Agenda item

Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn aml-feddianaeth (defnydd dosbarth C4)

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ELIN WALKER JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn amlfeddiannaeth (defnydd dosbarth C4)

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

          Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y wybodaeth fel ag a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol. Atgoffwyd yr aelodau bod Polisi TAI 9 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn gefnogol i’r egwyddor o drosi adeiladau presennol yn dai amlfeddiannaeth o fewn ffiniau datblygu yn ddarostyngedig i gwrdd â’r pedwar maen prawf cysylltiedig.

 

          Ystyriwyd bod y defnydd arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddai yn amharu ar gymeriad yr ardal nac yn achosi niwed mwynderol annerbyniol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·         Cartref teulu ydyw - cyn dŷ Cyngor ac yn anaddas ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth

·         Gwrthwynebu ar sail gor-ddatblygiad

·         Bwriad creu 5 stafell wely - dim lolfa, un gegin fechan i baratoi bwyd a dwy stafell ymolchi fechan. Creu sefyllfa gyfyng iawn - pam gwasgu 5 person i mewn i un tŷ

·         Nifer o dai / llety myfyrwyr yn hanner gwag o gwmpas Bangor

·         Rhagweld cynnydd mewn gwastraff

·         Rhagweld problemau parcio - nid oes man parcio pwrpasol. Byddai angen parcio ar y ffordd

·         Bod caniatáu trydydd tŷ amlfeddiannaeth yn ymestyn dros y trothwy 10% ar y stryd

·         Rhaid gwarchod y ddinas rhag caniatáu tai amlfeddiannaeth i ledaenu dros y lle

·         Nid yw’r mapiau sydd ynghlwm a’r cais yn gyfredol

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail gor-ddatblygu a diffyg lle i barcio

 

 (ch)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod rhybuddion hanesyddol gan gyn-gynghorydd bod tai teuluoedd yn cael eu trosi yn dai amlfeddiannaeth ym Mangor

·         Bod ystadegau yn dangos bod nifer myfyrwyr yn gostwng

·         Bod tai amlfeddiannaeth  / tai gosod yn ymledu i ganolfannau cymunedol

·         Nid oedd y sefyllfa parcio wedi adlewyrchu gwirionedd y sefyllfa yn ystod yr ymweliad safle. Awgrym y byddai’r sefyllfa yn dra gwahanol gyda’r nos neu dros y penwythnos. Rhaid ystyried y gellid cael 5 car ychwanegol yma

·         Bod ward sydd gyda ‘dwy hanner’, fel petai, yn gallu gosod cynsail i geisiadau tebyg fod yn cronni yn yr un hanner

·         Bod tai myfyrwyr yn prysur ledaenu ar draws y ddinas. Derbyn bod trothwyon yn bwysig, ond ymddengys eu bod yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol.

·         Bod angen cynnal ymweliadau safle ar yr amseroedd prysuraf

 

(d)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith tebygol o wrthod y cais, yn groes i argymhelliad, a’r risg costau ar y Cyngor, amlygodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu yn un cadarn, bod rheolaeth dda dros ddefnydd tai amlfeddiannaeth a bod trothwy 10% yn cael ei osod ar gyfer ward ac nid un stryd benodol. Derbyniodd bod pryderon parcio ond amlygodd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi datgan gwrthwynebiad i’r cais ac anodd fyddai tystiolaethu yn erbyn penderfyniad yr Uned. Eglurwyd, os mai gwrthod byddai’r penderfyniad, byddai cyfyngu’r rhesymau gwrthod yn fuddiol ac awgrymwyd ymhellach, efallai y gall Aelodau ystyried gwrthod ar sail gor-ddatblygiad a’r effaith y byddai’n cael ar y tŷ drws nesaf.

 

(e)       Mewn ymateb i’r pryderon parcio amlygodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu y byddai’n ofynnol i’r tŷ, fel tŷ teulu, gael dau le parcio. O newid y tŷ i dŷ amlfeddiannaeth ar gyfer 5 oedolyn byddai’r gofyn yn 0.5 - 1  car ar gyfer pob stafell wely. Amlygodd bod pawb yn parcio ar ddwy ochr y stryd gan nad oes lle parcio o fewn cwrtil y tai.  Ategodd bod Bangor yn lleoliad canolog gyda gwasanaethau cyhoeddus a rhwydwaith dda o lwybrau cerdded a beicio. Anodd fyddai tystiolaethu os fyddai cerbydau'r tŷ hwn yn creu effaith ar y tŷ drws nesaf.

 

(f)        Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â throthwy o 10% ac os yw hyn yn gyson i bob ardal, nodwyd bod hyn yn wahanol i bob ardal. Y bwriad, trwy osod trothwyon, yw gwarchod yr ardal fel nad yw tai amlfeddiannaeth yn lledaenu. Ategodd bod rhai ardaloedd ym Mangor gyda throthwyon uwch.

 

(g)       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gormod o dai ar gyfer myfyrwyr, nododd y Rheolwr Cynllunio mai rhagdybiaeth ydyw mai myfyrwyr sydd yn byw mewn tai amlfeddiannaeth. Nid yw’r adeiladau hyn yn cael eu cyfyngu i fyfyrwyr yn unig, pobl eraill yn gwneud defnydd ohonynt hefyd.

 

(h)       Atgoffodd y Cyfreithiwr petai'r Pwyllgor yn gwrthod y cais ar sail parcio, yna byddai rhaid cael tystiolaeth gref fyddai yn gwrthddweud yr hyn y mae’r Uned Trafnidiaeth wedi ei nodi. Byddai gwrthod ar sail trothwyon yn arwain at gamddefnydd polisi. Byddai gwrthod ar sail y ddau fater uchod yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa o fod yn agored i gostau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol gwrthod y cais ar sail byddai’r datblygiad yn or-ddatblygiad o’r tŷ a fyddai’n cael effaith ar fwynderau’r eiddo cyfagos.

Dogfennau ategol: