Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 45 tŷ (gan gynnwys 23 tŷ fforddiadwy), creu mynedfa newydd, uwchraddio'r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio
AELODAU LLEOL: CYNGHORYDD ROY OWEN a’r CYNGHORYDD OLAF CAI LARSEN
Cofnod:
Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 45 tŷ (gan gynnwys 23 tŷ
fforddiadwy), creu mynedfa newydd, uwchraddio'r fynedfa bresennol, darparu
llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan adrodd bod cais amlinellol wedi ei ganiatáu Ionawr 2017 ynghyd ag
amod yn gofyn am gynllun ar gyfer darparu tai fforddiadwy fel rhan o’r
datblygiad. Ategwyd y byddai’r tai
fforddiadwy i safon Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (safonau DQR) fydd yn
amrywio o dai 3 person 2 lofft i dai 7 person 4 llofft wedi eu gwasgaru drwy’r
datblygiad. Nodwyd bod safle’r
cais wedi ei leoli o fewn ardal breswyl sefydledig ac oddi fewn i ffin datblygu
Caernarfon fel y’i cynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG).
Prif ystyriaethau’r cais yw derbyn materion a godwyd yn ôl o dan y cais
amlinellol blaenorol sydd yn ymwneud ag edrychiadau allanol y tai,
tirweddu/tirlunio, cynllun a graddfa. Eglurwyd fod yr egwyddor o leoli tai ar y
safle arbennig hwn eisoes wedi ei dderbyn a’i sefydlu o ystyried cais
amlinellol rhif C16/0773/14/AM. Amlygwyd bod y manylion a gyflwynwyd gyda’r
cais yn dangos bod amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol ar gyfer edrychiadau
allanol y tai sydd yn adlewyrchu edrychiadau a gorffeniadau tai cyfagos. Ni
ystyriwyd byddai’r datblygiad yn creu strwythurau anghydnaws o fewn y strydlun
lleol.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod anheddau
preswyl wedi eu lleoli i’r gogledd, de a gorllewin o’r safle ond ni fyddai gor-edrych annerbyniol uniongyrchol i mewn i’r tai hyn.
Ystyriwyd y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan drigolion lleol, ond ni ystyriwyd
y byddai lleoli hyd at 45 tŷ yn creu effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl na chyffredinol trigolion cyfagos
ar sail creu aflonyddwch, colli preifatrwydd, colli golau a chreu strwythurau
gormesol ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 PCYFF3 o’r Cynllun
Datblygu Lleol.
Yn gynwysedig yn y cais cyflwynwyd Datganiad Tai Fforddiadwy fel modd o
ddiwallu gofynion amod rhif 3 o’r
cais amlinellol oedd yn ymwneud a chyflwyno manylion ynglŷn â darparu tai
fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad. Ystyriwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad
yn bodloni gofynion amod rhif 3 o’r caniatâd parthed y niferoedd, math, daliaeth a lleoliad y ddarpariaeth tai fforddiadwy.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais
c) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylwadau’r Cyngor Tref,
‘eu bod yn gefnogol i’r datblygiad gydag amod bod y 23 tŷ fforddiadwy ddim
yn cael eu newid hanner ffordd drwy’r cynllun’, nodwyd bod y cais eisoes wedi
cael caniatâd ac nad oedd y materion hyn yn berthnasol i’r drafodaeth. Er
hynny, ategwyd, petai’r cais am newid, byddai angen delio gyda hynny ar y pryd.
ch) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r angen am dai unllawr ar gyfer yr henoed, nodwyd bod dyheadau'r gymuned
wedi cael eu hystyried a bod y cynllun o anheddau cymysg i’w groesawu. Deallir
na ellir ymateb i bob elfen, ond bod anghenion eraill wedi eu blaenoriaethu.
d) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti dalgylch
Ysgol yr Hendre a phryder am y gwasanaethau cefnogol yn enwedig addysg, nodwyd
fod cadarnhad fod digon o gapasiti ar gael yn yr
ysgol ar adeg asesu’r cais yn wreiddiol.
PENDERFYNWYD caniatáu y cais materion a gadwyd yn ôl a rhyddhau amod rhif 3, 5
ac 11 o’r caniatâd amlinellol gyda’r amod:-
Yn unol â’r manylion a’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
Dogfennau ategol: