Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a oedd yn nodi cefndir a hanes
cynllunio safle Plas Pistyll a Fferm Pistyll, Pistyll. Nodwyd bod yr eitem ar
raglen y cyfarfod ar gais y Cadeirydd yn dilyn derbyn cais gan aelod.
Nododd
aelod bod y mater yn derbyn ystyriaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar 13 Rhagfyr 2018. Amlygodd ei bryder bod y datblygiadau a
ganiatawyd ar y safle yn wreiddiol gan y Pwyllgor Cynllunio yn 2012, wedi eu
newid drwy nifer o ganiatadau cynllunio o dan hawliau
dirprwyedig swyddogion gan droi yn ddatblygiadau tai haf gyda newidiadau
sylweddol i’r cynllun gwreiddiol. Eglurodd bod asesiadau o ran y dirwedd ac
effaith gweledol y datblygiadau wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd fel rhan o’r
cais yn 2012 a bod yr hyn a ganiatawyd gan swyddogion drwy ddefnyddio eu
hawliau dirprwyedig yn diystyru’r hyn a nodwyd yn yr asesiadau. Nododd bod yr
hyn a ganiatawyd gan y Pwyllgor Cynllunio yn ddatblygiadau eco a oedd yn gweddu
i’r dirwedd. Nododd bod dyletswydd i warchod yr AHNE. Eglurodd ei fod wedi
gwneud cais drwy Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i gael barn bargyfreithiwr ar y
mater gan ei fod yn fater cymhleth.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif
bwyntiau canlynol gan aelodau:
·
Bod
Cyngor Cymuned Pistyll wedi gwneud cais i Brif Weithredwr y Cyngor i gael barn
bargyfreithiwr ar y mater. Derbyniwyd cydnabyddiaeth o’r cais ond ni
dderbyniwyd ymateb hyd yn hyn;
·
Bod diffyg ymgynghori ar y ceisiadau cynllunio
efallai wedi arwain at yr aelod lleol ar y pryd i fethu rhoi sylw i’r ceisiadau
cynllunio;
·
Bod dyletswydd ar y Cyd-Bwyllgor i edrych i mewn
i’r mater a bod angen adroddiad i sicrhau bod gwersi wedi eu dysgu a ni fyddai
sefyllfa o’r fath yn digwydd eto;
·
Dylai aelodau’r Cyngor herio’r swyddogion, fe
ddylai’r ceisiadau cynllunio fod wedi eu cyflwyno er penderfyniad y Pwyllgor
Cynllunio. Rhwystredigaeth nad oedd sylwadau’r Uned AHNE ac aelodau’r
Cyd-Bwyllgor yn derbyn sylw digonol;
·
Ei
fod yn bwysig i’r cyhoedd wybod y ffeithiau;
·
Bod
Cyngor Cymuned Pistyll wedi cefnogi’r cais gwreiddiol yn 2012 ond bod y
datblygiadau ar y safle wedi dwysau heb i’r Cyngor Cymuned fod yn ymwybodol o’r
ceisiadau;
·
Bod
yr aelod lleol yn gallu cyfeirio cais cynllunio i’r Pwyllgor Cynllunio er
penderfyniad ond efallai nad oedd ganddynt y capasiti
i wneud;
·
Bod
y drefn arferol o osod hysbyseb o gais cynllunio ger safle’r cais yn annigonol
ac o ganlyniad bod problemau o’r fath yn codi;
·
Bod
y sefyllfa yn dwyn anfri ar yr AHNE a bod angen gweithredu er mwyn atal hyn
rhag digwydd eto.
Holodd
aelod os oedd modd defnyddio adnoddau’r Cyd-Bwyllgor neu’r Gwasanaeth AHNE i
gael barn bargyfreithiwr ar y mater. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn nad oedd gan y Cydbwyllgor adnoddau a bod adnoddau’r Gwasanaeth
AHNE wedi ei glustnodi mewn rhaglen waith a oedd wedi ei chytuno gyda Cyfoeth
Naturiol Cymru.
Cynigwyd ac eiliwyd i anfon llythyr gan y Cadeirydd ar ran y
Cyd-Bwyllgor at Brif Weithredwr y Cyngor yn gofyn am farn bargyfreithiwr ar y
mater. Cafwyd trafodaeth ar eiriad y llythyr.
PENDERFYNWYD
bod y Cadeirydd yn anfon llythyr at Brif Weithredwr y Cyngor ar ran
Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn:
(i) I ddatgan siom o ran y sefyllfa yng nghyswllt
datblygiadau yn Plas Pistyll a Fferm Pistyll.
(ii) Bod y Cyd-Bwyllgor yn gofyn i’r Cyngor
gael barn gyfreithiol gan fargyfreithiwr annibynnol sydd yn arbenigwr yn y maes
ar yr achos penodol yma.
Dogfennau ategol: