Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Hydref 2018. Nododd bod adolygiad
ddiwedd Awst o’r cyllidebau yn dangos darlun cymysg, ond fod angen camau
gweithredu pendant i’r Adran Addysg, Adran Plant a Theuluoedd ynghyd a’r Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth
2019.
Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:
“Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Awst 2018 o’r Gyllideb
Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Gofyn i’r Aelodau
Cabinet ar gyfer gwasanaethau Plant, Addysg a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol sicrhau fod yna
gynllun gweithredu clir gan yr
adrannau i gymryd camau i
leihau’r diffyg ariannol ac i drafod
y cynlluniau hynny gyda mi er mwyn
cael hyder eu bod yn rhesymol.
·
Digolledu’r Adran Economi a Chymuned £40k sef y golled incwm yn
dilyn cau pwll nofio Arfon
dros yr haf.
·
Cynaeafu (£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol,
gyda (£40k) i’w defnyddio i ddigolledu’r
Adran Economi a Chymuned am y golled incwm tra bu
Pwll Nofio Arfon ar gau.
Gyda’r gweddill sef (£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa
Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo
gyda phwysau anochel un tro
ar gyllidebau’r Cyngor.”
Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet Cyllid i
ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:
·
Bod pwll nofio Arfon wedi
cau am ddeg wythnos dros yr
haf er mwyn
galluogi gwaith addasu. Er tegwch
i gwmni Byw’n
Iach Cyf, a fyddai’n gyfrifol am y canolfannau byw’n iach o Ebrill 2019 ymlaen, fe ddigolledir
yr Adran Economi a Chymuned am y golled incwm;
·
Cytuno efo sylwadau aelodau, nid oedd y sefyllfa
gorwariant o ran cludiant yn yr Adran
Addysg yn dderbyniol. Cynhaliwyd cyfarfod efo’r swyddogion perthnasol ynghyd â’r Prif
Weithredwr i drafod y mater ac fe
dderbyniodd sylw yng nghyfarfod y Cabinet ar 16 Hydref 2018. Y gorwariant yn yr
adrannau yng nghysylltiedig â gwasanaethau ynghlwm â’r bobl
fwyaf bregus ac yn yr achos
yma roedd y gorwariant o ran cludo disgyblion i Ysgol
Hafod Lôn. Gofynnwyd i’r adran
ystyried ffyrdd amgen o gludo disgyblion
drwy efallai dalu i rieni
yn hytrach na defnyddio tacsi
gyda’r gofyniad bod hebryngwr yn bresennol;
·
Bod y Cabinet yn ystyried y gorwariant o ran cludiant yn yr
Adran Addysg ac yn herio’r Aelod
Cabinet Addysg a swyddogion.
Roedd angen newid y drefn gan
y byddai’n anodd iawn i ddatrys
y gorwariant o gynnal y drefn bresennol;
·
Annog yr aelodau i fynychu
un o’r pedwar gweithdy a gynhelir yn dechrau Mis
Rhagfyr o ran arbedion a’r sefyllfa gyllidebol;
·
Amcangyfrifir y byddai £2.9 miliwn o incwm o ran Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol, roedd £200,000 wedi ei ymrwymo yn
y gyllideb ar gyfer gorfodi’r drefn. Gyda chanran
o weddill yr arian wedi
ei ymrwymo ar gyfer gwella’r
sefyllfa o ran tai ar gyfer pobl ifanc.
Roedd y nifer o geisiadau gan berchnogion
tai i gofrestru
eu tai fel busnes yn parhau
i gynyddu. Nid oedd gan
Swyddfa’r Prisiwr adnodd digonol i herio’r ceisiadau
yn briodol. Parheir i lobio
Llywodraeth Cymru i newid y drefn
ac annog cynghorau eraill i lobio
ar y mater, gyda Chyngor Sir Benfro yn lobio, ynghyd
â Chyngor Ynys Môn wedi ysgrifennu at Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gofyn iddo drafod y mater efo Cyllid
a Thollau ei Mawrhydi;
·
Bod
y Cyngor yn lobio Llywodraeth Cymru yng nghyswllt yr angen i newid y drefn gan
gyflwyno gofyniad i dderbyn caniatâd trwy’r drefn gynllunio er mwyn newid
tŷ i fusnes, ond nid oedd y Llywodraeth yn gefnogol i hyn;
·
Sicrhau’r aelodau bod y
Cabinet yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog ac fe wneir newidiadau i’r ffyrdd a
ddarperir gwasanaethau yn wyneb yr her ariannol gan geisio sicrhau nad oedd neb
yn dioddef. Rhoddir pwysau ar Gaerdydd o ran ariannu cynghorau gydag Arweinwyr
Cynghorau Gogledd Cymru wedi cyfarfod efo Mark Drakeford
AC i drafod y mater yn ddiweddar;
·
O ran pryder aelod bod lleihad yn nifer pecynnau
gofal cartref yn yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, ystyrir pob achos
yn unigol ac edrychir ar y ffordd
y darperir gwasanaethau;
·
Bod y Cyngor yn darparu pecynnau
gofal cartref a phreswyl yn fewnol
ar gyfran uwch na chynghorau eraill yng ngogledd Cymru.
Roedd darpariaeth fewnol yn angenrheidiol
mewn ardaloedd gwledig lle nad oedd darpariaeth breifat. Ystyriwyd fel rhan
o’r arbedion i allanoli’r ddarpariaeth
ond wrth gymharu’r costau darganfuwyd na fyddai gwahaniaeth o ran costau;
·
Yng nghyswllt y lleihad yn y nifer
o geisiadau fel rhan o gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, nid oedd
eglurhad cadarn ond bod y tueddiad yn awgrymu bod yr economi yn
gwella ac efallai bod swyddi tymhorol yn golygu bod unigolion
uwchben y trothwy o ran derbyn budd-daliadau;
·
Bod y Cyngor yn anfon pecyn
gwybodaeth o ran cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i unigolion
a’i fod wedi
ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
(i) nodi’r sefyllfa a’r risgiau
perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau;
(ii) gofyn i’r Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi ystyried craffu gorwariant yr Adran Addysg ar gludiant
disgyblion.
Dogfennau ategol: