Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd
priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)
Cwestiwn gan y
Cynghorydd Aeron Jones
“Hoffwn i’r Aelod Cabinet dros Gynllunio
esbonio i’r Cyngor llawn os ydyw am gael cyngor bargyfreithiwr sy’n arbenigo yn
y maes cynllunio ynglŷn â’r datblygiad sydd wedi’i ganiatáu gan swyddogion
y Cyngor yma ym Mhlas Pistyll a bod hyn yn cael ei wneud yn ystod y mis hwn fel
y caiff pwyllgor craffu wedyn drafod ac ystyried popeth sydd wedi mynd ymlaen
yno?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig
“Yn y bôn, rwy’n
meddwl mai cwestiwn ynglŷn â threfn ddirprwyo’r Pwyllgor Cynllunio ydi
hwn, mae’n debyg, ac mae hynny’n fater i’r Cyngor llawn. Rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Craffu wedi
gwneud argymhelliad beth amser yn ôl ynglŷn â newid y drefn ddirprwyo a
bod cyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio felly, o ganlyniad i hynny, wedi cael ei
dderbyn gan y Cyngor. O ran Plas
Pistyll, efallai bod yna fwy y tu ôl i’r cwestiwn yma nag sydd ar y papur gan y
Cynghorydd Aeron Jones. O ganlyniad i
amryw o sylwadau rydw i wedi dderbyn ynglŷn â’r penderfyniad ynglŷn â
Phlas Pistyll, mi wnes i gomisiynu rhywun i edrych yn fanwl ar sut y
cyrhaeddwyd at y penderfyniad hwnnw, ac mae yna bellach adolygiad o’r broses
honno ar ffurf drafft. I fod yn onest,
rwy’n meddwl ei bod i bob pwrpas yn gyhoeddus bellach achos mae’r mater yn cael
ei drafod gan y Pwyllgor Craffu yr wythnos nesaf. Mae’r eitem yma ar yr agenda yn y fan honno,
ac i raddau helaeth, yr adroddiad hwnnw’n sy’n cael ei ddefnyddio i helpu’r
crafwyr i ddod i benderfyniad ar hynny.
O ran defnyddio bargyfreithiwr, mater i’r ochr gyfreithiol ydi gwneud
penderfyniad ar hynny, ond rwy’n meddwl, mewn amser lle mae yna heriau ariannol
ofnadwy o’n blaenau, bod eisiau meddwl ddwywaith cyn anfon arian prin
trethdalwyr Gwynedd allan o’r sir, o bosib’.
Felly, nid ar chwarae bach mae rhywun yn gwneud hynny, ond rwy’n meddwl
mai mater i’r ochr gyfreithiol ydi penderfynu pryd mae hynny’n briodol.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones
“Gofynnaf eto i’r
Aelod Cabinet ganiatáu cael bargyfreithiwr hollol annibynnol i mewn i weld os
ydi’r adran wedi camweinyddu ac wedi mynd y tu hwnt i’r pwerau statudol?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig
“Rwy’n meddwl mod
i wedi ateb y cwestiwn yn barod i bob pwrpas.
Rwy’n meddwl y byddai’n ddoeth i ni ddisgwyl i weld beth sydd yn yr
adroddiad yma, a bydd hwnnw yn gyhoeddus, os nad yw’n gyhoeddus yn barod,
oherwydd bod hwnnw’n rhan o bapurau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yr wythnos
nesaf. Ynglŷn â’r mater o bwy sy’n
galw ar fargyfreithiwr, a phryd mae hynny’n berthnasol ac yn briodol, rwy’n
meddwl mai mater i’r ochr gyfreithiol ydi hynny. Wn i ddim oes yna swyddog o’r ochr yna eisiau
dod i mewn ar y pwynt yma, ond nid wy’n credu mai mater i mi ydi gwneud y
penderfyniad yna.”
Gair o esboniad pellach gan y Swyddog Monitro
“Fy rôl fel
Swyddog Monitro yw dehongli’r Cyfansoddiad ac mae hwnnw’n gyfansoddiadol ac
mae’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd yna ar y Swyddog Monitro - ni allaf ei
ddirprwyo. O ran y drefn graffu, mater
i’r Pwyllgor Craffu ydi sut maen nhw’n mynd ati i graffu, ond o ran comisiynu
barn gyfreithiol, mae’n rhaid bod yn glir beth ydych yn ei gomisiynu, ayb. Ein rôl ni fel cyfreithwyr proffesiynol yw
rhoi cyngor cyfreithiol proffesiynol, gwrthrychol i’r Cyngor ac mae hynny’n golygu
bob ochr o’r Cyngor, gan gynnwys craffu, y Cyngor llawn a’r Cabinet. Dyna ydi’r rôl y tu cefn i hynny.”