Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 8 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw o ran archwiliadau dilyniant, bod gweithrediad derbyniol ar 58.28% o’r camau cytunedig, sef 95 allan o 163.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol

 

Ad-Daliadau Treth Cyngor

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod o ran y risg uwch o dwyll o dan y trefniadau newydd i dalu ad-daliadau drwy BACS, nododd y Rheolwr Archwilio bod yr archwiliad wedi derbyn lefel sicrwydd uchel a bod swyddogion yn ymchwilio i gynhyrchu adroddiadau pwrpasol ar gyfer cynnal gwiriadau a bod rheolaethau cydadfer wedi eu sefydlu.

 

Canolfannau Hamdden

 

Holodd aelod os byddai Archwilio Mewnol yn parhau i gynnal archwiliadau o ganolfannau hamdden ar ôl trosglwyddo’r ddarpariaeth cyfleusterau hamdden i Byw’n Iach Cyf. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod y cytundeb trosglwyddo, oedd heb ei arwyddo eto, yn nodi y byddai Archwilio Mewnol yn darparu’r gwasanaeth i’r cwmni.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, eglurodd y Rheolwr Archwilio y cyflwynir cynllun gweithredu gydag amserlen i’r gwasanaeth perthnasol, gyda gwaith dilyniant yn cael ei gwblhau i ystyried y cynnydd. Ymhelaethodd bod gwelliant clir wedi ei weld yn nhrefniadau canolfannau hamdden. Tan yn ddiweddar, byddai archwiliadau o’r canolfannau yn derbyn barn C (dan y drefn flaenorol), gyda nifer fawr o gamau gweithredu. Nododd bod y camau gweithredu erbyn hyn yn oddeutu 2 neu 3 mewn nifer gyda Chanolfan Hamdden Plas Silyn wedi derbyn barn A yn 2017.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod os oedd hi’n bosib i’r cwmni ddethol pwy fyddai’n cynnal archwiliadau, eglurodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod cymal torri pe byddai’r cwmni o’r farn nad oedd y gwasanaeth a ddarperir gan Archwilio Mewnol i’r safon ddisgwyliedig. Nododd mai Bwrdd Cyfarwyddwyr y cwmni fyddai’n derbyn adroddiadau archwilio gan Archwilio Mewnol o Ebrill 2019 ymlaen, a gan mai cwmni hyd braich y Cyngor oedd Byw’n Iach Cyf byddai’r Cyngor dal angen sicrwydd am drefniadau llywodraethu’r cwmni, ond mai’r Pennaeth Economi a Chymuned fyddai’r prif gyswllt. Ymhelaethodd bod Archwilio Mewnol yn ceisio sicrhau bod y cwmni yn cychwyn ar sylfaen gadarn ac fe fyddai’n fuddiol cwblhau’r gwaith dilyniant ar ganolfannau hamdden cyn diwedd mis Mawrth 2019.

 

Nododd aelod bod archwiliadau canolfannau hamdden yn amlygu diffyg meddylfryd masnachol, er mwyn i’r cwmni newydd fod yn llwyddiannus byddai rhaid arfogi staff i’w galluogi i weithredu yn fasnachol.

 

Holodd aelod os fyddai modd i’r archwiliadau i barhau i gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl y trosglwyddiad i Byw’n Iach Cyf. Mewn ymateb, nododd aelod ei fod yn Gadeirydd y Bwrdd Cysgodol a bod cynllun busnes yn cael ei baratoi. Ymhelaethodd y byddai gofyniad i’r cwmni gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau o ran trefniadau craffu posib.

 

Nododd aelod oherwydd bod aelodau’r Cyngor ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Byw’n Iach Cyf beth oedd diben i’r adroddiadau gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid byddai mwy o sylw yn cael ei roi i’r maes hamdden nac o’r blaen gyda’r cwmni yn atebol i’r Cyngor. Ychwanegodd y byddai cyfrifon Byw’n Iach Cyf yn cael ei gynnwys fel rhan o’r cyfrifon grŵp a gyflwynir er sylw’r Pwyllgor.

 

Incwm Parc Glynllifon

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed gwiriadau o niferoedd ymwelwyr, nododd y Rheolwr Archwilio mai’r datrysiad gorau i’r Cyngor o ran casglu ffioedd mynediad ymwelwyr i Barc Glynllifon oedd y trefniant efo tenant y Siop ger mynediad y Parc. Amlygodd bod gostyngiad yn yr adnoddau staffio, ac o ystyried mai £14,000 oedd yr incwm blynyddol, mi fyddai costau cyflogi unigolyn i wneud y gwaith yn uwch na’r incwm.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 17 Medi 2018 hyd at 16 Tachwedd 2018 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.

Dogfennau ategol: