I ystyried cais gan
Mr A
(copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Amlygodd y Cyfreithiwr yr angen am eglurder
dros yr hyn
oedd i’w benderfynu.
a) Mai cais
am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat oedd
gerbron yr Is bwyllgor. Nid oedd cais gerbron
am drwydded gweithredu ac felly
ni fyddai
penderfyniad yr Is bwyllgor yn rhagdybio
effaith ar drwyddedau eraill. Byddai hynny i’w drafod
mewn is bwyllgor
arall.
b) Nad
diddymiad oedd canlyniad y gwrandawiad. Nodwyd bod diddymiad
yn awgrymu trwydded gyrrwr sydd mewn
grym. Nid yw’r drefn adnewyddu yn gweithredu
fel adolygiad o drwydded gyfredol ond fel cais am drwydded gyrrwr newydd i fod yn
weithredol o ddyddiad terfynol y
drwydded gyfredol. Yr unig ganlyniad
posib o’r gwrandawiad fyddai caniatáu neu wrthod.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Nodwyd ei fod wedi bod
yn rhedeg y busnes ers dros 20 mlynedd a bod llythyrau
geirda wedi eu cyflwyno yn nodi
ei fod yn
gyflogwr da ac yn uchel ei
barch o fewn y gymuned leol.
Mewn ymateb
i sylw ynglŷn ag annilysrwydd yswiriant y car a archwiliwyd nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod y cerbyd gydag yswiriant
llawn, nad oedd unrhyw risg
i’r cyhoedd, bod y car yn ddiogel
ac nad oedd
yr ymgeisydd wedi ei ganfod
yn euog. Dadleuodd y Swyddog Gorfodaeth bod yswiriant cynhwysfawr ar gyfer y cerbyd
yn annilys ar amser yr
archwiliad a chyflwynwyd dyfyniad o’r polisi
yswiriant perthnasol gyda’r cofnod DBS.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD nad oedd yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
·
llythyrau geirda
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol am ymddygiad afreolus
neu ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol neu sarhaus
sydd yn debygol
o achosi aflonyddwch, braw neu drallod
gan Heddlu Gogledd Cymru (Chwefror 2014) yn groes i’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus
1986. Ar ddau achlysur, (2014 a 2015) cyflwynodd yr ymgeisydd ffurflenni
adnewyddu trwydded gyrrwr lle methodd ddatgan ar ei ffurflen gais rybudd 2014
oedd yn groes i amod trwyddedu paragraff 6 o bolisi trwyddedu'r Cyngor.
Ym mis Ionawr 2018
cafodd yr ymgeisydd ei ddyfarnu yn euog gan Lys Ynadon Caernarfon i un
cyhuddiad o ganiatáu i gerbyd gael ei ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat heb
drwydded gyfredol sydd yn groes i adran 46 (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976. Cafodd ddirwyo o £450.00, gorchymyn i dalu
costau o £200 a gordal i’r dioddefwr o £45. O ganlyniad i’r cyhuddiad bu i’r
ymgeisydd dderbyn rhybudd o ddiddymiad trwydded gyrrwr gan yr Awdurdod
Trwyddedu (Chwefror 2018) yn unol â darpariaeth adran 61 Deddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Cafodd y
diddymiad ei wneud gan swyddog o dan drefniadau hawliau dirprwyedig ac nid gan
Is Bwyllgor. Fe gyflwynodd yr ymgeisydd apêl i Lys Ynadon am y diddymiad a
daethpwyd i drefniant mewn gwrandawiad (Mehefin 2018) bod yr ymgeisydd i
dynnu'r apêl yn ôl, y byddai’r Cyngor (Adran Trwyddedu) yn tynnu'r diddymiad yn
ôl, a bod addasrwydd yr ymgeisydd fel
‘person addas a phriodol’ yn cael ei benderfynu mewn gwrandawiad gerbron Is
Bwyllgor.
Amlygwyd nad oedd
yr ymgeisydd wedi datgelu rhybudd 2014 a throsedd 2018 yn ei gais i adnewyddu
ei drwydded.
Ym mis Hydref
2018, wrth gyflwyno ffurflen gais am drwydded yn Siop Gwynedd, Caernarfon, bu
i’r ymgeisydd ymddwyn mewn modd annerbyniol drwy ymateb yn eiriol mewn modd
personol ac ymosodol gyda Swyddog Trwyddedu. Yn yr un modd, mewn galwad ffôn
gyda Rheolwr Llinell yr aelod staff cyhuddodd yr ymgeisydd yr aelod staff o
ddweud celwydd. Ar y diwrnod canlynol, anfonwyd llythyr gan y Rheolwr Llinell
at yr ymgeisydd yn amlinellu’r digwyddiad ac yn rhoi rhybudd iddo na fyddai
unrhyw swyddog o’r Cyngor yn goddef ymddygiad o’r fath.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.3 yn nodi bod y term ‘materion arall i’w hystyried’
yn cynnwys rhybudd neu faterion eraill sydd yn berthnasol i ‘addasrwydd a phriodolrwydd’.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob
collfarn, p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff
6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau
o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.1 gan
fod gyrwyr trwyddedig yn dod
i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu
safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau
yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi
y bydd cais am drwydded fel rheol
yn cael ei
wrthod os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na
3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff, yn rhestru ymhlith
materion eraill, troseddau sydd yn ymwneud ag ymosodiad
cyffredin a rhwystro. Mae paragraff 6.6 yn nodi y bydd
cais
yn cael ei
wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd
o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd
o fewn y 10 mlynedd diwethaf.
Mae paragraff
16.1 o bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol,
ond gyda’i gilydd yn
creu hanes o ail-droseddu sydd yn
dangos diffyg parchat les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar
Mae paragraff 17
o’r Polisi yn ymwneud a materion torri deddfau, is-ddeddfau ac amodau trwydded.
Nodi’r yn 17.1 y byddai’n annhebygol rhoi trwydded i ymgeisydd os oes ganddo
gollfarn am drosedd yn ymwneud a’r materion uchod oni bai bod cyfnod o 12 mis
wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiweddaraf.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y rhybudd a roddwyd yn 2014 yn ymwneud a thrais ac felly i’w ystyried o dan baragraff 6.5 o’r polisi. Er hynny,
gyda’r gollfarn yn un hanesyddol (tu hwnt i
ofynion y polisi o 3 blynedd) nid oedd yn sail i wrthod
y cais. Er bod yr Is Bwyllgor wedi dod
i’r farn nad oedd y gollfarn ar
ei rinwedd ei hun yn
ddigon i wrthod y cais,cydnabuwyd y byddai’r gollfarn, gyda chyfuniad o gollfarnau tebyg, yn gallu bod yn
sail i wrthod o ystyried paragraffau 6.6 ac 16.1.
Nododd
yr Is Bwyllgor bod methiant yr ymgeisydd
yn 2014, 2015 a 2018 i ddatgelu rhybudd 2014 wrth adnewyddu ei drwydded
yn torri amod trwydded. Gyda’r gollfarn olaf wedi
digwydd tri mis yn ôl, rhagdybiwyd
yr angen i ystyried
paragraff 17.1. Tynnwyd sylw‘r Is bwyllgor at y ffaith nad oedd collfarn 2018 wedi ei restru ar
y datganiad DBS oherwydd nad oedd yn cael ei
gydnabod fel trosedd gan Rheoliadau
Cofnodion Cenedlaethol yr Heddlu (Troseddau Cofnodadwy) 2000 Er hynny amlygodd y Cyfreithiwr, er nad oedd cofnod o’r
drosedd, roedd yn dal yn berthnasol
i’r gwrandawiad.
Wrth ystyried digwyddiad Hydref 2018 fel ag yr amlinellwyd gan y Rheolwr Trwyddedu, daeth yr Is Bwyllgor i’r penderfyniad, gan nad oedd
yr ymgeisydd wedi cymryd unrhyw gamau i ddadleu yn
erbyn y cyhuddiadau bod yr ymddygiad yn un treisgar. Ystyriwyd rhybudd 2014 a digwyddiad Hydref 2018 fel rhai o natur dreisgar,
ac wedi digwydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf. O ganlyniad, roedd paragraff 6.6 o’r polisi yn
cael ei ystyried.
Yn ychwanegol, roedd rhybudd 2014, collfarn 2018 a digwyddiad Hydref 2018 yn gyfres o ail droseddu
o fewn 10 mlynedd, yn dangos diffyg
parch at les eraill
ac eiddo. Eto, roedd hyn yn arwain
at benderfyniad yr Is bwyllgor i ystyried paragraff 16.1.
Amlygodd y Cyfreithiwr, er bod rhesymau clir dros
wrthod y cais, nad yw darpariaethau'r Polisi yn orfodol a bod modd gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r achos yn cyfiawnhau hynny.
Nodwyd bod
‘addas a phriodol’, ymysg materion eraill, yn gofyn am asesiad cymhwysedd busnes yr ymgeisydd, fyddai’n cynnwys edrych ar y gofal sydd yn cael ei roi wrth gyflwyno gwaith papur i adnewyddu trwydded. Methodd
yr ymgeisydd i nodi’r rhybudd 2014
dair gwaith sydd yn awgrymu agwedd anhrefnus
a ffwrdd a hi tuag at waith papur ac ymgais i guddio gwybodaeth berthnasol.
Nodwyd bod
‘addas a phriodol’ hefyd yn rhoi ystyriaeth os yw ymgeisydd yn gallu ymddwyn
mewn modd sydd ddim yn fygythiol o dan amgylchiadau heriol. Dylai ymgeisydd fod ar gallu i ymddwyn mewn modd
digynnwrf a thawel mewn anghydfod
neu bydd amheuaeth yn y modd y mae’n ymdrin â chwsmeriaid.
Petai’r ymgeisydd wedi ymddwyn mewn modd priodol Hydref 2018, byddai rhybudd 2014 yn fater unigol ac felly ni
fyddai angen ystyried paragraff 6.6
(aildroseddu). Nododd yr Is Bwyllgor y dylai’r ymgeisydd, yn y dyfodol, wrth geisio am drwydded,
drin swyddogion y Cyngor gyda pharch.
Wedi
ystyried yr holl elfennau, nid oedd yr Is Bwyllgor wedi eu darbwyllo y dylid gwyro oddi
ar y rhagdybiaeth o wrthod y cais. O
ganlyniad, gwrthodwyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
ac y byddai’r Uned Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.