mae rhai awdurdodau yn
lobio rŵan oherwydd y cynnydd mewn Airbnb. Fe
wnaeth Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Benfro ysgrifennu at y Gweinidog tua 2016 i
dynnu sylw at y mater.
·
Nodi’r sylwadau. Bydd
y newid arfaethedig i’r CCA yn egluro pa fath o dystiolaeth bydd rhaid cynnig i
gyfiawnhau trosi gwesty i ddefnydd arall.
Penderfyniad
Derbyn yr
argymhelliad i gefnogi’r argymhellion ar gyfer y sylwadau a dderbyniwyd ar yr
ymgynghoriad drafft ac i awdurdodi’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i gynnal
ymgynghoriad cyhoeddus pellach mewn perthynas â’r ddau newid arwyddocaol.
Dogfennau ategol: