skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ond yn wyneb y gorwariant sylweddol a adroddwyd yn ystod yr adolygiad cyllidol diwethaf, gofyn i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn â hwy.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ond yn wyneb y gorwariant sylweddol a adroddwyd yn ystod yr adolygiad cyllidol diwethaf, gofyn i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn â hwy.

 

TRAFODAETH

 

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd yn amlinellu'r diweddaraf am yr adran, a diolchwyd i’r aelodau craffu a oedd yn rhan o’r cyfarfod herio perfformiad am eu cyfraniad. Mynegwyd fod yr Aelod Cabinet, ar y cyfan, yn hapus a pherfformiad yr adran, ond fod ambell i lithriad ond nid yw un o’r llithriadau yn achos pryder o ran diogelwch o fewn yr adran.

 

Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r adran gan nodi fod y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd yn datblygu gwasanaethau mwy integredig o fewn y Cyngor a gyda phartneriaid. Mynegwyd fod gwaith mapio yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Ychwanegwyd fod y gwaith o ddatblygu’r strategaeth a’r cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i uno eu grantiau atalion wedi rhoi cyfle i’r adran adelwyrchu ar eu cyfeiriad. Ategwyd ei bod yn gyfnod cyfores iawn. Mynegwyd bellach fod gan y Cyngor Fwrdd Cefnogi Llesiant, a fydd yn hybu gweithio yn drawsadrannol ar gyfer lles trigolion Gwynedd.  Tynnwyd sylw yn ogystal at Strategaeth Rhiantu Corfforaethol, gan nodi fod grwpiau tasg wedi eu sefydlu i geisio adnabod lle sydd angen ei wella ac i adnabod ymarfer da. Mynegwyd fod y gwaith yn un uchelgeisiol iawn.

 

Tynnwyd sylw at adolygiad ‘Dechrau I’r Diwedd’ sydd yn gynllun arbedion sydd wedi bod yn waith ar y cyd rhwng yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd, Cyllid a’r Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth. Nodwyd fod yr adolygiad yn nodi cynnydd yn y nifer o blant mewn gofal fesul categori. Ategwyd fod lleihad yn y nifer o blant ag anableddau Dysgu / anghenion dwys ond fod cynnydd yn y nifer o fewn categorïau eraill.  Ychwanegwyd fod gwaith yn parhau i edrych ar y sefyllfa.

 

Mynegwyd fod y wybodaeth yn yr adolygiad yn amlygu fod achosion bellach yn anodd ei ragweld. Ategwyd ei bod yn anodd rhoi cyllideb bendant gan fod angen bod yn ofalus ac ymateb i achosion mor effeithiol â phosib. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i geisio gwella’r sefyllfa ariannol. Pwysleisiwyd fod yr adran yn ceisio bod yn gyfrifol a chyfrannu at y cyllidebau arbedion. Mynegwyd fod cost lleoliadau preswyl  yn uchel ac felly mae’r lefel gorwariant yn llawer yn uwch, mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal yn rhanbarthol er mwyn edrych ar gost.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod gorwariant o fewn yr Adran Blant yn broblem genedlaethol ond mynegwyd fod pryderon yn codi am nad oes unrhyw oleuni ariannol. Holwyd beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud am y gorwariant cenedlaethol yn y maes. Mynegwyd fod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol newydd yn dymuno cael deialog agored ac i wella’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol. Pwysleisiwyd fod angen cyfleu darlun clir o’r sefyllfa a sicrhau ei fod yn destun trafodaeth genedlaethol.

-        Pwysleisiwyd fod yr adran er yn holl ddadansoddi, yn parhau i fethu rhagweld yr achosion a fydd yn codi o fewn y maes, ychwanegwyd fod yr adran nid yn unig yn edrych o fewn y Cyngor ond ar y sefyllfa tu hwnt i’r sir.

-        Mynegwyd fod yr adolygiad Cenedlaethol yn amlygu fod y gwasanaeth yn gweithio yn effeithiol dros y plant, ond amlygwyd fod y broblem gyllidol yn un sydd angen ei drafod. Ychwanegwyd fod gorwariant i’w weld ym mhob gwasanaeth o fewn yr adran a nodwyd fod angen gofyn i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyfarfod gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn â hwy

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: