Cyflwynwyd gan:Cyng. Peredur Jenkins
Penderfyniad:
-
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r
Gyllideb Refeniw, a nodi y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth.
-
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a
Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth
Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb.
-
Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r
gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried
y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet
29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol.
-
Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr
Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet
(Cabinet 29/01/19).
-
Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant
yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a
chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant
Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf.
-
Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau
Corfforaethol,
·
gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w
neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.
·
(£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i
gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.
·
gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa
Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar
gyllidebau'r Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
-
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r
Gyllideb Refeniw, a nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth.
-
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a
Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth
Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb.
-
Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r
gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried
y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet
29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol.
-
Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr
Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet
(Cabinet 29/01/19).
-
Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant
yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a
chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant
Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf.
-
Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau
Corfforaethol,
·
gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w
neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.
·
(£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i
gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.
·
gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa
Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar
gyllidebau'r Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adran yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw a’r rhagolygon at
ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod y darlun yn gymysg gyda rheolaeth
ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor. Ychwanegwyd fod gorwariant
sylweddol yn cael ei ragweld yn yr Adran Addysg, Plant a Chefnogi Teuluoedd a
Phriffyrdd a Bwrdeistrefol.
Tynnwyd sylw y bydd pum adran ynghyd a
chyllidebau Corfforaethol yn tanwario, ond bydd y pum adran arall yn gorwario.
Mynegwyd fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario o ganlyniad i
orwariant yn y gwasanaeth Darparu a llithriad yn y cynlluniau arbedion.
Ychwanegwyd y bydd lleihad yn y gorwariant o ganlyniad i ddefnydd o arian
grant.
Nodwyd fod gorwariant yn yr Adran Blant a
Chefnogi Teuluoedd yn dwysau, er hyn mae derbyn grant diweddar gan Lywodraeth
Cymru wedi lleihau’r gorwariant ychydig. Esboniwyd mai cludiant tacsis a bysus
ysgolion sydd yn parhau i greu gorwariant o fewn yr Adran Addysg. Wrth edrych ar yr adran Economi, nodwyd mai
llithriad yn y cynllun arbedion yn y maes Hamdden a gostyngiad yn y rhagolygon
incwm yw’r rhesymau dros y gorwariant. Mynegwyd fod yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol wedi cychwyn ar gymryd camau i leihau’r gorwariant yn y maes
Gwastraff.
Nodwyd wrth edrych ar gyllidebau
corfforaethol fod y rhagolygon yn ffafriol, ac mai 2018/19 yw’r flwyddyn gyntaf
o gasglu’r Premiwm Treth Cyngor. Ychwanegwyd fod y rhagolygon o gynhaeafu’r
dreth ychwanegol yma’n uwch, ond fod ôl-ddyddio trosglwyddiadau eiddo o’r
rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Treth Busnes yn lleihau’r incwm.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Nodwyd mai trefn gyllidebol yr Adran Gyllid
yw’r rheswm dros y sefyllfa ariannol derbyniol, ar y cyfan, a diolchwyd i’r
Adran am eu gwaith caled.
Awdur:Dafydd L Edwards
Dogfennau ategol: