I ystyried cais Mr A
(copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Eglurwyd bod yr
ymgeisydd wedi gwneud cais am
drwydded yng Ngorffennaf 2015 lle gwiriwyd a phenderfynwyd ar y cais ar
sail asesiad swyddog. Dengys cofnodion yr Uned
Drwyddedu na fu i’r cais gael
ei gyfeirio at Is Bwyllgor yn unol
â hawliau dirprwyedig a chymalau perthnasol Cyfansoddiad y Cyngor. Ategwyd na fu i’r
ymgeisydd adnewyddu ei drwydded yn
2016 hyd nes cyflwynwyd cais o’r newydd 8.11.18.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Nodwyd bod Mr A wedi cael ei
ddyfarnu fel person addas a phriodol gan swyddog yn 2015 ac nad
oedd dim wedi newid ers hynny. Nodwyd ei
fod wedi bod yn hunan
gyflogedig fel gosodwr lloriau ond bod y gwaith
erbyn hyn wedi tawelu. Ategwyd
bod collfarn gyrru ar drwydded
yr ymgeisydd hyd 2020.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am drosedd
o Anrhefn Treisgar gan Lys
y Goron Caernarfon (Gorffennaf 1990) yn groes i’r Ddeddf Trefn
Gyhoeddus 1986 lle cafodd orchymyn i weithredu 210 o oriau cymunedol a thalu
costau o £320.00. Yn Medi 1991 derbyniodd gollfarnau am gyfres o droseddau gan
Lys Ynadon Bangor yn groes i Ddeddf Plismona 1964. Roedd y troseddau yn cynnwys atal yr Heddlu a dwy
drosedd nad yw eu manylion wedi eu cynnwys yn llawn ar y cofnod DBS. Er hynny,
cafodd ddirwy o £150.00. Yn Medi 1996 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor
am ymosodiad cyffredinol yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988
lle cafodd orchymyn i dalu iawndal o £500 a chostau o £50.00.
Ym mis Mehefin
1998 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon De Môn am drosedd o fethu a darparu
prawf ar gyfer ei ddadansoddi mewn perthynas
â bod yn gyfrifol am gerbyd modur (hyn yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd
1988). Cafodd ddirwy o £160, costau o £45 a’i wahardd o yrru am 12 mis. Ym mis
Awst 2002 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor am gyfres o droseddau yn
groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Methodd a darparu prawf ar gyfer ei
ddadansoddi mewn perthynas â bod yn gyfrifol am gerbyd modur yn ogystal â methu
rhoi prawf anadl. Cafodd ddirwy o £250.00, gorchymyn i dalu costau o £35 a’i
wahardd rhag gyrru am 3 blynedd (wedi ei leihau gan 7.5 mis yn dilyn cwblhau
cwrs). Yng Ngorffennaf 2017 derbyniodd dri phwynt am
yrru tu hwnt i gyflymder gyrru statudol.
Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn
am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo
fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi,
a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob
collfarn, p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff
6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau
o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.4 y bydd cais am drwydded
fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd
gollfarn am un o’r troseddau sydd wedi ei rhestru
onid oes cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd
heibio. Mae'r paragraff yn rhestru ymhlith materion eraill troseddau sydd yn ymwneud ag anrhefn
treisgar, a
throseddau
tebyg. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn
nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael
ei wrthod os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin sydd yn llai
na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Mae'r paragraff yn rhestru
ymhlith materion eraill troseddau sydd yn ymwneud ag ymosodiad cyffredin a rhwystro. Mae paragraff
6.6 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os
oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.
Mae paragraff
11 o’r polisi yn cyfarch troseddau
sydd yn ymwneud
ag yfed a gyrru sydd yn
cynnwys methiant darparu sampl. Mae paragraff 11.2 yn nodi y bydd trwydded yn
annhebygol
o gael ei chaniatáu os bydd
gan yr ymgeisydd fwy nag un gollfarn oni bai bod cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd
heibio ers y gollfarn ddiwethaf.
Mae paragraff
16.1 o bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol,
ond gyda’i gilydd yn
creu hanes o ail-droseddu
sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers
y gollfarn fwyaf diweddar
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y collfarnau oedd yn ymwneud a throseddau o drais i’w mesur o dan baragraff
6.4 a 6.5 o’r polisi. Er hynny, gyda’r collfarnau
hyn yn rhai
hanesyddol (tu hwnt i
ofynion y polisi o 3 blynedd) nid oeddynt yn
sail i wrthod y cais.
Ystyriodd
yr Is Bwyllgor bod y collfarnau oedd yn ymwneud a methu
darparu prawf i’w mesur o dan baragraffau
11.2 a 16.1 gan fod achlysuron o waharddiadau rhag gyrru oedd yn amlygu diffyg parch at les eraill. Er hynny, gyda’r collfarnau hyn yn rhai
hanesyddol (tu hwnt i ofynion polisi
o 10 mlynedd)
nid oeddynt yn sail i wrthod
y cais.
Ystyriodd
yr Is Bwyllgor bod yr ymgeisydd wedi
derbyn trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd yn 2015. Cafodd y cais ei
ganiatáu gan
Swyddog Trwyddedu, yn hytrach
nag Is Bwyllgor ar y sail fod
yr ymgeisydd yn addas
a phriodol.
Pwysleisiwyd er hynny, er y
buasai’r swyddog wedi gwrthod
y cais, y byddai’r Is bwyllgor wedi dod i’r
un casgliad na
ddylai’r troseddau fod yn sail
i wrthod y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
ac y byddai’r Uned Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.