- Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfunol
- Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Hurio Preifat
- Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat
Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio
i dderbyn cefnogaeth y pwyllgor ar gyfeiriad
lefel uchel y newidiadau arfaethedig parthed i bolisïau trwyddedu tacsi
Cofnod:
·
Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfunol
·
Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Hurio Preifat
·
Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio yn gofyn am gefnogaeth y pwyllgor i adolygu’r polisïau trwyddedu a chreu polisi unedig yn hwyrach na
thri polisi / dogfen arwahan.
Nodwyd hefyd bod y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 22 Mehefin 2015 wedi penderfynu
bod angen diweddaru ac adolygu'r polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud a
Thrwyddedau Tacsi yn dilyn cynnydd yn y nifer o geisiadau i drwyddedu cerbydau
sydd ddim yn cwrdd â’r polisi ac yn dilyn y Ddeddf
Dadreoleiddio 2015 a’r mesurau sy’n cael effaith ar y Ddeddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976.
O safbwynt
polisi unedig, nodwyd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol: (cyf ‘Taxi and PHV
Licensing - Councillor’s Handbook’ dyddiedig Mawrth 2015) yn annog yn gryf
i awdurdodau Trwyddedu greu polisi unedig sy’n
dod a’r holl
bolisïau a’u gweithdrefnau i un lle. Bydd creu
polisi unedig sydd yn cael
ei adolygu’n rheolaidd yn rhoi
eglurder i yrwyr a gweithredwyr, yn ogystal â chryfhau
sefyllfa’r Cyngor petai her yn erbyn
penderfyniad yn y llys.
Tynnwyd sylw'r Aelodau at y newidiadau
arfaethedig lefel uchel y buasai angen eu hystyried yng nghyd -destun gyrwyr,
cerbydau a gweithredwyr gan roi sylw penodol i ‘hawliau taid’ , ‘manyldeb
oedran cerbyd’ a ‘mynediad cadair olwyn’.
O dan
‘hawliau taid’ cynigiwyd:
Cynnig 1: Bod statws ‘Hawliau
Taid’ perchnogion cerbydau hacni Arfon yn cael
ei dynnu o’r polisi a bod holl berchnogion cerbydau hacni yn ddarostyngedig i’r un amodau a gofynion cerbyd. Cynigir hefyd bod y gofynion ar gyfer holl
gerbydau ym mhob parth yn
cael eu huno
er mwyn creu
polisi mwy tryloyw a perthnasol i holl berchnogion
ar draws y sir.
O dan
‘manyldeb oedran cerbyd’ cynigiwyd,
Cynnig 2: Ym mhob parth, rhaid cais
i drwyddedu cerbyd am y tro cyntaf fel Cerbyd
Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat
fod mewn perthynas â cherbyd sy’n llai na
6 mlwydd oed ar y dyddiad pan fydd y cais cyflawn
wedi ei dderbyn
gan yr Awdurdod
Trwyddedu.
Cynnig 3: Ym mhob parth, rhaid cais
i adnewyddu trwydded Cerbyd Hacni neu Gerbyd
Hurio Preifat fod mewn perthynas
â cherbyd sy’n llai na 12 mlwydd
oed ar y dyddiad pan ddaw’r drwydded gyfredol i ben.
Cynnig 4: Bydd Cyngor
Gwynedd yn caniatáu adnewyddu trwydded Cerbyd Hacni neu
Gerbyd Hurio Preifat y tu hwnt
i’r terfyn oedran uchaf o 12 mlynedd os gellir
dangos bod y cerbyd mewn ‘cyflwr eithriadol’.
O dan
‘mynediad cadair olwyn’ cynigiwyd:
Cynnig 5: Bydd yr holl berchnogion yn cael eu
hannog i drwyddedu cymaint o gerbydau sy’n hygyrch
i gadair olwyn y maent yn
ystyried yn angenrheidiol. Fodd bynnag, bydd
Cyngor Gwynedd yn gosod gofyniad bod rhaid oeliaf 1 cerbyd hacni mewn
fflyd o 7 cerbyd hacni fod yn
gerbyd sy’n hygyrch i gadeiriau
olwyn. Felly os yw maint
y fflyd yn 14 cerbyd hacni byddai
gofyn i o leiaf 2 o’r 14 cerbyd fod yn
gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn.
Rhagwelwyd y byddai Cynigion 1 - 5 yn
cael eu hystyried fel newidiadau dadleuol i’r polisi cyfredol ac amodau
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan rhai
perchnogion neu ddefnyddwyr, yn enwedig yn ardal Arfon. Fodd bynnag, amlinellwyd y byddai’r
newidiadau hyn yn cael eu gweithredu yn ysbryd ‘Ffordd Gwynedd’ ac yn sicrhau
cysondeb i bawb ar draws y parthau. Nodwyd bod
amrywiaeth i ofynion yn gymhleth ac felly'r
gobaith yw cyflwyno polisïau sydd yn cyfarch pobl Gwynedd a sicrhau gwasanaeth
Trwyddedu effeithiol ar gyfer holl berchnogion a defnyddwyr.
O
ran amserlen, nodwyd bod yr Aelod Cabinet yn awyddus i’r
Pwyllgor dderbyn copi drafft o’r
polisi unedig cyn dechrau ymgynghoriad.
Bydd y swyddogion yn anelu at gyflwyno
dogfen drafft i’r cyfarfod nesaf
(Rhagfyr 7fed 2015)
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad yn unol â’r argymhellion
diwygiedig:
Bod
y Pwyllgor yn awdurdodi’r Pennaeth Rheoleiddio i gychwyn adolygiad o’r polisïau
trwyddedu mewn perthynas â gweithredwyr, cerbydau a gyrwyr hacni
a hurio preifat.
Bod
y Pwyllgor yn cefnogi cyfeiriad cyffredinol Cynigion 1 i 5 fel man cychwyn ar
gyfer yr adolygiad.
Dechreuodd
y cyfarfod am 10.00am a daeth
i ben am 10.55am
Dogfennau ategol: