Agenda item
Tynnu cytundeb 106 arwyddwyd ar gais 2/22/448B sy'n cyfyngu defnydd yr adeilad a'r tir i ddefnydd amaethyddol a dim defnydd busnes na masnachol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams
Cofnod:
Tynnu cytundeb 106 arwyddwyd ar gais 2/22/448B sy'n cyfyngu defnydd yr
adeilad a'r tir i ddefnydd amaethyddol a dim defnydd busnes na masnachol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod egwyddor ynglŷn ag amgylchiadau ble gellir gofyn am
ddiddymu cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn cael ei egluro’n fanwl yng
Nghylchlythyr 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio. Yn ychwanegol i’r cylchlythyr
roedd Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu Rhwymedigaethau Cynllunio)
1992 yn berthnasol i’r cais.
Eglurwyd bod y dogfennau (a oedd yn
cynnwys Rheoliadau 122 a 123 o’r Rheoliadau Ardoll Isadeiledd Cymunedol, 2010)
yn datgan er mwyn i gytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 fod yn ddilys rhaid
cyfarfod 5 maen prawf, boed y cytundeb yn un newydd neu yn gais i ddileu
cytundeb neu ei ddiwygio.
Nodwyd y cyflwynwyd y cais i ddileu’r
cytundeb ar sail bod yr ymgeisydd o’r farn fod y cytundeb yn amwys ei ystyr, yn
ddiangen ac yn anweithredol.
Amlygwyd er bod cytundeb 106 wedi ei arwyddo yn gysylltiedig
gyda chais 2/22/448B, roedd cyfyngiadau’r cytundeb 106 hefyd i raddau wedi eu
hailadrodd mewn amodau ar y caniatâd cynllunio. Eglurwyd y byddai ceisiadau ar
gyfer stablau erbyn hyn yn destun amod cynllunio ar y caniatâd, yn hytrach na chytundeb
106. Ni ystyriwyd fod diben cynllunio ar gyfer y cytundeb 106 ac nid oedd ei
angen er gwneud y datblygiad a ganiatawyd yn dderbyniol i bwrpas cynllunio.
Nodwyd yr ystyriwyd nad oedd cynnwys y
cytundeb o dan Adran 106 yn cyfarfod â’r 5 prawf a gyfeirir atynt yng
Nghylchlythyr 13/97, Polisi Cynllunio Cymru, Pennod 3 “Gwneud Penderfyniadau
Cynllunio a’u Gorfodi” a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu
Rhwymedigaethau Cynllunio) 1992 ac nid oedd y cytundeb yn parhau i gyflawni
diben cynllunio defnyddiol. Argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn ddiamodol.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod Cyngor Tref Nefyn yn
gwrthwynebu’r bwriad oherwydd byddai newid defnydd o’r tir i greu unrhyw ddatblygiad
masnachol yn cael effaith difrifol ar y ffordd i’r safle a ddefnyddiwyd gan
gerddwyr bob dydd;
·
Bod tir ar y safle yn gyswllt
at Lwybr yr Arfordir, roedd llwybr Penrallt yn cael ei gau yn gyfnodol oherwydd
diogelwch y tir. Felly, pe byddai datblygiad ar y safle gallai’r cyswllt i
Lwybr yr Arfordir gael ei golli;
·
Bod y cytundeb 106 a’r amodau
yn angenrheidiol;
·
Pe caniateir i dynnu’r
cytundeb 106, byddai’r cais a dynnwyd yn ôl yn fis Gorffennaf 2018 yn cael ei
ail-gyflwyno;
·
Mai stablau ar gyfer ceffylau oedd ar y safle, pe
byddai’r cytundeb 106 yn cael ei dynnu gellir eu defnyddio ar gyfer dibenion
busnes. Os nad oedd defnydd bellach i’r stablau fe ddylid eu tynnu i lawr;
·
Bod y safle yng nghefn gwlad agored, pryder am
effaith weledol unrhyw ddatblygiad ar y safle yn dilyn tynnu’r cytundeb 106;
·
Gofyn i’r Pwyllgor gadw’r cytundeb 106 mewn lle.
(c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio
bod 5 maen prawf o ran gosod neu dynnu cytundeb 106 a chredir bod y cytundeb
106 yn dyblygu’r amodau a roddwyd ar y caniatâd cynllunio. Ymhelaethodd bod yr
amodau cynllunio yn ddigon cadarn ac mai’r drefn bresennol oedd gosod amodau i
reoli defnydd. Nododd er ei bod yn cydnabod pryderon lleol o ran datblygiadau
ar y safle yn y dyfodol, byddai’n rhaid i gais cynllunio gael ei gyflwyno o ran
unrhyw ddatblygiad arall.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail effaith datblygiad ar
Lwybr yr Arfordir a’r dirwedd (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a
Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli), pe byddai
defnydd masnachol, a bod yr amodau cynllunio ddim yn ddigonol ar ben eu hunain.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr ymgeisydd yn fodlon
arwyddo pan ganiatawyd y cais, efallai bod yr ymgeisydd eisiau tynnu’r cytundeb
106 er mwyn cael cynllun arall. Pe byddai cais yn cael ei gyflwyno yn y
dyfodol, a fyddai gerbron y Pwyllgor er penderfyniad?
·
Ddim yn gweld pwrpas diddymu’r
cytundeb 106;
·
Pe na fyddai pwrpas defnyddiol
i’r cytundeb 106, ni fyddai’r ymgeisydd yn gwneud cais i’w dynnu;
·
Mai cais i dynnu cytundeb 106
yn unig oedd gerbron, roedd amodau mewn lle felly beth oedd ei bwrpas. Pe
byddai’r cais yn cael ei wrthod gan y Pwyllgor, ei fod yn debygol y byddai’r
cais yn cael ei ganiatáu ar apêl;
·
Pam bod cais cynllunio
C18/0332/42/LL wedi ei dynnu’n ôl gan yr ymgeisydd ym mis Gorffennaf 2018?
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Petai cais yn cael
ei gyflwyno yn y dyfodol, a bod yr aelod lleol yn galw’r cais i mewn fe
fyddai’r Pwyllgor yn ei ystyried;
·
Bod yr ystyriaethau
cynllunio wedi newid ers caniatawyd cais 2/22/448B, roedd Cylchlythyr 13/97
Rhwymedigaethau Cynllunio yn rhoi arweiniad mai drwy amodau y dylid rheoli
defnydd;
·
Nid oedd bodolaeth
cytundeb 106 yn atal unigolyn rhag cyflwyno cais cynllunio. Beth bynnag oedd
bwriadau'r ymgeisydd, fe ddylai’r Pwyllgor gloriannu os oedd pwrpas i’r
cytundeb 106;
·
Bod y cytundeb 106 yn rhan
o’r ystyriaethau wrth asesu cais C18/0332/42/LL, ond tynnwyd y cais yn ôl gan
yr ymgeisydd er mwyn ystyried opsiynau;
·
Byddai unrhyw gais
cynllunio yn y dyfodol yn cael ei ddelio efo ar yr adeg;
·
Bod argymhelliad cadarn
wedi ei roi a pe byddai apêl byddai’r cynigydd a’r eilydd yn cyflwyno’r achos
mewn apêl.
PENDERFYNWYD gwrthod y
cais.
Rheswm:
Ar sail effaith datblygiad ar Lwybr yr Arfordir a’r dirwedd (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli), pe byddai defnydd masnachol, a bod yr amodau cynllunio ddim yn ddigonol ar ben eu hunain.
Dogfennau ategol: