Agenda item

I ysytried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a chynnig eglurhad am y troseddau. Nododd bod ganddo ddiddordeb mawr mewn ceir a gyrru ceir a’i fod yn y broses o agor garej yn y dyfodol agos. Ategodd ei fod wedi cwblhau nifer o gyrsiau gyrru ac y byddai swydd fel gyrrwr tacsi yn gyfle i dderbyn incwm ychwanegol i gefnogi ei fenter. Nododd bod AS Cabs wedi cynnig oriau hyblyg iddo fel gyrrwr petai ei gais yn llwyddiannus, ei fod wedi cwblhau prawf iechyd ac yn talu am ei drwydded ei hun. Cadarnahoedd nad oedd wedi yfed alcohol ers 2005 ac nad oedd yn defnyddio cyffuriau.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

           GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor

            Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

          sylwadau llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn (Mawrth 2006) gan Lys y Goron Yr Wyddgrug am achosi anaf i unigolyn yn groes i ddarpariaethau Deddf Troseddau yn erbyn Person 1861. Cafodd ddedfryd o garchar am 9 mis oedd wedi ei atal am 2 flynedd, 12 mis o orchymyn gwarchodaeth, 250 o oriau di-dâl a gorchymyn i dalu £600 o gostau. Ym mis Mai 2011 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd am ddwy drosedd yn ymwneud a chyffuriau yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 - un am gynhyrchu canabis ac un o gael resin canabis yn ei feddiant (Rhagfyr 2010). Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o orchymyn cymunedol a gorchymyn i wneud 80 awr o waith di-dâl am feddiant a dedfryd o 12 mis o orchymyn cymunedol, gorchymyn i wneud 80 awr o waith di-dâl a chostau o £85. Cafodd y cyffuriau eu cymryd a’u dinistrio.

 

Tynwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi nodi yn wirfoddol ar ei ffurflen gais bod ganddo gollfarn am yrru cerbyd heb yswiriant (Gorffennaf 2012) lle derbyniodd 3 pwynt.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

      Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu    Troseddwyr     1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor     ystyried pob collfarn, p’run     ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu     beidio.

 

Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Mae paragraff 6.5 o’r        Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes   gan      yr ymgeisydd   fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am       ymosodiad      cyffredin sydd yn llai na 3       blynedd cyn dyddiad y cais.

 

            Ystyriwyd adran 9.0 o’r Polisi sydd yn trafod troseddau sydd yn ymwneud a chyffuriau ac amlygwyd bod adran 9.1 yn amlinellu bod unrhyw drosedd sydd yn ymwneud a chyffuriau yn fater difrifol ac y dylid ystyried natur a swm y cyffur dan sylw. Ategwyd y byddai cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn yn erbyn yr ymgeisydd am droseddau’n gysylltiedig â bod â chyffuriau mewn meddiant, ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn(au) am 5 mlynedd o leiaf. Mae paragraff 9.4 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes rhybudd unigol am drosedd yn gysylltiedig â bod mewn meddiant a chyffuriau o fewn y 3 blynedd diwethaf.

 

            Mae paragraff 12.2 yn diffinio troseddau difrifol sydd yn cynnwys gyrru cerbyd heb yswiriant gyda 12.3 yn nodi y byddai cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

      Rhoddodd yr Is Bwyllgor ystyriaeth hefyd i baragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd    yn        ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n            bodloni            canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o            ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi        rhaid bod 10 mlynedd wedi    mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

      Ystyriodd yr Is Bwyllgor bod y gollfarn gyntaf yn gyfystyr a throsedd o drais ond    gyda 12       mlynedd wedi mynd heibio nid oedd yn sail i wrthod y cais. Er         hynny, gallai fod yn sail i       wrthod y cais yn rhinwedd paragraff 16.1.     Ystyriodd yr Is Bwyllgor bod yr ail gollfarn yn       ymwneud a throseddau          cyffuriau, ond gyda 7 mlynedd wedi mynd     heibio nid oedd yn sail ar       gyfer gwrthod y cais. Ystyriodd y r Is bwyllgor bod y drosedd o yrru heb     yswiriant yn     drosedd draffig difrifol ond eto, gyda’r 8 mlynedd wedi yn heibio nid oedd yn sail i wrthod y      cais.

 

            Fodd bynnag, roedd y ddwy drosedd gyntaf yn creu hanes o ail-droseddu sydd     yn dangos       diffyg parch at les eraill ac eiddo ac o ganlyniad rhaid oedd           ystyried paragraff 16.6 o’r polisi         sydd yn nodi rhaid bod 10 mlynedd wedi    mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

      Amlygodd y Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r Polisi yn orfodol a bod modd         gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r achos yn cyfiawnhau hynny. Ar    ôl ystyried        eglurhad yr ymgeisydd dros amgylchiadau’r collfarnau,            penderfynodd yr Is Bwyllgor   bod amgylchiadau'r cais yn cyfiawnhau       ymadawiad o'r gwaharddiad o dan y Polisi, am y      rhesymau a ganlyn:

 

·         Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau bod collfarn 2005 wedi digwyddiad yn ystod Gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau lle bu i ddau ddyn ymosod arno. Collodd yr ymgeisydd ei dymer a thaflu potel ar un o’r dynion. Cyrhaeddodd y plismyn a chyfaddefodd ei fod yn euog a chafodd ei gymryd i’r celloedd. Nododd ei fod wedi ymatal rhag yfed alcohol ers y digwyddiad hwn. Barn yr Is-bwyllgor oedd bod yr euogfarn yma yn ddigwyddiad unigol lle cafodd ei ysgogi, allan o gymeriad ac wedi sbarduno newid agwedd. Roedd absenoldeb unrhyw droseddau trais ychwanegol, yn ogystal  ag atal yfed alcohol ers y digwyddiad yn cryfhau’r achos.

 

·         Cadarnhaodd yr ymgeisydd bod y gollfarn 2011 yn gysylltiedig â digwyddiad lle gadawodd i’w ffrind adael un planhigyn canabis ar ei eiddo. Nododd nad oedd wedi cymryd cyffuriau nac yn chwarae unrhyw ran mewn cynhyrchu cyffuriau. Er bod gan yr Is-bwyllgor farn gadarn ar gyffuriau anghyfreithlon, ystyriwyd bod ymddygiad yr ymgeisydd yn yr achos yma yn eithaf diniwed a bod dedfryd o orchymyn cymunedol ( a dim dirwy) gan y Llys Ynadon yn adlewyrchu hyn. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gynhyrchu ar raddfa fawr, ac nid oedd tystiolaeth o unrhyw enillion economaidd.

 

O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod  Mr A yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr hacni a hurio preifat. Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.