Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdesitrefol

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn rhoi diweddariad ar y treial gorfodaeth stryd gan adrodd y byddai’r Gwasanaeth yn cyflwyno argymhelliad pellach ar y ffordd ymlaen er mwyn ceisio gwella’r ddarpariaeth i bwrpas sicrhau glendid ac edrychiad strydoedd Gwynedd.

 

Yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu i’r Gwasanaeth edrych ar opsiynau posib i newid ymddygiad y cyhoedd fyddai’n arwain at wella ansawdd yr amgylchedd lleol a glendid strydoedd, rhoddwyd adborth ar 3 opsiwn posib a’r camau yr oedd y Gwasanaeth wedi ei gymryd i geisio ffordd ymlaen.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         cosbi trefol yn llawer haws na chosbi yng nghefn gwlad

·         bod angen cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac addysgu

·         sbwriel traethau – creu ardaloedd gorfodaeth

·         ystyried camerâu cudd ar safleoedd biniau cymunedol

 

Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn y sylwadau ynglŷn â phroblemau cosbi yng nghefn gwlad ac ategodd bwysigrwydd addysgu plant ar lefel cynradd drwy amlygu parch   at eu hamgylchedd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bod rhai gweithwyr casgliadau sbwriel yn frysiog ac yn flêr, amlygwyd bod y Gwasanaeth yn edrych ar gyflwyno trefniadau casglu sbwriel newydd gyda threfn shifft 37 awr a chael un tîm yn gyfrifol am yr un cylchdeithiau wythnosol. Disgwylir y byddai’r gweithwyr yn cael mwy o berchnogaeth o’r gylchdaith ynghyd a gwell dealltwriaeth o anghenion trigolion.  Bydd trafodaethau gyda’r Undebau yn cael eu             cynnal cyn y Nadolig gyda bwriad o gyflwyno’r trefniadau yn Nwyfor Chwefror 2019, Meirionnydd Gorffennaf 2019 ac Arfon Chwefror 2020. Cytunwyd cyflwyno adroddiad / diweddariad ar  yr effaith Hydref 2019

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut fydd y Gwasanaeth yn monitro defnydd camerâu gan y staff morwrol, adroddwyd byddai popeth yn cael ei gopïo i system gefn yn y swyddfa fel bod modd monitro pob sefyllfa pan fyddai’r camerâu ymlaen. Ategwyd bod         canllawiau yn cael eu darparu a pholisi gweithredu ar y gweill. Nodwyd hefyd bod y   camerâu yn rhoi mwy o hyder i’r swyddogion gyflwyno cosb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynlluniau’r gwasanaeth am y 6 mis nesaf, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal am waith y gellid ei wneud ar y cyd gydag    awdurdodau eraill. Ategwyd, ers i amryw o awdurdodau’r gogledd ddirwyn eu cytundebau gyda chwmnïau allanol i ben, bod cyfarfodydd rhanbarthol wedi eu cynnal i ystyried sut i gynnal y math yma o wasanaeth, rhannu adnoddau a chodi ymwybyddiaeth. Nodwyd nad oedd pob awdurdod yn cytuno gydag un drefn, ond bod y mwyafrif yn ffafrio darpariaeth fewnol. Eglurwyd bod rhai eisoes gyda chynlluniau i’w cyflwyno i’r Cabinet. Byddai cydweithio ar draws y Gogledd yn gwella cysondeb yng nghyd-destun   dirwyon.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â deddfau gwahanol gan Gymru a Lloegr yn ymwneud a thaflu sbwriel allan drwy ffenest y car, nodwyd bod Lloegr gyda threfniant mai perchennog y cerbyd sydd yn derbyn cosb, ond yng Nghymru rhaid adnabod y person sydd yn taflu’r sbwriel. Ategwyd bod Cymru wedi dechrau ar y broses o gyflwyno rhywbeth  tebyg i Loegr ond ar hyn o bryd wedi ei roi i un ochr.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith caled ac am y bartneriaeth dda gyda’r cyhoedd. Cydnabuwyd y gwaith da sydd yn cael ei wneud gyda threfniadau   ailgylchu ac ategwyd dymuniad o weld gwelliant mewn gwaredu sbwriel ac     ansawdd yr amgylchedd lleol.

 

            PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

            Gwnaed cais am adroddiadau cynnydd ar,

·         ddefnydd camerâu staff morwrol awdurdodedig a

·         effaith newidiadau trefniadau ailgylchu

 

Dogfennau ategol: