Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
a) I gefnogi’r bwriad o dargedu Rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau o fewn
Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor
b) Ymrwymo, mewn egwyddor, £250k o’r Gronfa Cydariannu a sefydlwyd i’w
ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni ariannol allanol ond gofyn am
adroddiad pellach ar y Cynllun terfynol er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd ag
amcanion y Cyngor ac yn cynrychioli gwerth am arian.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNWYD
a)
Cefnogi’r bwriad o dargedu Rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau o fewn
Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor
b)
Ymrwymo, mewn egwyddor, £250k o’r Gronfa
Cydariannu a sefydlwyd i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni
ariannol allanol ond gofyn am adroddiad pellach ar y Cynllun terfynol er mwyn
sicrhau ei fod yn cwrdd ag amcanion y Cyngor ac yn cynrychioli gwerth am arian.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Reolwr
Economi a Chymuned a rhoddwyd crynodeb o gyd-destun a chefndir y rhaglen oedd
yn rhagweld hyd at £22m o gyllideb
cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru rhwng 2018 - 2021.
Adroddwyd bod data Mynegrif Amddifadedd
Lluosog ar gyfer Cymru sydd yn defnyddio methodoleg clwstwr wedi ei ddefnyddio
ar gyfer adnabod yr ardaloedd (trefi) hynny gyda chanran uchaf o’r boblogaeth
sydd o fewn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. O safbwynt blaenoriaethau’r
rhaglen TRI dros y cyfnod 2018 - 2021 blaenoriaethwyd prosiectau adfywio canol
tref ar gyfer 4 lleoliad - Rhyl, Bae Colwyn Wrecsam a Bangor.
Pwysleisiwyd mai dyraniadau ariannol
tybiannol oedd wedi eu cynnig ac y byddai unrhyw ymrwymiad ariannol yn
ddibynnol ar gyflwyno Cynlluniau Prosiect fyddai’n cwrdd â gofynion Rhaglen
TRI. Nodwyd bod dyraniad rhanbarthol tybiannol Rhaglen TRI yng Ngwynedd yn
cynnwys £3m ar gyfer Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor, ynghyd a thua £1.5m ar
gyfer thema tai (adnewyddu adeiladau gwag) fyddai yn cyfrannu at
flaenoriaethu’r Strategaeth Ranbarthol (a gymeradwywyd gan y Cabinet
22.5.2018).
Nodwyd bod Partneriaeth Strategol Dinas
Bangor wedi llunio strategaeth Adfywio ar gyfer y Ddinas ac adolygwyd y rhaglen
waith yn ystod yr Haf eleni gan gadarnhau blaenoriaethau fyddai yn cyfrannu at
brif amcanion a chanllawiau Rhaglen TRI. Cyfeiriwyd at y cynlluniau yn yr
adroddiad a mynegwyd bod angen gwaith rhagbaratoi pellach i ddatblygu cynigion
manwl. Amlygwyd bod modd cyflwyno ceisiadau am yr arian ar sail prosiectau unigol
yn hytrach nag fel un pecyn llawn.
O ran ystyriaethau ariannol, atgoffwyd yr
aelodau mai cyllideb cyfalaf oedd yn cael ei ddarparu drwy’r Rhaglen TRI ac
uchafswm ymyrraeth Llywodraeth Cymru fesul prosiect fyddai 70%. Golygai hyn y
byddai angen sicrhau o leiaf 30% o arian cyfatebol. Er y byddai cydweithio gyda
phartneriaethau yn nodwedd amlwg ymhob
un o’r prosiectau, y corff arweiniol fyddai’n gyfrifol am ddatblygu manylion y
prosiect ynghyd a’r pecyn ariannu arfaethedig a’r arian cyfatebol. Amlygwyd y
byddai Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am arwain ar dri o’r prosiectau gyda’r bwriad
o gyfrannu / ryddhau £250k o’r Gronfa Cydariannu i gwrdd â’r bwlch ariannol.
Ategwyd bod Partneriaethau megis BIPBC, Prifysgol Bangor a CCG yn dymuno arwain
/ cyfrannu ar brosiectau eraill.
Mewn ymateb i’r cyflwyniad, nodwyd nad oedd
cyfyngiad gwariant yr arian yn addas a bod angen yr arian ar draws y Sir.
Awgrymwyd bod hyn yn esiampl arall o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei
ddosbarthu ar lefel rhanbarthol ac yna yn cael ei gyfyngu gan ganllawiau tynn.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llwyddiant
tebygol y gwariant, nodwyd nad oedd yr adnoddau yn debygol o fod yn ddigonol i
adfywio canol Dinas Bangor mewn tair blynedd. Ategwyd bod y weledigaeth wedi ei
sefydlu a bod gwaith sylweddol yn cael ei wneud i geisio cyfarch nodweddion y
weledigaeth hynny. Prif bwyslais y rhaglen yw newid swyddogaeth canol y Ddinas
sydd yn weledigaeth 10 - 20 mlynedd, ond bod y rhaglen yma yn gosod sylfaen i
hynny. Ategwyd bod cyfle yma i fod yn arloesol, i gysylltu cyfleoedd a gwella’r
ddarpariaeth gymunedol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r
amserlen ariannol nodwyd nad oedd gwariant wedi cael ei ystyried ar gyfer
blwyddyn 1 ac felly nid oedd risg o golli arian.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â rhannu adborth
gyda Chyngor Dinas Bangor, nodwyd mai Maer y Ddinas oedd Cadeirydd y
Bartneriaeth a bod hyn yn cryfhau’r elfen gyfathrebu .
Nodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:
Awdur:Llyr B Jones
Dogfennau ategol: