skip to main content

Agenda item

I dderbyn cyflwyniad gan Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir. Manylodd ar brosiect Llwybr yr Arfordir, gan nodi bod tair elfen i’r prosiect, sef cynnal a chadw, uwchraddio a datblygu. Nododd yn dilyn derbyn cyllid gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir sefydlwyd 18 cylchdaith o’r Llwybr Arfordir. Eglurodd bod cyllid ar gyfer y prosiect dan o leiaf 2021 ac os oedd gan unrhyw aelod sylw neu awgrym y dylent anfon e-bost at LlwybrArfordir@gwynedd.llyw.cymru.

 

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Gwasanaeth AHNE wedi cynnal sawl taith gerdded ar y cylchdeithiau. Tynnodd sylw bod taflen wybodaeth am y cylchdeithiau ar gael.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Balch bod arian ar gael i gynnal a chadw'r Llwybr Arfordir;

·         Oedd yr arian grant ar gyfer y cylchdeithiau yn ogystal?

·         A oedd mwy o waith i wneud yn ardal Bwlch Mawr;

·         Llongyfarch y swyddog am ei waith. Roedd O Ddrws i Ddrws yn chwarae eu rhan hefyd o ran llwyddiant y Llwybr Arfordir gyda’r Bws Arfordir yn rhedeg yn ystod yr haf. Faint o ddefnydd y gwneir o’r Llwybr Arfordir?

·         A oedd ychwanegu darnau newydd o dir at Lwybr yr Arfordir yn anodd?

·         Nad oedd rhai darnau o dir yn ardal Clynnog a Trefor wedi eu cynnwys fel rhan o’r Llwybr Arfordir. Roedd deddf yn Lloegr a oedd yn gorfodi bod tir yn mynd yn rhan o’r Llwybr Arfordir ond fe negodir yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Derbyniwyd grant gan Lywodraeth Cymru o oddeutu £100,000 yn flynyddol ers 2015 ar gyfer datblygu Llwybr yr Arfordir a chostau staffio;

·         Cyfrifoldeb y Cyngor oedd ariannu'r cylchdeithiau;

·         Bod y mân waith ym Mwlch Mawr wedi’i gwblhau yn bennaf gyda mwyafrif y gwaith o ran arwyddion;

·         Bod cownteri wedi’u claddu yn y tir yn cyfri’r nifer o bobl oedd yn defnyddio’r llwybr. Gellir anfon y ffigyrau defnyddwyr diweddaraf at Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’w rhannu efo’r aelodau;

·         Bod ychwanegu darnau newydd o dir at y Llwybr Arfordir yn bwnc llosg. Roedd tirfeddianwyr a oedd yn ymrwymo darnau o dir i’r Llwybr Arfordir yn derbyn iawndal a thelir am eu costau cyfreithiol a chostau asiant tir. Gwneir y gwaith ffurfio’r llwybr ac mewn rhai achlysuron fe roddir ffens yn ogystal i gadw cŵn allan o’r caeau. Roedd tirfeddianwyr ar y cyfan yn cyd-weithredu;

·         Bod trafodaeth wedi ei gynnal rhwng yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru cyn mabwysiadu Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, lle nodwyd y byddai gorfodaeth yn hwyluso’r broses o gwblhau Llwybr yr Arfordir. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r darn yma o’r ddeddf, fel y gwnaed yn Lloegr, gyda’r ymagwedd o gael tirfeddianwyr i brynu i mewn i’r syniad yn hytrach na gorfodi;

·         Bod negodi efo tirfeddianwyr yn gallu cymryd amser. Roedd cwblhau’r gwaith papur yn hawdd ond os oedd tirfeddiannwr yn gwrthod roedd rhaid mynd am orchymyn. Gyda’r broses gorchymyn yn cymryd cyfnod o oddeutu blwyddyn;

·         Bod 35 tirfeddiannwr a 7 tenant yn yr ardal o Bontllyfni i Trefor, roedd yn cymryd cryn amser i negodi.

 

Nododd y Cadeirydd ei ddiolch i Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir am y cyflwyniad a’i longyfarch am y gwaith.