Creu cae chwarae 3ydd cenhedlaeth gan gynnwys mynedfa / man cynhesu corff, creu llain galed ar gyfer gosod esiteddle a man storio cyfarpar, creu ffyrdd a llwybrau, codi llifoleuadau ac ehangu maes parcio.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Menna Baines
Cofnod:
Creu cae chwarae 3ydd cenhedlaeth gan gynnwys mynedfa / man cynhesu corff,
creu llain galed ar gyfer gosod eisteddle a man storio cyfarpar, creu ffyrdd a
llwybrau, codi llifoleuadau ac ehangu maes parcio
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod Polisi ISA3 o’r CDLl yn annog caniatáu cynigion am
gyfleusterau newydd ar gyfer cyfleusterau addysgol a gweithgareddau atodol
cymdeithasol neu hamdden ar safleoedd addysg uwch cyn belled eu bod yn
dderbyniol o safbwynt materion megis graddfa, lleoliad, dyluniad mwynderau a
chludiant. Nodwyd bod y polisi’n pwysleisio y dylid rhoi blaenoriaeth i
ailddefnyddio safleoedd presennol.
Nodwyd ei fod yn gynllun i ail-ddefnyddio safle presennol
trwy ei uwchraddio fel bod ansawdd y cyfleusterau ar gyfer chwaraeon oedd ar
gael i’r Brifysgol yn gwella’n sylweddol. Ymhelaethwyd y byddai’r datblygiad yn
helpu sicrhau bod y caeau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithlon nag y bu a’u bod
yn fwy hyblyg i gwrdd gydag anghenion addysgol a hamdden cyfredol.
Tynnwyd sylw bod lleoliad y cais yn sensitif
iawn o safbwynt ystyriaethau tirwedd, derbyniwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol
Cymru yn nodi bod y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn rhoi sicrwydd
na fyddai'r cynllun goleuo oedd yn rhan o’r cynnig hwn yn tarfu rhyw lawer yn
weledol ar y lleoliad nac ar yr olygfa o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Ynys Môn, a byddai'n tarfu llawer llai na'r goleuadau presennol.
Nodwyd o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl, o ystyried pellter y safle o
unrhyw anheddau preifat a’r ffaith ei fod yn ddatblygiad tebyg am debyg o
safbwynt defnydd y tir, ni chredir y byddai’n creu unrhyw newid arwyddocaol
ychwanegol i fwynderau unrhyw gymdogion na’r ardal.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. Tynnwyd sylw at amod rhif 5, gan egluro ei fod yng nghyswllt rheoli
oriau gweithredol y llifoleuadau.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Byddai’r bwriad yn darparu’r
cae 3ydd cenhedlaeth cyntaf yng Ngogledd Cymru;
·
Fe fyddai’n ased gwerthfawr
i’r ardal gan gynnwys clybiau lleol a’r gymuned;
·
Bod problemau draenio yn gysylltiedig
â’r caeau chwarae presennol, ni ellir eu defnyddio yn ystod y Gaeaf;
·
Byddai’r cae yn addas i rygbi
a phêl droed i safon ryngwladol;
·
Bod Chwaraeon Cymru yn
gefnogol i’r cais;
·
Bod yr ymgynghorwyr statudol
yn fodlon efo’r bwriad;
·
Bod yr amodau a argymhellir yn
dderbyniol, yn amodol bod amod 5 yn cyfeirio at reoli defnydd y llifoleuadau.
(c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Nododd aelod bod cae
3ydd cenhedlaeth yn Nantporth eisoes a’i fod yn gobeithio y byddai’r cae ar
gael i’w ddefnyddio gan y gymuned leol.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. 5
mlynedd
2. Gwaith yn unol â’r cynlluniau
3. Rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol
4. Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol
5. Llifoleuadau - Oriau gweithredol 16:00 hyd
22:00 Llun i Gwener a 16:00 hyd 19:00 Sadwrn a Sul
Nodiadau
Dŵr
Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Dogfennau ategol: