Agenda item
Er gwybodaeth gefndirol i’r eitem, gweler y
ddolen isod ar gyfer cylchlythyr rhif 10/94 a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa
Gymreig yn 1994:
http://www.wasacre.org.uk/publications/wag/W-cylchlythyr10-94.pdf
Cofnod:
(a) Derbyniwyd cais gan y Dyneiddwyr
i wasanaethu fel aelodau gyda
phleidlais ar CYSAG
Gwynedd.
(b) Esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr
bod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol
i greu CYSAGau
ac mai cyfrifoldeb Cabinet yr Awdurdodau ydoedd
y cyfansoddiad, ond wrth gwrs, gall y CYSAG gyfethol Aelodau. Cyfeiriwyd at lythyr dyddiedig 3 Mai 2018 gan Kirsty Williams oedd yn nodi mai
barn Llywodraeth Cymru erbyn hyn oedd
“er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Hawliau
Dynol 1998, dylid dehongli bod y darpariaethau yn ymwneud â chyfansoddiad CYSAG
a CMLIC yn Neddf 1996 yn caniatáu penodi personau sy’n cynrychioli’r rhai â
chredoau anghrefyddol yn yr un modd ag y maent yn caniatáu penodi personau sy’n
cynrychioli’r rhai â chredoau crefyddol …”
Aiff ymlaen i nodi “mae penodiad yn dibynnu ar farn yr Awdurdod Lleol
perthnasol ynglŷn ag a fyddai cynrychiolydd o’r fath yn helpu i sicrhau
bod y traddodiadau perthnasol yn ardal yr Awdurdod Lleol yn cael eu
hadlewyrchu’n briodol yn Grŵp A.”
(c)
Nodwyd nad
oedd adolygiad o’r aelodaeth / cyfansoddiad wedi digwydd ers 1996. Cwestiynwyd a yw traddodiadau
perthnasol yn yr ardal yn
cael eu hadlewyrchu
yn briodol yn Grŵp A, a beth yw’r farn
am gais y Dyneiddwyr i fod yn
rhan o Grŵp A.
(ch) Codwyd y pwyntiau canlynol wrth drafod yr
uchod:
i.
Beth
sydd yn digwydd mewn Awdurdodau eraill?
ii.
Yr arweiniad yn y cwrs TGAU yw bod modd gwahodd
Dyneiddwyr i ysgolion i siarad
iii.
Onid sustem gred yn hytrach
na chrefydd
yw Dyneiddiaeth?
iv.
Onid croesawu cymaint o amrywiaeth â phosib yn Grŵp
A y dylem, o gofio’r sefyllfa ddiweddar o ddiffyg cworwm yn y cyfarfod blaenorol?
Cyfeiriwyd at y sylwadau canlynol hefyd –
-
Byddai’r
Pwyllgor yn manteisio o glywed lleisiau gwahanol grefyddau yn eu trafodaethau sydd
yn greiddiol i gwricwlwm y maes dysgu
-
Byddai
yn hybu cyswllt rhwng Penaethiaid, Athrawon a Disgyblion o wahanol gredoau yn
uniongyrchol wyneb yn wyneb
-
Byddai yn gyfle i greu
pontydd a hybu cymdeithas fwy goddefgar o gredoau amrywiol
- Cadarnhawyd fod Dyneiddiaeth yn cael ei
gyflwyno yn rhai o ysgolion Gwynedd
Cadarnhawyd bod Cymdeithas CYSAGau
Cymru wedi penodi Dyneiddwraig ar eu Pwyllgor Gwaith
ac oni ddylai CYSAG adlewyrchu yr hyn
sydd yn cael
ei addysgu?
Rhaid bod yn ofalus rhag gosod blaenoriaeth i rai
credoau ac mae angen rheoli ceisiadau o’r fath yn ofalus.
A oes meini prawf?
Mae cyfle yma i ddysgu a rhannu arbenigedd
Argymhellwyd: Y byddai Pwyllgor CYSAG yn ffafriol i
geisiadau ar sail tystiolaeth, gyda amod fod credoau anghrefyddol yn cael eu
dysgu yn Ysgolion Gwynedd. Gan gyfeirio at y cais penodol, cadarnhawyd o blaid cynnwys y Dyneiddwyr i
Grŵp A.
Adroddwyd bod trafodaeth wedi codi yn y cyfarfod
blaenorol ynglŷn â’r posibilrwydd o wahodd disgybl/disgyblion ysgol i fod
yn rhan o’r aelodaeth bresennol er mwyn clywed llais y disgybl. Trafodwyd yr
egwyddor er mwyn bod yn gynhwysol ond nodwyd bod materion ymarferol oedd yn
golygu na fyddai hyn yn bosib, megis cyd-deithio i gyfarfodydd. Amlygodd rhai
eu pryder nad oeddynt yn siŵr o’r pwrpas gan fod llais unrhyw ddisgybl yn
glir yn yr ysgol a chwestiynwyd ym mha gyd-destun fyddai disgybl yn rhan o
benderfyniad?
Argymhellwyd: I
dynnu y cynnig yn ei ôl.
Dogfennau ategol:
- Cyfansoddiad CYSAG, eitem 9. PDF 79 KB
- Atodiad 1 - Cais gan Ddyneiddwyr Bangor, eitem 9. PDF 38 KB
- Atodiad 2 - Diweddariad gan Kirsty Williams ar aelodaeth CYSAGau, eitem 9. PDF 254 KB