Agenda item

Adroddiad gan Arwyn Thomas

Cofnod:

PENDERFYNIAD

Derbyn yr Adroddiad.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i sut yr adroddir ar fesurau perfformiad. O ganlyniad nid oes unrhyw wybodaeth gymharol ar lefel awdurdod lleol nag ar lefel consortia ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 na Chyfnod Allweddol 3.

Cychwynnwyd drwy drafod y Cyfnod Sylfaen a nodwyd er bod perfformiad wedi gostwng yn rhanbarthol, mynegwyd fod y gostyngiad yn is na’r gostyngiad cenedlaethol ar draws bob adran. Y prif reswm am hyn yw’r defnydd am y tro cyntaf o ddeilliannau newydd mewn iaith a mathemateg o’r Fframwaith CS ar gyfer asesu.  Wrth edrych ar Gyfnod Allweddol 2 nodwyd fod perfformiad yn parhau i fod yn gadarn ym mhob pwnc gyda’r rhanbarth yn parhau i fod yn gryf ar y lefel disgwyliedig a’r lefelau uwch na’r disgwyl. Nodwyd y bydd GwE yn parhau i gryfhau gweithio clwstwr ymhellach er mwyn hyrwyddo cydweithrediad a rhannu arferion da. Nodwyd fod proffil Estyn ar gyfer ysgolion cynradd yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn gyda chynnydd yn niferoedd o ysgolion wedi derbyn dyfarniadau uchaf i 13.2%. Ychwanegwyd mai dim ond 3 oedd yng nghategori statudol Estyn ar hyn o bryd, sydd yn 0.75% o ysgolion cynradd y rhanbarth.

Wrth edrych ar Gyfnod Allweddol 3, nodwyd fod y perfformiad yn gadarnhaol a bod perfformiad y rhanbarth yn parhau yn uwch na’r ffigwr cenedlaethol yn y pynciau craidd. Trafodwyd y bwlch rhywedd rhanbarthol, ble mae merched yn parhau i berfformia’n well na bechgyn.

Mynegwyd yn gyffredinol mai siomedig yw perfformiad Cyfnod Allweddol 4, gan ychwanegu fod Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd yn nodi cyfeiriad ar gyfer datblygiadau rhanbarthol dros y tair blynedd nesaf. Ychwanegwyd fod GwE wedi bod yn gweithio i wella perthynas gyda’r ysgolion ac mae gwaith yn cael ei wneud i’w cefnogi. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud gan GwE i wella effeithiolrwydd arweinyddiaeth canol o ran arwain yr addysgu, asesu, tracio a'u gallu i werthuso yn gadarn a gobeithir y bydd hyn yn dwyn ffrwyth yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i well perfformiad dysgwyr PYD  drwy sicrhau fod ysgolion yn derbyn arweiniad a chymorth clir ynghylch strategaethau effeithiol, dysgu a thracio.

Nodwyd fod GwE yn buddsoddi yn CA3 a fydd yn llifo i mewn i CA4, a nodwyd fod y berthynas rhwng GwE ac ysgolion uwchradd yn gadarn iawn. Ychwanegwyd fod camau wedi eu gwneud ond nad yw’r canlyniadau yn amlwg eto. Trafodwyd disgyblion PyD, gan nodi y bydd effaith o bosib pan fydd y Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno.

Trafodwyd canlyniadau TGAU Saesneg, gan bwysleisio ei bod yn anodd symud ymlaen tan y bydd esboniad arwyddocaol i beth ddigwyddodd. Nodwyd anghysondeb mewn ymatebion gan Gymwysterau Cymru, ac y dylai disgyblion sydd wedi cyrraedd y safon dderbyn Gradd C. Mae codi’r nifer o farciau oedd angen i gael gradd C yn yr Haf wedi golygu na all nifer sylweddol o ddysgwyr y rhanbarth fynd ymlaen i’r cyrsiau ôl-16 oeddynt wedi dymuno eu dilyn.

Mynegwyd nad yw Cymwysterau Cymru wedi rheoli’r sefyllfa yn dda, a nad oes unrhyw ymddiheuriadau wedi ei dderbyn. Nodwyd fod Kirsty Williams wedi nodi nad oes modd i’r Llywodraeth gomisiynu ymgynghoriad gan ei fod yn fwrdd annibynnol.

Trafodwyd Cyfnod Allweddol 5 gan nodi fod y model ar gyfer y ddarpariaeth yn amrywio o fewn awdurdodau ac ar draws y rhanbarth. Er hyn nodwyd cynnydd yn A2 ac Uwch gyfrannol, ac ychwanegwyd fod y rhanbarth ar y blaen yn rhanbarthol o ran Cymru mewn rhai dangosyddion ond y tu ôl ar fesurau eraill.

 

Dogfennau ategol: