skip to main content

Agenda item

I ysytried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

      Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am   gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd bod Mr B yn        ymwybodol pan oedd yn gwneud y cais y byddai yn cael ei gyfeirio at Is Bwyllgor            oherwydd        cynnwys yr adroddiad DBS. Ategwyd nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw gollfarn    ers 2014 ac nad oedd wedi yfed alcohol ers derbyn collfarn am yfed a gyrru yn 2011.             Nododd bod ganddo dri o blant a'i fod angen swydd i gefnogi ei deulu ifanc oherwydd        iddo gael ei wneud yn ddi-waith yn ddiweddar.

 

      Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor        drafod y cais.

 

      PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd, ar hyn o bryd, yn berson addas a            phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor    Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.

      

       Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau gan Lys Ynadon, Gwynedd 

(Tachwedd 2011). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a gyrru car heb yswiriant yn

groes i adran 143 (2) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 lle cafodd ddirwy o £120.00 ac

ardystiwyd ei drwydded.  Roedd yr ail drosedd am yfed a gyrru yn groes i adran 5(1)(A)

o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd. Cafodd ddirwy o £120.00, gorchymyn i dalu costau a’i

wahardd rhag gyrru am 18 mis. Roedd y trydydd drosedd am yrru car yn groes i ofynion y drwydded a cafodd orchymyn i dalu costau £15 ac ardystiwyd ei drwydded. 

                  

                   Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn a ddwy drosedd gan Lys Ynadon Gwynedd (Hydref                    2013). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a dwyn yn groes i adran 1 Deddf Lladrad          1968 lle cafodd orchymyn i dalu costau o £100 ac iawndal o £10. Roedd yr ail drosedd yn ymwneud a methu ildio i’r ddalfa yn groes i adran 6(1) Deddf Mechnïaeth 1976 lle       cafodd ddirwy o £50 a chostau o £20.

 

                   Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau gan Lys Ynadon Gwynedd                    (Mehefin) 2014). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud  ac atal cwnstabl yn groes i    adran 89 (2) Deddf yr Heddlu 1996 lle cafodd ddirwy o £90. Roedd yr ail drosedd yn     ymwneud a defnyddio cerbyd heb yswiriant yn groes i adran 143 (2) Deddf Traffig        Ffyrdd 1988 lle cafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o 12 mis, gorchymyn i dalu        dirwy o £110 a chostau o £105.00. Roedd y trydydd drosedd yn ymwneud a throsedd     yn ymwneud a gyrru car yn groes i ofynion y drwydded a cafodd orchymyn i dalu dirwy         ac ardystiwyd ei drwydded..

 

                   Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd            disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y             Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae          cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

                   Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr             1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run    ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

                   Mae paragraff 8 o’r Polisi yn cyfarch troseddau anonestrwydd a pharagraff 8.2 yn nodi                    byddai cais yn cael ei wrthod fel rheol os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan                    gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y          cais. Mae'r paragraff yn rhestru ymhlith materion eraill sy'n droseddau sydd yn ymwneud a bwgleriaeth.

 

                   Ystyriwyd paragraff 12.10 lle nodi’r bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn          yn erbyn yr ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad o 12 mis neu fwy, oni bai bod      cyfnod o 18 mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.

 

                   Rhoddodd yr Is Bwyllgor ystyriaeth hefyd i baragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd yn    ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni     canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn             dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi    mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

                   Ystyriodd yr Is Bwyllgor bod y drosedd o anonestrwydd yn un hanesyddol ac felly nid            oedd yn sail i wrthod y cais. Wrth ystyried y troseddau gyrru yn unigol ymddengys eu    bod tu hwnt i’r cyfnod amser a ystyrir ym mharagraff 12.10, ond gyda’i gilydd yn creu      hanes o aildroseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo. O ganlyniad      roedd paragraff 16.1 yn dod i rym.

 

                   Er bod yr Is Bwyllgor yn derbyn yr eglurhad a    roddwyd gan gynrychiolydd yr            ymgeisydd ar gefndir y digwyddiadau, ac nad oedd yr    ymgeisydd yn ymwybodol o   ofynion ei drwydded, roedd y drosedd o yrru heb sicrhau bod ei drwydded yn        cyfarch y gofynion, yn un a oedd yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

 

                   Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy           lythyr i’r ymgeisydd a bod hawl ganddo i gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad yr Is-       bwyllgor o fewn cyfnod o 21 diwrnod o dderbyn y llythyr