skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. W Gareth Roberts

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran wedi bod yn cymryd camau er mwyn ailgyflwyno ac ail edrych ar sut maent yn cynnig gwasanaethau i drigolion Gwynedd. Ychwanegwyd fod yr adran wedi bod yn arloesol ac yn weithgar a'u bod parhau i ddatblygu er mwyn cyrraedd pen y daith. Ategwyd mai yn y dyfodol mai gwaith ataliol fydd yn cael blaenoriaeth er mwyn cyrraedd dyheadau pobl ac i wneud ymyrraeth fuan.

 

Mynegwyd fod gwaith ataliol yn cyfarch y problemau cyllidol yr adran. Nodwyd fod yr adran wedi derbyn arian ar gyfer prosiectau dros dro gan y Llywodraeth, ond yn aml fod y buddion yn rhai tymor hir a bod disgwyliad i’r prosiectau barhau yn dilyn y grant drwy’r gyllideb graidd. Mynegwyd fod hyn ddim bob amser yn bosibl.

 

Pwysleisiwyd mai prif her yr adran yw bod trigolion yn byw yn hyn a niferoedd uwch a’r cyflwr dementia. Ychwanegwyd fod gwaith wedi ei wneud i gyfarch yr heriau mewn rhai ardaloedd ac yn benodol ar ddarparu cefnogaeth dementia o safon uchel. Mynegwyd pwysigrwydd sicrhau’r gofal yma ym mhob ardal yng Ngwynedd er mwyn sicrhau fod cefnogaeth ar gael yn agos i gartrefi'r unigolion. Ychwanegwyd fod y gwaith yma ar y cyd a’r Maes Iechyd, a'u bod yn gweithio fel un gwasanaeth i gefnogi anghenion yr unigolyn.

 

Nodwyd fod niferoedd unigolion sydd methu eu rhyddhau yn amserol o’r ysbyty oherwydd rhesymau cymdeithasol wedi lleihau dros y tri mis diwethaf. Nodwyd mai cydweithio a datblygiad y timau adnoddau cymunedol yw’r rheswm dros hyn. Ynghyd a datblygu cynlluniau gofal cartref yn ardal Tywyn a Pwllheli. Ychwanegwyd fod Hafod y Gest, sydd yn dai gofal ychwanegol ym Mhorthmadog, bellach wedi agor.  Mynegwyd fod cynllun y prosiect ‘Pontio’r Cenadaethau’ yn carlamu yn ei blaen. Cynllun sydd yn dod a phlant, pobl ifanc a phobl hyn at ei gilydd yw hon. Ategwyd fod yr unigolion sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau.

 

Tynnwyd sylw at un her fawr sydd i’w gweld ar draws y Gogledd y diffyg nifer o seiciatryddion, yn benodol ym Meirionydd ac Arfon. Mynegwyd fod wedi ei uchafu i’r Bwrdd Iechyd am drafodaeth bellach.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os oes modd cyfuno dau brosiect - Hafod y Gest, Porthmadog a Pontio y Cenedlaethau,  gan fod Ysgol Eifion Wyn mor agos i adeilad Hafon y Gest. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal a Grŵp Cynefin am y mater, ac ychwanegwyd fod lleoliad Hafod y Gest yn Hwb sydd ar gael i’r gymuned gyfan. Ychwanegwyd fod modd i’r unigolion a fydd yn aros yno hefyd barhau i fynychu gweithgareddau o fewn y gymuned yn y llyfrgell a’r ganolfan hamdden gan fod yr adeilad mor ganolog.

-        Tafodwyd os byddai modd defnyddio pobl ifanc yn eu harddegau yn ogystal ar gyfer y cynllun Pontio’r Cenedlaethau’ ac nid plant ifanc yn unig.

Tynnwyd sylw ar y Bwrdd Iechyd yn ail asesu holl gynlluniau’r Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC), ac o ganlyniad mae posibilrwydd y bydd lleihad mewn cyfraniadau a throsglwyddo’r gost i awdurdodau lleol. Esboniwyd y sefyllfa ar hyn o bryd, ac mae trafodaeth yn cael ei gynnal. Ychwanegwyd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn talu, ar gyfartaledd, cyfradd uwch yng Ngwynedd nac unrhyw sir arall. Nodwyd efallai y byddai’n syniad cael cymodwr yn rhan o’r trafodaethau rhwng CIC a’r Cyngor. Ychwanegwyd fod angen meini prawf clir ar gyfer ariannu pecynnau gofal fel bod y rheolau yn gwbl glir mai pwy sydd yn ariannu pa elfennau

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: