skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol er mwyn datblygu llwybrau beicio, yn cynnwys llwybr beicio o Fethel i Gaernarfon.  Mae ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon eisoes wedi cychwyn adeiladu.  Oes modd sicrhau bod y cynllun llwybr beicio Bethel i Gaernarfon yn cael ei wireddu, ac oes angen mwy o arian gan y Llywodraeth, i ddechrau’r trafodaethau cyn gynted â phosib’?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae’r ateb ysgrifenedig gan y gwasanaeth yn amlygu eu hymdrechion hwy i geisio cael y llwybr beicio i gyd-redeg, neu i fod yn rhan, o’r cynllun ffordd osgoi newydd a hefyd y sawl cais grant mae nhw wedi gyflwyno i gael y llwybr beicio yma a llwybrau beicio eraill yn ogystal ar draws y sir.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Os oes angen i ni gael mwy o arian ar gyfer gwireddu’r cynlluniau llwybrau beicio yma, oes modd i’r Arweinydd gysylltu â mi, i geisio cysylltu hefo’r Gweinidog, ar gyfer symud hyn ymlaen ar ran Bethel a Chaernarfon, ond hefyd ar ran y sir?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Yn sicr, os byddwn ni angen help llaw i yrru’r neges yn ôl i’r mannau priodol mi wnawn gysylltu â’r aelod a byddwn yn falch iawn o gael ei help.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Elwyn Jones

 

“Blwyddyn ers cychwyn ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid, ac yn unol â’r weledigaeth oedd yn Opsiwn 3, ydi’r Aelod Cabinet, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth yn gallu cadarnhau fod yna bellach 19 o weithwyr ieuenctid llawn-amser – 14 yn ychwanegol i’r 5 a gadwodd eu swyddi – a 21 o weithwyr rhan-amser wedi eu penodi i symud y Gwasanaeth yn ei flaen?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Fel y gwelwch o’r ateb ysgrifenedig byr, mae gennym ni lond tŷ hefo’r gweithwyr llawn amser, ond ddim cweit yna hefo’r gweithwyr rhan amser.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elwyn Jones

 

“Ydi’r £50,000 a glustnodwyd llynedd ar gyfer clybiau gwirfoddol, cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol, ayb, wedi ei hawlio?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Mae’r gwasanaeth newydd yn mynd o nerth i nerth a dim ond pethau positif rwy’n glywed.  Rydym ni’n cydweithio’n galed iawn hefo clybiau cymunedol i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn lle bynnag yn cael be mae nhw angen.  Os ydych chi eisiau ffigurau penodol am faint o bres yn union sydd wedi’i wario o’r pot yna, gallwn ffendio allan i chi, dim problem.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Mae polisi Canu Gloch y Cyngor yma i ddiogelu staff a defnyddwyr y Cyngor.   Roedd hwn yn rhywbeth rwyf i yn bersonol wedi bod yn gwthio’r Cyngor hwn ers 2008 i weithredu arno, ac yn bwysicach, i ddiogelu unigolion sy’n penderfynu dilyn y trywydd hwn.  A all yr Aelod Cabinet ddweud wrthyf faint o unigolion yn y Cyngor yma sydd wedi defnyddio’r system ‘Canu’r Gloch’ i adrodd am reolwyr sydd wedi torri rheolau’r Cyngor yma ers 2015?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Mae’r polisi ar Ganu’r Gloch yn y Cyngor wedi’i sefydlu er mwyn annog gweithwyr sy’n bryderus ynghylch camymarfer i deimlo’n ddigon hyderus i ddod ymlaen a rhannu eu pryderon.  Mae’r polisi yn datgan y dylai gweithwyr ddefnyddio’r polisi hwn os ydynt yn rhesymol amau bod yna gamymarfer neu drosedd wedi cymryd lle, ar fin digwydd neu efallai am ddigwydd.  Cydnabyddir bod yr Aelod wedi bod yn arddel codi ymwybyddiaeth ymysg y gweithlu ynglŷn â bodolaeth a chynnwys y Polisi hwn dros y blynyddoedd.  Un o'r ffyrdd o godi ymwybyddiaeth oedd i ddosbarthu cerdyn cyswllt i bob aelod o staff yn ogystal â chynnwys y cerdyn yn y pecyn penodi pan fo aelod o staff newydd yn cychwyn hefo’r Cyngor.

 

Ers 2015, mae’r polisi ‘Canu’r Gloch’ wedi’i ddefnyddio gan aelodau staff ar dri achlysur gydag un achos o adrodd ar reolwr ac un arall o adrodd ar reolwr a chydweithwyr.

 

Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, bod aelodau staff eraill wedi dewis peidio dilyn Polisi Canu’r Gloch ac wedi ceisio datrysiad i sefyllfaoedd trwy’r Drefn Gwyno a’r Drefn Ddisgyblu.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Pa bryd mae Cyngor Gwynedd am fod yn gwarchod unigolion sy’n chwythu y chwiban go iawn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Mae’r polisi Canu’r Gloch yn ofnadwy o bwysig i mi, ac yn bwysicach na’r polisi hyd yn oed, ydi bod staff yn gallu ymddiried ynddo.  Os nad ydi’r staff yn ffyddiog bod y polisi yn mynd i gael ei weithredu’n iawn, does dim gwerth iddo, ac mae hwn yn bwynt rwy’n gymryd yn ofnadwy o ddifri’.  Mae yna dipyn o dystiolaeth ar hyn sy’n rhoi hyder i mi bod y polisi yn gweithio yng Ngwynedd.  E.e. mae’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi cynnal dau ymarferiad dros y 4 blynedd ddiwethaf i asesu lefel ymwybyddiaeth a hyder staff yn yr union bolisi yma.  Felly roedd 81% o’r staff wnaeth ateb yr holiadur yn 2014/15 yn dweud eu bod yn gwybod am y polisi ac erbyn 2017/18, ‘roedd 87% yn dweud hynny.  Mae staff yn dweud eu bod wedi dysgu am y polisi drwy gyfuniad o ganolfan bolisi ar lein, sesiynau anwytho, trwy eu rheolwyr, gan gydweithwyr, o adnoddau dynol, y cerdyn cyswllt, trwy’r undebau a hefyd mae yna bosteri o gwmpas y Cyngor.  Fel rhan o’r ymarferiad gofynnwyd i staff roi sgôr 1-5 yn eu hyder hwy yng ngweithrediad y polisi.  Y sgôr cyfartalog oedd 3.1 yn 2014/15 ac roedd hyn wedi cynyddu i 3.4 erbyn 2017/18.  Wedi dweud hyn, ‘rwy’n dallt yn iawn bod cymryd y cam o ganu’r gloch ar eich rheolwr neu eich cydweithwyr yn un ofnadwy o anodd ac yn un sy’n rhoi straen mawr ar unrhyw berson, yn enwedig os ydych chi’n amau eu bod wedi gwneud gweithred anghyfreithlon neu dywyllodrys neu lygredig.  Felly mae angen i bob un o aelodau’r Cyngor a’r uwch swyddogion chwarae eu rhan yn rhoi hyder i staff fel bod materion fel hyn sy’n dod i’r fei yn cael eu delio hefo nhw.  Rydw i’n gwybod y bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnal ymarferiad tebyg eto yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf a bydd canlyniadau’r gwaith hwnnw o ddiddordeb mawr i mi.  Mae’n rhywbeth y byddaf yn ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd herio perfformiad a bydd hefyd yn rhoi arweiniad sut y gallwn godi mwy o ymwybyddiaeth a chynyddu hyder ymhellach fyth.  Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r Cynghorydd am godi’r mater ac am roi cyfle i mi siarad am y polisi hynod o bwysig yma ac efallai bod o wedi helpu i godi ychydig o ymwybyddiaeth am y pwnc yn y Cyngor llawn.  Mae gen i bentwr o’r cardiau bach Canu’r Gloch ac mi wnaf yn siŵr eu bod yn cael eu rhoi ym mlychau post pob cynghorydd hefyd.”