Agenda item

I dderbyn atebion i unrhyw gwestiynnau amgaedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion isod:  

 

1

Cyng. Annwen Hughes – Cwestiwn i Network Rail

 

“Beth yw'r diweddaraf erbyn hyn ynglŷn â gosod barriers ar groesfan Talwrn Bach”

 

Nodwyd mai'r pecyn o ddatblygiadau oedd yn cynnwys croesfan Talwrn Bach oedd un o’r ychydig rai i gael ei effeithio gan gwymp cwmni Carillion. Nid oedd y sefyllfa wedi newid ers cyfarfod blaenorol y Gynhadledd, ac y byddai’r gwaith yn cael ei raglennu ar ôl Ebrill 2019. Nododd Mr Sam Hadley ei fod yn cydymdeimlo gyda rhwystredigaeth y trigolion lleol, ac y byddai’n adrodd ar unrhyw gynnydd yng nghyfarfod nesaf y Gynhadledd.

 

2.1

Richard Williams, Cynghorydd Tref Porthmadog – Cwestiwn i Trafnidiaeth Cymru

 

“Pam fod y gwybodaeth ar y system uchelseinydd yn uniaith Saesneg yn yr orsaf Porthmadog?”

 

Nodwyd y byddai cyhoeddiadau uchelseinydd i’r dyfodol yn ddwyieithog, yn unol â pholisi Trafnidiaeth Cymru.

 

2.2

“Agwedd anghwrtais gan y person ‘Arweinydd Tocynnau ar y tren’ pan holais beth oedd y rheswm nad oeddwn yn cael defnyddio’r Cerdyn Teithio. (Pam fod teithwyr Blaenau Ffestiniog a Conwy yn cael eu defnyddio drwy y flwyddyn)” 

 

Nodwyd fod y trenau presennol ar Reilffordd Arfodir y Cambrian yn rhy brysur i alluogi teithiau am ddim. Hyderwyd y byddai dyfodiad trenau gyda mwy o seddi yn galluogi cynnig yr un gwasanaeth i’r dyfodol.

 

3.1

Cyngor Tref Porthmadog - Cwestiynau i Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’r Pwyllgor

 

“Dymunai Gyngor Tref Porthmadog dderbyn sicrhad gennych fod yr Iaith Gymraeg am gael ei defnyddio ym mhob agwedd o wasanaeth gan y gweithredwr trenau ar Reilffordd Arfodir y Cambrian

 

Dymunir gweld popeth yn ddwyieithog a dymunir gweld enwau llefydd yn cael eu hynganu/cyhoeddi mewn Cymraeg Cywir.”

 

Nodwyd fod polisi Trafnidiaeth Cymru yn golygu fod hyn ar y gweill, a bod rhaid gwella’r ddarpariaeth fel rhan o’r trefniadau newydd.

 

4.1

Cyng. Owain Williams – Cwestiynnau i Trafnidiaeth Cymru a Network Rail

 

“A yw holl lenyddiaeth y Rheilffordd Cambrian yn hollol ddwyieithog? h.y. posteri, taflenni gwybodaeth ayyb. Os na, yna pryd gellir hyn ddigwydd?”

 

Nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cydweithio gyda Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian a gweithredu ei pholisi o weithredu’n ddwyieithog. Bwriedid dechrau’r gwaith yn fuan.

 

4.2

“A yw’r holl staff sy’n delio a’r cwsmeriaid ar Reilffordd y Cambrian yn Ddwyieithog? Os na, yna pryd y gellir disgwyl hyn?”

 

Nodwyd mai ychydig iawn oedd cyswllt Network Rail gyda’r cyhoedd yn uniongyrchol. Fodd bynnag, ychwanegwyd y byddai Netwrork rail yn gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru er mwyn rhoi wyneb cyhoeddus dwyieithog.

 

5

R. Goodhew, Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Aberystwyth i’r Amwythig – Cwestiwn i Trafnidiaeth Cymru

 

Are there any plans to provide specific guidance for passengers who are travelling to and from the Cambrian Coast Line and the Cambrian Main Line west of Machynlleth in the next version of the printed pocket timetable (Dec 2018)? [any through carriages/change at Mach/Change at Dyfi Jn etc]

 

Nodwyd y byddai llawer o drefniadau oedd wedi eu hetifeddu gan Arriva yn cael eu hadolygu wrth i Drafnidiaeth Cymru ddechrau ar ei raglen waith, ac y byddai’r awgrymiadau yn cael eu cymryd i ystyriaeth.  Ychwanegwyd fod Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian eisoes yn cynhyrchu fersiwn o’r amserlen wedi ei chrynhoi ar gyfer teithwyr oedd yn newid o un lein i’r llall.

 

6.1

Liz Saville Roberts A.S. – Cwestiynnau i Trafnidiaeth Cymru

 

“Pa gynlluniau sydd gennych i wella diogelwch teithwyr gyda’r nos e.e. Teithwyr sydd yn aros mewn gorsaf rheilffordd anghysbell fel Cyffordd Dyfi a beth yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno unrhyw welliannau?”

 

Nodwyd fod Cyffordd Dyfi yn broblem hanesyddol oherwydd ei leoliad anghysbell. Gobaith Trafnidiaeth Cymru oedd y byddai eu rhaglen waith yn arwain at wella’r sefyllfa yn ogystal â gwella’r cysylltiadau rhwng trenau ar Reilffordd y Cambrian a Rheilffordd Aberystwyth ac Amwythig.

 

6.2

“Daeth i’m sylw yn ystod yr haf bod pobl ifanc yn chwarae ar y rheilffordd. Sut ydych chi’n cydweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig i addysgu plant a phobl ifanc o’r peryglon chwarae ar a ger rheilffyrdd?”

 

Nodwyd fod atal tresmasu ar y rheilffordd yn waith partneriaeth cyson, oedd wedi ei gyfarch yn adroddiadau’r Heddlu trafnidiaeth a Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian.

 

6.3

“Mae nifer o etholwyr yn cysylltu er mwyn mynegi eu profiadau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn adrodd bod amserlenni trenau a bysiau er enghraifft ddim yn cysylltu’n effeithlon, gydag amseroedd aros hir iawn. Beth yw eich cynlluniau i wella cysylltedd trenau o Aberystwyth i Feirionnydd, a pha drafodaethau yr ydych wedi ei gael i wella cysylltedd gyda bysiau?”

 

Nodwyd fod gwaith yn mynd ymlaen rhwng y Rheilffyrdd, Traws Cymru a Chyngor Gwynedd er mwyn cydlynu amserlenni, ond bod natur fasnachol rhai llwybrau bysiau yn ei wneud yn anodd. Ychwanegwyd bod cais wedi ei wneud i fysus i aros am drenau cyn gadael cysylltfan.

 

7

Cyng. Louise Hughes – Cwestiwn i Network Rail

 

“Mae’r gymuned leol wedi codi pryderon mawr am sefyllfa goleuo gorsaf Llwyngwril, yn ogystal a chyflwr wal ger yr orsaf”

 

Nodwyd fod Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi eu comisiynu i archwilio’r wal ac argymell datrysiad. Ychwanegwyd ei fod yn broses hir, ond bod deialog iach wedi ei gynnal ac y byddai’r gwaith yn cael ei raglennu pan fyddai’r gwaith datblygu wedi ei gwblhau a chyllid ar gael. Hyd nes byddai hynny’n digwydd, byddai’n broses o reoli’r risg. Mewn perthynas â goleuo’r orsaf nodwyd ei fod yn gynllun ehangach fyddai’n cynnwys goleuo’r llwybr at yr orsaf er mwyn gwella diogelwch yr ardal, gyda’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn Ebrill 2019. Nododd Mr Sam Hadley y byddai’n fodlon mynd i gyfarfod y Cyngor Cymuned er mwyn clywed eu pryderon.

 

Penderfynwyd: Diolch am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion.

 

Dogfennau ategol: