Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran Amgylchedd yn ymateb i bryderon ynglŷn     â’r broses dirprwyo yng nghyd-destun penderfyniadau oedd yn ymwneud a Phlas Pistyll.         Yn gynwysedig yn yr adroddiad cafwyd hanes cynllunio manwl y cais ynghyd a         Chynlluniau Dirprwyo Cynllunio cyfredol a blaenorol Gwynedd. Nododd yr Aelod Cabinet ei fod wedi comisiynu darn o waith i gasglu gwybodaeth fyddai’n ymateb i’r         anhapusrwydd lleol a’r diffyg dealltwriaeth o sut cafodd y penderfyniad ei wneud gyda      phwrpas mewn darganfod os oedd y drefn dirprwyo wedi ei dilyn yn briodol.

 

            Amlygwyd y pwyntiau cychwynnol gan Aelod unigol:

·         bod addasiadau a newidiadau sylweddol i’r hyn a gytunwyd yn 2012 wedi cael ei gwneud o dan y drefn ddirprwyo.

·         dylai cais o’r newydd fod wedi ei gyflwyno yn 2016 oherwydd addasiadau i faint, uchder a dyluniad y cynllun

·         gan fod natur y newidiadau yn fwy nag sy’n rhesymol, dylai’r penderfyniad fod wedi cael ei alw i mewn i bwyllgor Cynllunio

·         bod y safle yn un sensitif ac o fewn tirweddau sydd angen eu gwarchod

·         bod yr addasiadau wedi cythruddo trigolion ac aelodau lleol

·         Swyddogion yn unig sydd ddim yn gweld yr effaith

·         Pwy sydd â hawl i addasu a diffinio beth yw ‘minor impact’?

 

            Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd nad oedd bwriad ail agor y cais cynllunio        ond bod angen ceisio gwersi i’w dysgu o’r sefyllfa. Ategwyd bod angen       i’r         adran Cynllunio           gyfiawnhau eu bod yn hapus gyda’r drefn gan      gadarnhau bod y trywydd cywir wedi ei         ddilyn ac os yw’r cynllun dirprwyo             yn cyfarch yr heriau.

 

Ategodd y Swyddog Monitro’r sefyllfa gyfansoddiadol i’r aelodau gan adrodd bod y trefniadau wedi eu dilyn yn unol a’r rhiniogau yn y Cynllun Dirprwyo oedd yn berthnasol ar y pryd. Nodwyd bod y cais a gyflwynwyd yn 2016 yn gais i ddiwygio amodau oedd yn cynnwys lleihau’r nifer o unedau ac addasu’r dyluniad - nid oedd egwyddor y datblygiad felly yn cael ei ystyried wrth benderfynu’r cais  ac nid oedd yn cwrdd â’r rhiniogau perthnasol ar gyfer adrodd ar y math yma o ddatblygiad i’r Pwyllgor Cynllunio.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelod          Lleol:

·         Derbyn bod y drefn ‘dechnegol’ wedi ei dilyn, ond yng ngoleuni ardrawiad sylweddol i’r cynllun, oni ddylai ‘clychau fod wedi canu’?

·         Oni ddylai moesoldeb y sefyllfa wedi cael ei hystyried?

·         Cyngor Cymuned wedi derbyn llythyr yn eu cyfeirio at y wefan yn rhoi gwybodaeth am ‘fan newidiadau’ i’r cais

·         Yr adroddiad yn hunangyfiawn

·         Onid yw rhiniog megis ‘cais y mae’r Pennaeth Amgylchedd yn ei ystyried y dylid ei gyfeirio at Bwyllgor’ yn berthnasol yn yr achlysur yma?

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth yr Amgylchedd fod ganddo gydymdeimlad            gyda phob barn oedd wedi ei derbyn, yr effaith ar y           gymuned a hanes y cais. Ategodd     bod yr adroddiad yn cyfeirio at  y drefn       roedd y swyddogion wedi ei ddilyn i gyrraedd eu      penderfyniad. Nododd,           oni bai bod negeseuon lleol yn cael eu rhannu gyda swyddogion          nad oedd         modd deall ‘teimladau’ a barn trigolion lleol. Nodwyd bod cynllunio yn faes     gwrthrychol ac felly os nad oedd gwrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno rhaid            derbyn bod      y cais yn dderbyniol. Atgoffwyd yr aelodau bod gan Aelod Lleol             yr hawl i gyflwyno’r cais i        Bwyllgor Cynllunio os yw’r cais yn un            cynhennus. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned ac felly       roedd argymhellion a phenderfyniad y swyddogion cynllunio yn     cyd-fynd          a’r gofynion statudol.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr        Aelodau unigol:

·         Derbyn bod y cais a ganiatawyd yn 2012 yn dderbyniol

·         Nid yw’r newidiadau / addasiadau a gyflwynwyd yn 2016 yn  ‘fan addasiadau’

·         Synnwyr cyffredin yn amlygu bod cais 2016 yn ‘sylweddol wahanol’

·         Nid oes synnwyr i broses feddwl (thought process) rhai elfennau o’r drefn dirprwyo

·         Beth sydd angen ei wneud i sicrhau nad oes newidiadau pellach i gynlluniau Plas Pistyll?

·         Awgrym i adolygu’r Cynllun Dirprwyo fel nad yw hyn yn digwydd eto

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Aelod Cabinet mai newid i amodau oedd dan sylw             ac felly nid oedd y cais yn cyrraedd rhiniog cadarn. Nid            cyfrifoldeb swyddogion yw      adnabod materion / ceisiadau cynhennus.             Aelodau lleol sydd â’r gallu i wneud hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau cadarnhaodd y Swyddog Monitro pan fydd ymgeisydd yn cyflwyno cais am addasiadau i amodau, yr amodau yn unig a ddyfernir. Nodwyd bod amryw o riniogau perthnasol yn cael eu hystyried gan swyddogion cynllunio a gyda hwy mae’r cyfrifoldeb o ‘alw barn’. Nid yw yn anorfod yn rhwydd creu rheolau y drefn dirprwyo  o amgylch y cyfrifoldeb hyn gan fod nifer o sefyllfaoedd gwahanol tebygol.

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau  pwysleisiodd Uwch Reolwr Cynllunio ac           Amgylchedd bod             hanes cynllunio y cais yn hynod bwysig i’r sefyllfa   gyfredol oherwydd bod hawliau          cynllunio a defnyddiau twristiaeth oedd    eisoes wedi eu sefydlu ar y safle yn cynnig sgôp i    ddatblygwr ail ddatblygu’r             safle. Ategodd nad tai oedd yn cael eu hadeiladu ar y safle             ond llety          gwyliau pwrpasol fyddai’n cael eu cyfyngu i ddefnydd twristiaeth. O ran          cyflwyno cais i newid amodau’r cais, nododd bod ystyriaeth dwys wedi ei roi      i’r cais, bod      manylion cynlluniau wedi eu rhannu, bod cyfnod o ymgynghori             statudol wedi ei gynnal a        bod adroddiad dirprwyedig wedi ei ddarparu (fel       ag y gwneir gyda pob cais).        Cadarnhaodd ei fod yn gyffyrddus bod y cais            wedi cael ei ymdrin a’i drafod yn briodol,             bod y materion wedi eu cyfarch         a’u hasesu yn gywir a bod yr argymhellion a gyflwynwyd     yn rhai cadarn.     Nododd nad oedd gwrthwynebiad cyhoeddus i’r addasiadau ac felly           priodol oedd i’r cais gael ei benderfynu drwy’r drefn dirprwyo.

 

           

            Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Aelodau'r pwyntiau canlynol:

·         Bod y swyddogion wedi mynd tu hwnt i’r hyn sydd yn ddisgwyliedig

·         Bod angen i Aelodau Lleol a Chynghorau Cymuned cymryd mwy o gyfrifoldeb

·         Rhaid cadw o fewn canllawiau

 

·         Bod angen adolygu / newid polisïau sydd yn ymwneud â llety a tai gwyliau. A oes modd craffu hyn? I’w drafod yn y cyfarfod anffurfiol

·         Roedd y cynllun gwreiddiol yn cyfeirio at fflatiau ac nid tai unigol

·         Rhaid sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rannu gyda Cynghorau Cymuned

·         Bod angen arbenigwr annibynnol i adolygu’r Cynllun Dirprwyo

·         Fundamental alteration / change – gwahaniaeth barn / ystyr  - angen diffiniad clir

·         Bod angen i swyddogion gloriannu tystiolaeth wrthalw barn’

 

            Nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod ‘minor impact / alteration yn cwmpasu ystod       eang o             newidiadau mewn dyluniad ac mai cyfrifoldeb swyddogion cynllunio yw pwyso a mesur   sgil effaith hyn.

           

            Cynigiwyd bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn argymell derbyn cyngor   cyfreithiol         annibynnol gan fargyfreithiwr, o’u dewis hwy, sydd yn arbenigo ym maes amgylcheddol a       maes cyfansoddiadol.

 

            Ategodd y Swyddog Monitro, a chan fod y mater ynglŷn a dehongli a         gweithredu y             Cyfansoddiad  bod cyngor gwrthrychol wedi ei gyflwyno ac felly nad oedd angen mynd    a’r mater ymhellach. Amlygodd fod y rôl a’r      cyfrifoldeb wedi ei osod arno fel Swyddog     Monitro (na all Pwyllgor ei             ddirprwyo na’i ddisodli) i dehongli’r Cyfansoddiad. O ran y   drefn craffu, mater      i’r Pwyllgor Craffu yw sut mae mynd ati i graffu, ond o ran comisiynu    bar       gyfreithiwr, mae’n rhaid bod yn glir beth sydd angen ei gomisiynu ac i ba     pwrpas.          

 

            Mewn ymateb i’r cynnig, amlygodd y Cadeirydd nad oedd grym gan y        Pwyllgor Craffu           na’r adnoddau uniongyrchol i gynnal archwiliad, ond       byddai hawl gofyn i’r Aelod Cabinet   Amgylchedd gomisiynu adroddiad annibynnol fyddai yn cynnwys canfyddiad positif i’r   cyhoedd fel bod gwersi yn      cael eu dysgu.

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad, ond bod angen gwybodaeth      bellach ynglyn a             diffiniadau clir o beth yw newidiadau.

 

            Nododd y Swyddog Monitro bod modd adolygu / addasu y drefn dirwprwo ac        os oes angen, edrych ymhellach i’r rhiniogau penodol drwy gloriannu’r       wybodaeth.

 

            Cynigiwyd gwelliant bod angen bargyfreithiwr i edrych ar y sefyllfa yn         annibynnol.

 

            Ail eglurodd y Swyddog Monitro, ei fod yn amhriodol i ofyn am gyngor        bargyfreithiwr gan mai ei gyfrifoldeb ef yw rhoi barn ar y broses           gyfansoddiadol.

 

            Ni eiliwyd ac ni chaniatawyd y gwelliant ar y cynnig.

 

            Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol. Disgynnodd y cynnig.

 

Derbyniodd y Cadeirydd y cynnig a eiliwyd i wneud cais am adroddiad pellach ar y Cynllun Dirprwyo fyddai’n rhoi ystyriaeth i’r materion sylfaenol, y rhiniogau ar gyfer derbyn cais newid amodau, y rhiniogau’r cynllun dirprwyo a chyflwyno i’r Pwyllgor nesaf. Awgrymwyd bod Pennaeth yr Amgylchedd, Aelod Cabinet Amgylchedd a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu adroddiad ar y cyd fyddai’n ymateb  i sylwadau’r Aelodau ynghyd a ystyried gwybodaeth a thystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

            Mewn sylw o gyfeirio y mater at yr Ombwdsman, nodwyd mai cwynwyr yn             unig all fynd â’r             mater at yr ombwdsman os oes annhegwch personol          wedi ei wneud (ac o fewn amserlen             briodol). Ategwyd ni all Cynghorwyr   gwyno am eu Cyngor eu hunain.

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r drafodaeth a chael diweddariad o’r adroddiad i’r      cyfarfod nesaf am ail ystyriaeth. Gwnaed cais i’r adroddiad adlewyrchu            pryderon yr aelodau,   sylwadau’r swyddogion, tystiolaeth a gyflwynwyd gan y           Cynghorydd Gruffydd Williams ynghyd a ffordd ymlaen i herio y polisïau             perthnasol.

 

            PENDERFYNWYD gohirio’r mater i gyfarfod Chwefror 7fed 2019 a       derbyn adroddiad pellach fyddai’n cyfarch materion y drafodaeth uchod.

 

Dogfennau ategol: