Agenda item

Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio i dderbyn cefnogaeth y pwyllgor ynghylch ffioedd trwyddedau tacsi o 1 Hydref 2015

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Rheoleiddio yn argymell y Pwyllgor i gefnogi’r bwriad o gynyddu Ffioedd Trwyddedau Tacsi i’r lefelau a argymhellir, er mwyn adennill costau’n llawn, cyn i’r Pennaeth Rheoleiddio eu hawdurdodi fel eu bod yn weithredol o’r 1 Hydref 2015.

 

Mae’n ofynnol i’r Cyngor adolygu ffioedd trwyddedu tacsis (h.y. trwyddedau cerbydau hacni, cerbydau hurio preifat, gweithredwyr hurio preifat a gyrwyr) yn rheolaidd.  Mae Adran 53 a 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn mynegi y gellid codi ffioedd ar lefel ddigonol i dalu costau rhesymol.    Penderfyniad  y Pwyllgor Trwyddedu yma ar y 24ain o Fehefin 2013 oedd,

 

-          Adolygu ffioedd  yn flynyddol

-          Bod rhaid i ffioedd trwyddedu tacsi gael eu cynyddu i adennill costau’n llawn.   

 

Eleni, mae’r Adran Trysorydd wedi cyfrifo mai y swm y caniateir y Cyngor i adennill y cost o ddarparu’r swyddogaeth Trwyddedu tacsi ar gyfer 2015/16 yw £141,626. 

Yn 2014/15,  incwm trwyddedu tacsi oedd £127,848. Rhagwelir felly y bydd diffyg incwm o  £13,778 ar gyfer  2015/16. Awgrymwyd, i adennill y costau’n llawn ac i  sicrhau bod yr Uned Trwyddedu yn hunan - gynhaliol, buasai angen cynyddu’r ffioedd eleni  o 10.78%.

 

Adroddwyd bod y ffioedd arfaethedig wedi cael eu hymgynghori arnynt yn fewnol gyda’r Pennaeth Cyllid, sydd yn cefnogi cynyddu’r ffioedd er mwyn adennill costau yn llawn.  Rhoddwyd rhybudd cyhoeddus yn y wasg leol ar 20 Awst 2015 a chopi o’r  rhybudd yn Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau yn unol â gofynion statudol.  Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Medi 2015.  Yn ychwanegol i’r gofynion statudol, rhoddwyd copi o’r ymgynghoriad ar wefan y Cyngor ac fe hysbyswyd y diwydiant tacsi o’r ymgynghoriad drwy lythyr ar 14 Awst 2015.  Anfonwyd cyfanswm o 505 o lythyrau ac  atgoffwyd y diwydiant bod cyfle iddynt roi sylwadau ffurfiol yn ystod y cyfnod ymgynghoriad. Hyd at 14/09/15 roedd yr  Uned Trwyddedu wedi derbyn un llythyr yn gwrthwynebu’r ffioedd newydd.     

 

Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol;

 

-          A fydd diffyg  costau yn batrwm parhaol?

-          A yw niferoedd gyrwyr yn lleihau oherwydd cynnydd mewn costau?

-          Beth yw’r gymhariaeth gyda siroedd cyfagos

-          Gweithredwyr a gyrwyr angen adennill costau, felly rhaid sicrhau tegwch

-          Yn hanesyddol, nid yw'r Cyngor wedi codi ei ffioedd yn gyson, ac felly ers 2013 y cynnydd yn ymddangos yn uchel. Er hynny, y canrannau wedi eu cynyddu ar raddfeydd derbyniol.

-          505 o lythyrau wedi eu hanfon allan - Un gwrthwynebydd sydd wedi ymateb i’r adolygiad - hyn yn rhoi darlun bod y cwmnïoedd yn derbyn y cynnydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Rheoleiddio mai'r bwriad yw i’r ffi gyrraedd y gost o ddarparu gwasanaeth gyda’r gobaith na fydd diffyg yn y pendraw. Os bydd yr incwm yn uchafu’r costau, bydd rhaid ystyried yr elw yn erbyn  costau'r flwyddyn ganlynol. Bydd y ffioedd yn cael eu hadolygu yn flynyddol - anodd rhagweld beth yw'r ffioedd, ond rhaid gweithredu yn unol â’r ddeddf.

 

Nodwyd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd newid sylweddol yn nifer y gyrrwr / gweithredwyr, ond atgoffwyd yr Aelodau  y bydd hyd amser trwydded yn newid yn Hydref 2015 yn sgil gofynion Deddf Dadreoleiddio 2015. Bydd hyd trwydded yn 3 a 5 mlynedd ac felly bydd hyn eto yn creu effaith ar yr incwm. Nodwyd hefyd y bydd modd darparu gwybodaeth am ffioedd Siroedd cyfagos erbyn y cyfarfod nesaf. Yn ychwanegol,  amlygwyd y bydd pob Cyngor yn gorfod adolygu eu ffioedd erbyn 1.10.2015.

 

Cytunwyd ac eiliwyd i gefnogi’r bwriad.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r bwriad i gynyddu’r Ffioedd Trwyddedau Tacsi i’r lefelau a awgrymwyd er mwyn adennill costau’n llawn, cyn i’r Pennaeth Rheoleiddio eu hawdurdodi fel eu bod yn weithredol o’r 1 Hydref 2015

 

Dogfennau ategol: