VICTORIA-N-SLIPWAY.
MARINE PARADE, TYWYN, GWYNEDD, LL36 0DG
Ystyried
y cais uchod
Cofnod:
THE
VICTORIA-N-SLIPWAY, MARINE PARADE, TYWYN
Ar ran yr
eiddo: Mr
Mark Greaves (ymgeisydd), Ms Karen L Darby (asiant)
Aelod Lleol: Cyng.
Mike Stevens
Eraill a fynychwyd: Mr
Robert Wynne (Preswylydd Lleol)
Ymddiheuriadau: R Price, S Pickering
a Mr Oliver (Preswylwyr Lleol), Sheryl Le Bon Jones (Rheolwr Trwyddedu), Mr J
Hughes (Gwasanaeth Tân), Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru), Cynghorydd
Anne Lloyd Jones (Aelod Lleol) a Cynghorydd Angela Russell
Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.
a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Mark Andrew Greaves ar
ran cwmni Victoria-N-Slipway Pub
am drwydded eiddo o’r newydd ar gyfer The Victoria-N-Slipway,
Marine Parade, Tywyn. Cais ydoedd ar gyfer eiddo
newydd fydd yn cynnwys lle bwyta dros ddau lawr ar gyfer 150 o bobl gyda
balconi allanol a gardd gwrw
i’r ochr. Nodwyd manylion am yr oriau
cyfredol a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar
amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori,
nodwyd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno
bod teledu cylch cyfyng (TCC) yn cael ei
osod ar yr eiddo yn destun i amodau penodol TCC. Derbyniwyd saith gwrthwynebiad i’r cais oddi
wrth breswylwyr lleol yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Trosedd ac
Anrhefn ac Atal Niwsans Cyhoeddus. Roedd
eu pryderon yn ymwneud ac oriau agor hwyr, agosatrwydd yr eiddo i gartrefi
preswylwyr, fydd o ganlyniad yn debygol o greu niwsans cyhoeddus a diffyg
cyfleusterau parcio.
b) Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai.
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a chadarnhaodd bod yr ymgeisydd, yn
dilyn trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cytuno i amodau TCC. Sylwadau
ychwanegol o fwriad yr ymgeisydd;
·
Cynnal enw da, yn lleol gyda gwasanaeth o ansawdd
da.
·
Ni fydd aflonyddwch i drigolion lleol. Yr adeilad
wedi ei lunio gyda phreswylwyr mewn golwg. Nid oedd unrhyw fwriad i greu gofid
i breswylwyr lleol, ond i gydweithio.
·
Nid yw’r cynlluniau wedi eu haddasu - bwyty yw’r
bwriad ac nid clwb nos.
·
Deunyddiau atal/lleihau sŵn i’w defnyddio.
·
Hyblygrwydd gydag amseroedd agor yn ddibynnol ar
ddigwyddiadau ac ar y busnes. Yr oriau yn gyfatebol i oriau tafarndai cyfagos.
·
Yr eiddo mewn lleoliad sydd yn boblogaidd gyda
thwristiaid. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth sydd yn ymateb i’r galw yn lleol
ac yn creu swyddi yn lleol.
·
Bydd yr ardal yn debygol o gael ei phlismona yn aml
oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch.
·
Nid oes prinder mannau parcio yn Nhywyn - digon o
lefydd ar lân y môr.
·
Ni fydd mynediad i unigolion o dan ddylanwad
alcohol ar ôl 11pm.
·
Bydd staff yn derbyn hyfforddiant priodol a’r sut i
ddelio gydag ymddygiad.
·
Angen i Tywyn fod yn ardal sydd yn ffynnu ac yn
llwyddo
·
Sicrhau y bydd y pedwar amcan trwyddedu yn cael
blaenoriaeth
ch)
Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â phlismona, nododd yr ymgeisydd, er
iddo awgrymu mwy o blismona nid oedd hyn wedi ei gadarnhau. Er hynny, mynegodd
bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Mr Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu
Heddlu Gogledd Cymru) a’i fod yn fodlon gyda sefyllfa diogelwch yr eiddo.
Ymhelaethodd gan nodi ei fod wedi cytuno i’r amodau TCC ac y bydd pobl ar y
drysau yn ystod digwyddiadau. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryd
fydda’r busnes yn agor - nododd yr ymgeisydd ‘mor fuan â phosib’.
d)
Mewn ymateb i’r cais nododd Preswylydd Lleol a oedd
yn gwrthwynebu’r cais, y sylwadau canlynol:
·
Nad oedd ganddo anghydfod gyda’r datblygiad – braf oedd gweld
adeilad trawiadol yn y dref yn
cael ei ddatblygu
·
Pryder ganddo yntau a phedwar o’i denantiaid o sŵn
fydd yn cario yn ystod y nos.
·
Gwrthod y drwydded ar sail oriau hwyr
yn unig. Cynnig y dylid lleihau oriau trwyddedu
o 2:00am i 12:00am. 2:00am yn ymddangos
yn rhy hwyr.
dd) Atgoffwyd y gwrthwynebydd o’i
hawl i wneud cais am adolygiad os bydd problemau sŵn.
e)
Caniatawyd i’r Aelod Lleol gyflwyno sylwadau er nad
oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Mewn ymateb i’r cais nododd Aelod Lleol a
oedd yn gefnogol i’r cais, y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd yn ymwybodol bod y Cyngor Tref wedi trafod
y mater
·
Bod llawer o bobl yn ffafriol i’r cais ac yn
gyffredinol yn gefnogol iddo. Angen i Tywyn ddatblygu yn dref sydd yn ffynnu
·
Y datblygiad yn gam amlwg fydd yn cynnig gwasanaeth
o fudd i’r dref ac yn un fydd yn sicr o annog pobl leol i aros yn yr ardal
·
Bydd hwn yn fusnes fydd o werth i’r dref ac yn
ymateb i’r galw
·
Bydd problemau sŵn yn debygol o gael eu
hymdrin â hwy drwy ddeddfau priodol
·
Nid oedd yn ymwybodol o’r gwrthwynebiadau – nid
oedd unrhyw un wedi cysylltu gydag ef yn uniongyrchol.
f)
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r chwe
llythyr arall a dderbyniwyd.
Gadawodd y partïon
perthnasol y cyfarfod.
ff) Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried
yr holl dystiolaeth
a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol
i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef
·
Trosedd
ac Anhrefn
·
Diogelwch
y Cyhoedd
·
Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
·
Amddiffyn
Plant rhag Niwed
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu'r
drwydded yn unol â’r cais a’r pedwar amcan trwyddedu.
Nid oedd sail i dystiolaeth cwynion y byddai rhoi'r drwydded yn arwain at
anrhefn a niwsans, ac awgrymwyd os bydd cwynion sŵn i’r dyfodol, y dylent
gael eu cyfeirio at y gwasanaeth priodol.
Dymunwyd yn dda i’r ymgeisydd gyda’r fenter newydd.
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais am drwydded eiddo yn unol ag amcanion Deddf Trwyddedu 2003
ynghyd a sicrhau bod Teledu Cylch Cyfyng
o fewn yr eiddo wedi ei osod yn unol ag amodau penodol TCC.
Adroddodd y
Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd
hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o
fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
Dechreuodd
y cyfarfod am 10:45am a daeth
i ben am 11:45am
Dogfennau ategol: