Agenda item
I ysytried cais Mr A
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod yr
ymgeisydd yn yrrwr trwyddedig gyda’r Cyngor yn
ystod digwyddiad a arweiniodd at dderbyn rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru yn
Mai 2017. Yn unol ag amodau trwydded gyrwyr tacsi mae’n
ofynnol bod gyrrwr yn hysbysu’r
Awdurdod Trwyddedu o unrhyw gollfarn neu ddigwyddiad troseddol sydd yn arwain at dderbyn
Rhybudd gan yr Heddlu
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a chynnig rhesymau dros beidio a rhoi
gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu am y rhybudd a dderbyniodd gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2017) am ymddygiad afreolus.
Nododd Mr A bod y digwyddiad wedi cymryd lle ar
ei noson stag a bod ei
ymddygiad allan o gymeriad. Roedd yn edifar am
yr hyn a wnaeth ac eglurodd
ei fod wedi
ymddiheuro i berchennog y siop am ei
ymddygiad ar y bore canlynol. Nid oedd yn ymwybodol bod
derbyn rhybudd yn cael ei
ystyried fel collfarn ac y byddai
yn ymddangos ar ei gofnod
DBS.
Gwahoddwyd cyflogwr yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau a cadarnhaodd nad oedd yn
ymwybodol o’r rhybudd pan gynigodd swydd i Mr A er bod yr ymgeisydd bellach
wedi rhoi eglurhad llawn iddo o’r digwyddiad.
Ategodd y cyflogwr bod yr ymgeisydd
yn yrrwr da ac nad oedd
unrhyw gwynion wedi ei dderbyn
am ei waith
o gludo pobl yn nol ac
ymlaen i’r ysbyty.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD nad oedd yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
• Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
• ffurflen gais
yr ymgeisydd
• sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad
• sylwadau llafar cyflogwr yr ymgeisydd
• adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarnau am gyfres
o droseddau (Ionawr 2010). Roedd y drosedd gyntaf am fethu
ac ildio i’r ddalfa ar
yr amser a nodwyd yn groes
i ofynion adran 6 Deddf Mechnïaeth 1976. Cafodd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu £85 costau. Roedd yr
ail drosedd o fod yn feddw ac
afreolus o dan Adran 91 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967 (Ionawr 2010) lle cafodd ddirwy
o £50. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Wolverhampton (Chwefror
2010) am ddinistrio eiddo yn groes
i adran 1 Deddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £65 a gorchymyn i dalu costau o £85. Yn Mai 2017 derbyniodd yr ymgeisydd
rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru am
ddefnyddio geiriau / ymddygiad bygythiol a sarhaus / ymddygiad afreolus er mwyn achosi braw / trallod
yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus
1986.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 2.3 o’r Polisi lle cyfeirir at ‘faterion eraill i’w hystyried’
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi
eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff
6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau
o drais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi
y bydd cais am drwydded fel rheol
yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan
gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad
y cais. Nodi’r hefyd, ym mharagraff 6.6, y bydd cais yn cael
ei wrthod os oes mwy
nag un gollfarn
am drosedd
o natur dreisgar yn erbyn yr
ymgeisydd, neu fater arall i’w
ystyried yn gysylltiedig â hynny o fewn y 10 mlynedd diwethaf
Rhoddodd yr Is Bwyllgor ystyriaeth hefyd
i baragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf
sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r
polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail- droseddu sydd yn dangos
diffyg parch at les eraill ac eiddo. O
dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd
wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf
diweddar.
Nododd
yr Is Bwyllgor nad oedd darpariaethau
penodol yn y Polisi at y ddwy drosedd gyntaf (methu ag ildio i’r ddalfa
a bod yn feddw ac afreolus). Er bod y
troseddau’n amlygu pryder, roeddynt tu hwnt
i ofynion y polisi o 3 blynedd ac nid yn sail ddigonol i wrthod y cais.
Er hynny, roedd yr Is Bwyllgor yn
ystyried bod y drosedd o greu difrod a’r rhybudd
a dderbyniwyd yn 2017 yn droseddau o drais a hefyd yn cyfrif fel mwy nag un drosedd o fewn y deg mlynedd
ddiwethaf o droseddau o natur dreisgar.
Roedd hyn yn sail i ystyried paragraff
6.6 o’r polisi. Yn ychwanegol, roedd y
ddwy drosedd hefyd yn creu hanes
o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg
parch at les eraill ac eiddo. O dan paragraff
16.6 o’r polisi rhaid bod 10
mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
O dan
ddarpariaethau Adrannau 51, 55, a 59 o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu sicrhau bod y
sawl sy'n ymgeisio am drwydded gyrrwr
/ gweithredwr, neu i adnewyddu
trwydded o'r fath, yn unigolyn 'addas a
phriodol' i ddal y drwydded honno. Fodd bynnag, os oes unrhyw faterion i'w hystyried yng nghyswllt yr
ymgeisydd / deilydd
y drwydded, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu
ystyried difrifoldeb, perthnasedd, dyddiad
y drosedd, dyddiad y gollfarn,
oedran ar adeg y gollfarn, math o
ddedfryd, patrwm o droseddu ac arall.
Wedi ystyried cefndir y digwyddiad
yn 2017 nid oedd yr Is Bwyllgor yn fodlon, er
i’r ymgeisydd gyfaddef ei fod yn euog,
bod y rhesymau dros ei ymddygiad yn
ddigonol i esgusodi’r drosedd. Nodwyd
bod gan yr ymgeisydd drwydded gyrru hacni ar yr amser y derbyniodd
rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru ond nad
oedd y wybodaeth yma wedi cael ei rannu gyda’r Adran Trwyddedu. Ymddengys bod y wybodaeth wedi ei rannu wrth gwblhau cais adnewyddu trwydded. Er eglurhad yr
ymgeisydd nad oedd yn ymwybodol bod
angen datgelu’r wybodaeth am y rhybudd nid oedd yr Is Bwyllgor yn derbyn hyn gan fod ffurflen gais am drwydded yn nodi
yn glir yr angen am wybodaeth
troseddau a rhybuddion. Fel gyrrwr, dylai fod yn ymwybodol o’r angen
yma.
Ystyriodd yr Is bwyllgor nad oedd yr
ymgeisydd wedi gwneud datganiad gonest i’w
gyflogwr a bod hyn yn amlygu ynddo’i hun, nad oedd yn
berson addas a phriodol.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
a bod hawl ganddo i gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad
yr Is-bwyllgor o fewn cyfnod o 21
diwrnod o dderbyn y llythyr.