Agenda item

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo.

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Tynnodd sylw bod asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau pellach mewn ymateb i bryderon y gwrthwynebwyr ynglŷn â dyluniad, gor-edrych a pharcio. 

 

Nododd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yn mynegi pryder am raddfa’r estyniad ond ni ystyrir fod yr estyniad yn afresymol o ran maint a graddfa nac ychwaith yn or-ddatblygiad o’r safle oherwydd bod ardal mwynderol rhesymol yn parhau o amgylch y tŷ. O ystyried bod dyluniad y tŷ presennol yn wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyrir y byddai’r ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd na thirlun yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Er yn cydnabod pryder yr aelod lleol a’r gwrthwynebwyr, ni ystyrir bod sail i wrthod y cais yn nhermau dyluniad a mwynderau gweledol.

 

Ymhelaethodd y derbyniwyd gwrthwynebiadau gan ddau o’r cymdogion o ran gor-edrych, preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa yn arwyddocaol, oherwydd ongl gosodiad yr eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn uniongyrchol.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei ddiolchiadau am yr ymweliad safle;

·         Bod llawer o dai haf yn yr ystâd gydag addasiadau i dai i greu elw ar draul y diwylliant Cymreig a’r iaith;

·         Pryderon parcio ar yr ystâd oherwydd nifer ymwelwyr i un tŷ;

·         Y cynhelir partïon ar y ferandas gyda bwyd a diod wedi ei brynu ymlaen llaw. Nid oedd hyn o fudd i’r economi leol;

·         Nid oedd cyfeiriad at breifatrwydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Byddai’r bwriad yn effeithio ar breifatrwydd cymdogion.

·         Cyfeirio at baragraff A29 o Bolisi PPS7 o fewn adendwm cenedlaethol o ran pellter rhwng adeiladau er mwyn lleihau gor-edrych a galluogi goleuni naturiol i’r adeiladau. O dan baragraff A30 bod gor-edrych yn golygu o ystafell i ardd cymydog sef yr ardal 3-4 medr agosaf i’r tŷ;

·         Nid oedd y dyluniad yn cyd-fynd efo’r gofynion.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, eglurodd y Rheolwr Cynllunio ni fyddai’r bwriad yn cynyddu’r nifer o ystafelloedd gwely dim ond newid y fformat ac o ganlyniad byddai ffenestr ystafell wely bresennol yn newid i fod yn ffenestr ystafell folchi. Nododd y byddai effaith yr estyniad, o ystyried yr effaith presennol ar drigolion cyfagos, yn finimal. Tynnodd sylw bod Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl) yn cyfarch materion mwynderau, ac er na nodir preifatrwydd, bod y polisi hwn yn cyfarch y mater.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pryder o ran gor-ddatblygu a’r effaith ar drigolion cyfagos;

·         Pryder o ran yr effaith ar bris stoc tai gyda thai allan o afael pobl leol;

·         Gwerthfawrogiad o’r ymweliad safle. Ni fyddai’r balconi yn creu gor-edrych ar y tŷ fferm a gan fod y tŷ gyferbyn yn is yn y tir o gymharu â’r tŷ dan sylw byddai dim ond gor-edrych o’r to;

·         Bod tai eraill ar y stad efo balconi a byddai’r tŷ yn debycach o ran dyluniad â’r tai cyfagos yn dilyn yr addasiadau;

·         Ni fyddai’r bwriad yn cael effaith o ran goleuni;

·         Bod y bwriad yn unol â’r polisïau;

·         Bod nifer uchel o dai haf yn yr ardal a bod peryg creu cynsail wrth ganiatáu’r cais gyda phrisiau tai yn cynyddu;

·         Bod problemau parcio eisoes a gyda thai yn mynd yn fwy o faint roedd y nifer o geir yn yr ardal yn cynyddu;

·         Nid oedd rheswm cynllunio i wrthod y cais;

·         Byddai diffyg mannau parcio a gor-ddatblygu yn sail i wrthod y cais?

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod y cais gerbron am estyniad ac fe roddwyd ystyriaeth o ran y dyluniad a’r effaith ar gymdogion fel rhan o’r asesiad. Argymhellir caniatáu gan ei fod yn estyniad cymedrol i’r tŷ presennol;

·         Bod angen bod yn hynod o ofalus, yr unig sail i wrthwynebu maint y datblygiad oedd dyluniad a’r effaith ar fwynderau. Er yn gwerthfawrogi’r pwynt o ran codi gwerth, nid oedd yn fater cynllunio gan nad oedd y drefn gynllunio yn rheoli gwerth. Fe fyddai’r sefyllfa yn wahanol pe rhoddir ystyriaeth i gais yn ymwneud â thŷ fforddiadwy ond nid oedd cyfyngiad o’r fath ar y tŷ hwn felly nid oedd yn briodol i’w ddefnyddio fel sail i wrthod. Byddai risg o gostau i’r Cyngor pe byddai apêl i wrthodiad ar y sail yma;

·         Byddai gwrthodiad ar sail diffyg mannau parcio yn anodd ei gefnogi oherwydd bod lle i 3 car ac nid oedd gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth. O ran gwrthod ar sail gor-ddatblygiad, nid oedd llawer o wahaniaeth o ran ôl-troed y tŷ felly byddai’n anodd amddiffyn gwrthod ar y sail yma.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Yn unol gyda’r cynlluniau a chynlluniau ychwanegol.

3.     Llechi i gydweddu

4.    Gorffeniad i gydweddu

Dogfennau ategol: