skip to main content

Agenda item

Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn aml-feddianaeth (defnydd dosbarth C4).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn amlfeddiannaeth (defnydd dosbarth C4).

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod Polisi TAI 9 o’r CDLl yn gefnogol i’r egwyddor o drosi adeiladau presennol yn dai amlfeddiannaeth o fewn ffiniau datblygu yn ddarostyngedig i gwrdd â phedwar maen prawf:

1.    Bod yr eiddo yn addas i’w drosi - Wrth ystyried maint yr adeilad a’i ddefnydd anheddol presennol ni chredir bod unrhyw reswm nad oedd yr adeilad yn addas i’w drosi ar gyfer darparu uned byw amgen i’w ddefnydd presennol.

2.    Ni ddylai cyfran tai amlfeddiannaeth mewn unrhyw ward etholiadol fod yn uwch na throthwy penodol ar gyfer y ward - 10% oedd y trothwy presennol ar gyfer ward Glyder, gyda chyfran bresennol y tai amlfeddiannaeth yn y ward yn 6.2%. Dim ond 2 dŷ allan o 13 tŷ efo’r un cod post oedd yn dai amlfeddiannaeth.

3.    Ni fyddai effaith andwyol i fwynderau preswyl eiddo cyfagos - Ni ystyrir byddai effaith mwynderol y datblygiad hwn ynddo’i hun yn sylweddol wahanol i’r hyn y gellid digwydd dan y defnydd cyfreithlon presennol ac felly ni ystyrir y byddai caniatáu un uned amlfeddiannaeth ychwanegol yn y ward yn cael effaith niweidiol arwyddocaol  ychwanegol ar fwynderau preswyl cymdogion agos.

4.    Sicrhau bod darpariaeth barcio briodol ar gyfer y datblygiad - Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw bryderon ynghylch y bwriad. Ni ystyrir byddai’r datblygiad yn arwyddocaol o safbwynt newid dwysedd defnydd y safle.

 

Nododd oherwydd ei safle mewn lleoliad anheddol presennol, ac mai defnydd anheddol o ddwysedd cyffelyb a gynhigir yma, ni ystyrir byddai’r datblygiad yn amharu ar fwynderau cymdogion na'r ardal yn gyffredinol.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod trigolion lleol a chynghorwyr Cyngor Dinas Bangor yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Mai tai teulu 3 llofft efo gardd fach a lle i barcio un car oedd y tai yn yr ardal yma;

·         Diffyg lle parcio ar y stryd;

·         Dim angen am dŷ amlfeddiannaeth, gyda 6.2% o dai amlfeddiannaeth yn y ward mi fyddai ychwanegu at y nifer yn or-ddatblygiad;

·         Bod llety’r Brifysgol yn hanner gwag;

·         Byddai pobl ifanc yn creu mwy o wastraff o gymharu â theulu, roedd problemau tipio slei bach yn yr ardal eisoes;

·         Byddai mwy o aflonyddu trigolion a bod cyfran lled uchel o dor-cyfraith yn yr ardal eisoes;

·         Bod y map lleoliad yn gamarweiniol;

·         Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais er mwyn galluogi i’r tŷ gael ei rentu gan deulu, nid oedd angen am fwy o lety myfyrwyr, i leihau’r pwysau o ran parcio a gwastraff ynghyd â lleihau tor-cyfraith.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y swyddogion:

·         Nid oedd bob cais o ran trosi tŷ i dŷ amlfeddiannaeth o angenrheidrwydd ar gyfer myfyrwyr gyda rhai pobl broffesiynol yn byw mewn tai o’r fath;

·         Pe caniateir y cais, os oedd dyhead byddai’r tŷ dal ar gael i deulu;

·         Bod 6.2% o dai yn y ward yn dai amlfeddiannaeth gyda throthwy'r ward yn 10%;

·         Cydnabod nad oedd y map yn gyfredol ond yn ddigonol ar gyfer dangos lleoliad y safle;

·         Bod lle i gadw sbwriel o fewn y cwrtil;

·         Derbyn y pryderon ond mi fyddai’n anodd profi bod gorddarpariaeth o dai amlfeddiannaeth;

·         Nid oedd parcio o fewn cwrtil y safle, dim ond rhai tai yn yr ardal oedd efo lle parcio o fewn eu cwrtil. Bod gofyn yn y safonau parcio bod ½ lle parcio ar gyfer bob ystafell wely felly roedd gofyn o ran y datblygiad yma ar gyfer 2½ lle parcio. Nid oedd hyn yn wahanol i dŷ teulu efo 2 gar, roedd darpariaeth parcio ar y stryd ar gyfer y safle. Yn ogystal roedd y safle pellter cerdded rhesymol o ganol y Ddinas gyda gwasanaeth bws ar y strydoedd cyfagos.

 

(ch)   Cynigwyd i gynnal ymweliad safle. Nododd y cynigydd ei fod yn anghytuno bod darpariaeth parcio ddigonol, byddai’r newidiadau mewnol yn ei atal rhag bod yn dŷ ar gyfer teulu a bod y bwriad yn or-ddatblygiad gyda phosibilrwydd y byddai 10 unigolyn yn byw yn y tŷ a pob un efo car. Ychwanegodd y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn gweld y sefyllfa wirioneddol. Eiliwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

Dogfennau ategol: