Agenda item

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

          Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

          Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl oherwydd diffyg penderfyniad

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Nodwyd bod y cais ar gyfer trosi tafarn segur Y Bull, sydd wedi ei leoli ar Stryd Fawr, Deiniolen, yn llety gwyliau hunanwasanaeth gydag 8 ystafell wely. Golygai hyn gryn newid i drefniant mewnol yr adeilad, ond ni fyddai newid arwyddocaol i’r edrychiad allanol.

 

Eglurwyd bod y dafarn wedi bod ar gau ers 2016 ac fe fu ar werth am dros flwyddyn. Cyfeiriwyd at bolisi TWR 2 sydd yn cefnogi datblygiadau llety gwyliau parhaol drwy drosi adeiladau presennol cyn belled bod cynigion o ansawdd uchel o ran dyluniad, edrychiad a gosodiad. Ystyriwyd bod y cais o ansawdd uchel ac yn cwrdd â gofynion y polisi.

 

Amlygwyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi nodi unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad er y derbyniwyd gwrthwynebiad yn honni diffyg llefydd parcio’n lleol. Wedi ystyried defnydd awdurdodedig yr adeilad fel tafarn, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn debygol o greu    trafferthion sefyllfa waeth nag un fel tŷ tafarn neu fflatiau.

 

Eglurwyd, mewn ceisiadau o’r fath bod rhaid ystyried cyn defnydd y safle, a’r cynnydd tebygol o ganlyniad i’r bwriad newydd. Yma, y sefyllfa flaenorol oedd tŷ tafarn o faint sylweddol a chartref pedair ystafell wely uwchben, wedi ei leoli’n ganolog o fewn pentref. Mae’r bwriad yn cynyddu’r nifer o ystafelloedd wely ond yn tynnu’r elfen ‘tŷ tafarn’, a thybiwyd fod digon o gyfleoedd i ymwelwyr barcio ar y strydoedd a meysydd parcio lleol os yn ymweld â’r safle mewn cerbyd. Awgrymwyd y byddai llai o ‘fynd a dod’ gyda llety gwyliau ac y byddai llai o aflonyddwch.

 

Nodwyd bod cynllun busnes wedi ei gyflwyno gyda’r cais a bod sylwadau wedi ei derbyn gan Uned Twristiaeth y Cyngor yn cadarnhau bod galw am unedau llety hunanarlwyo safonol ar gyfer grwpiau yn y Sir. Ategwyd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf 1.75% o lety gwyliau hunan wasanaeth sydd yn y ward sydd yn cadarnhau nad oes gormodedd o lety gwyliau o’r fath yma yn yr ardal

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·           Nad oedd digon o lefydd parcio yn yr ardal gronnus yma

·           Llawer o drigolion yn cwyno eisoes am ddiffyg mannau parcio

·           Byddai 20 o geir ychwanegol yn cynyddu’r pryderon hyn

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd diffyg llefydd parcio. Nodwyd nad oedd yn    rhesymol cymharu defnydd tafarn gyda defnydd llety gwyliau

 

(ch)   Nododd y Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod rhaid cadw persbectif o’r nifer ceir tebygol. Amlygodd bod y sefyllfa wedi ei mesur fel un stafell wely yn golygu un cerbyd. Ar y gwaethaf, ystyrir 8 cerbyd ychwanegol (ac nid 20). Byddai hyn yn dderbyniol i’r ardal ac ni fyddai yn cael effaith andwyol ar y pentref.

 

(d)     Mewn ymateb pellach ar y cynnig o wrthod oherwydd rhesymau parcio nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio nad oedd y sefyllfa yn debygol o fod yn waeth na defnydd yr adeilad fel tafarn.

 

(dd)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Pa ddefnydd arall sydd i’r Bull? Ymddengys nad oes defnydd iddo fel tafarn a'i fod yn adeilad rhy fawr i fusnes. Gall fod yn fuddsoddiad i’r pentref ac yn cyfrannu i’r economi leol

·         Nid oes eisiau gweld yr adeilad yn dirywio ymhellach a’i weld fel dolur llygad ynghanol y pentref. Trist fuasai ei weld yn wag ymhen 10 mlynedd arall.

·         Y bwriad yn fuddsoddiad teg.

·         Petai fwriad i drosi’r adeilad yn dai / fflatiau, yr un fyddai’r pryderon parcio

·         Y bwriad yn gyfle i gefnogi busnesau eraill yn y pentref

 

·         Bod rhaid gwrando ar lais y gymuned a chymryd eu pryderon am barcio o ddifrif

·         Dylid cynnal asesiad ardrawiad effaith ar y sefyllfa parcio yn y pentref

 

(e)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais

 

  Syrthiodd y cynnig yn dilyn pleidlais fwrw gan y Cadeirydd

 

(f)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais.

 

Amodau:

 

1.         5 mlynedd

2.         Gwaith yn unol â’r cynlluniau

3.         Amod defnydd gwyliau yn unig

4.         Amod Dŵr Cymru

Dogfennau ategol: