Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-
·
Adroddiad yn argymell
cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2019/20;
·
Penderfyniad drafft y
Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd
o 5.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul
cymuned.
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y disgwylid cyhoeddiad gan
Lywodraeth Cymru y diwrnod hwnnw ynglŷn ag ariannu’r cynnydd o £1.6m mewn
cyfraniadau cyflogwr i’r cynllun pensiwn athrawon. Eglurodd y Pennaeth Cyllid yr argoelid y
byddai’r Cyngor yn derbyn swm grant agos at ariannu’r gofyn yn llawn, fel roedd
Llywodraeth Lloegr wedi’i addo i ysgolion yno.
Ni dderbyniwyd cadarnhad o’r union swm yng Nghymru hyd yma, ond cafwyd
arweiniad y byddai rhwng 80% a 100% o’r cyfanswm.
Yn ystod y
drafodaeth, nododd rhai aelodau na allent gefnogi’r
argymhelliad i godi’r dreth 5.8%, oherwydd effaith hynny ar drigolion sir dlawd
fel Gwynedd. Bu i nifer o aelodau eraill
ddatgan, er yn gwbl anhapus ynglŷn â’r sefyllfa, nad oeddent o’r farn bod
gan y Cyngor ddewis ond derbyn y gyllideb yn y sefyllfa sydd ohoni.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Mynegwyd pryder
ynglŷn ag effaith y cynnydd treth ar y bobl hynny sydd ar gyflogau bach,
ond fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Gostyngiad Treth Cyngor, a chynigiwyd y
dylai grŵp o aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol ar y Cyngor fynd i lawr
i Gaerdydd i gefnogi’r Arweinydd yn ei ymgyrch i lobïo’r Llywodraeth am ragor o
arian.
·
Mewn ymateb i
ymholiad ynglŷn ag ariannu tair rhagdybiaeth yn yr adroddiad, eglurodd yr
Aelod Cabinet Cyllid:-
Ø Ei fod yn ffyddiog y byddai’r bwlch rhwng yr arian grant a ddisgwylir gan
y Llywodraeth a chyfraniad y cyflogwr at bensiwn athrawon yn gyraeddadwy, ac os
ddim, yna byddai trafodaethau pellach gyda’r ysgolion.
Ø Bod y £2.7m o dreth ychwanegol o’r premiwm ar ail gartrefi a thai
gweigion wedi’i glustnodi mewn cronfa tuag at y Strategaeth Tai, a bod y
gyllideb gerbron yn hafal heb arall-gyfeirio’r cynnyrch premiwm.
Ø O ran ariannu unrhyw chwyddiant o ganlyniad i Brexit, bod y Cyngor ar dir
cadarn gan ei fod yn adeiladu hyblygrwydd i mewn i’w gyllideb, a phetai’r gofyn
yn mynd y tu hwnt i hynny, gellid ystyried defnyddio elfen o’r balansau.
·
Nodwyd na ddymunid
rhoi pwysau ychwanegol ar drigolion y sir, sy’n wynebu heriau dyddiol, ond bod
y Cyngor yn wynebu ei heriau cynyddol ei hun hefyd, a hynny o ganlyniad i
bolisïau anwaraidd Llywodraethau Cymru a San Steffan.
·
Gyda’r
llywodraethau’n gadael pobl i lawr gyda grant annigonol i gwrdd â chwyddiant,
heb sôn am gynnydd mewn galw am wasanaethau awdurdodau lleol, bod gwarchod
gwasanaethau, yn enwedig Addysg a Gofal Cymdeithasol, yn bwysicach nag erioed.
·
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd sicrhau bod cefnogaeth ar gael i unigolion sy’n gwneud cais am
gymorth. Mewn ymateb, nododd yr Aelod
Cabinet Cyllid y gallai sicrhau bod swyddogion Cyllid yn barod iawn i helpu
unrhyw un sy’n cael problem talu’r dreth.
·
Mynegwyd siomedigaeth
bod cymaint o’r gwasanaethau yn ddibynnol ar y sector wirfoddol erbyn hyn, a
chredid mai’r unig ateb i hyn oedd uno’r cynghorau. Mewn ymateb, sicrhaodd yr Aelod Cabinet
Cyllid fod siom sylweddol wedi’i fynegi trafodaethau gyda Gweinidogion y
Llywodraeth ynglŷn â’r ffordd y cyhoeddwyd y setliad. Cyfeiriodd hefyd at waith oedd yn mynd
rhagddo ar draws Cymru i ddangos effaith y toriadau ar lawr gwlad a gobeithid
dwyn rhywfaint mwy o ddylanwad ar y Gweinidog Cyllid newydd.
·
Cyfeiriwyd at yr
arfer cynyddol o drosi tai haf yn fusnesau i osgoi talu treth cyngor a nodwyd
camau oedd eisoes ar droed i lobïo’r Llywodraeth i roi terfyn ar yr annhegwch
yma.
·
Mewn ymateb i sylw
bod y Cyngor hwn wedi benthyg £91m o arian trethdalwyr i gynghorau eraill,
eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y swm hwnnw gyhoeddwyd yn y wasg yn gyfanswm
nifer o fenthyciadau llai dros 3 blynedd.
Nid oedd mwy na £12m wedi’i fenthyg i gynghorau eraill ar unrhyw adeg a
dim mwy na £3m i unrhyw gyngor unigol. Esboniodd
fod y cynghorau yn talu llog uwch na’r banciau a bod yr arian adneuwyd yno
hefyd yn fwy diogel na’r banciau a chafwyd asesiadau credyd ar eu cyfer.
·
Awgrymwyd y dylai’r
Cyngor ddefnyddio ei arian wrth gefn i roi benthyciad i bobl ifanc y sir i’w
galluogi i brynu eu tai eu hunain. Mewn
ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid y byddai’r Strategaeth Tai arfaethedig yn
cynnwys amrywiol gynlluniau i helpu pobl ifanc.
·
Awgrymwyd y dylid
addasu rhywfaint ar y cynllun parcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor dros
gyfnod y Nadolig er atal gweithwyr rhag parcio yno drwy’r dydd. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y
Cabinet wedi gofyn i’r Adran Amgylchedd edrych i mewn i’r drefn parcio’n
di-dâl, gan arddangos ychydig o hyblygrwydd a dychymyg.
·
Awgrymwyd bod y Cyngor
wedi casglu 97.3% o’r dreth gyngor ac felly bod £4.189m heb ei gasglu, a bod
Gwynedd y 5ed isaf ymhlith cynghorau Cymru am gasglu’r arian. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y
97.3% yn cyfeirio at y swm a gasglwyd o fewn y flwyddyn ariannol honno’n
unig. Ar gyfer unrhyw flwyddyn, roedd
tua 99.5% yn cael ei gasglu yn y pen draw, ar ôl casglu’n sensitif a rhoi
cyfnod estynedig i rai o drigolion anghenus Gwynedd, ond mai’r ganran o fewn y
flwyddyn sy’n cael ei gymharu mewn ystadegau cenedlaethol.
·
Nodwyd, er bod ambell
gyngor wedi cynyddu’r dreth yn fwy na Gwynedd, bod eu gwaelodlin hwy ar Band D
yn is na’r Cyngor hwn ac mai Gwynedd oedd y 6ed drutaf yng Nghymru am drethi ar
Band D. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Cyllid fod 60% o dai Gwynedd yn Band C ac is.
Eglurodd fod lefel treth Gwynedd yn uwch oherwydd y ffordd y dyrannwyd
arian grant hanesyddol ar adeg ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 ac roedd y
cynnydd treth y pleidleisiwyd arno yn y blynyddoedd ers hynny yn is na’r
cyfartaledd Cymreig.
·
Gofynnwyd i
gynrychiolwyr y Cyngor ar yr Awdurdod Tân a’r Awdurdod Heddlu herio’r cynnydd
ym mhraesept ac ardollau’r awdurdodau hynny.
·
Nodwyd bod y cynnydd
ar gyfartaledd o 6.5% ym mhraeseptau’r Cynghorau Cymuned yn ddealladwy, gan
iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, megis clybiau ieuenctid, toiledau
cyhoeddus, torri gwair a chodi sbwriel ar ochr y ffyrdd.
·
Nodwyd ei bod yn
bwysig pwysleisio nad dyma’r gyllideb y byddai’r Cyngor wedi dymuno ei chael ar
gyfer trigolion Gwynedd, a bod y Cyngor yn cydnabod y goblygiadau a’r
rhwystredigaeth mae hyn oll yn olygu i drigolion Gwynedd.
·
Nodwyd bod y Cyngor
yn gaeth i benderfyniadau sy’n digwydd ymhell o Wynedd, ac wrth i bawb ddiflasu
ar weld cylch ar ôl cylch o doriadau a chyfyngiadau, roedd yn bwysig atgoffa
pobl bod dwylo’r Cyngor wedi eu clymu a bod y llymder ariannol yma wedi ei
draddodi o Lundain i Gaerdydd, ac o Gaerdydd i ni yma yng Ngwynedd.
·
Nodwyd, yn ystod y 9
mlynedd ddiwethaf, bod gwerth y grantiau i’r 22 cyngor yng Nghymru wedi gostwng
dros £1b, sef gostyngiad o dros 20% mewn termau real. Yng nghanol hyn oll, gwerthfawrogid bod y
Cyngor yn parhau i ddiogelu gwasanaethau pwysig ac yn cadw’r cynnydd yn y dreth
mor isel â phosib’.
·
Nodwyd bod angen
herio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan iddynt hwythau fod yn aneffeithiol
yn eu hymdrechion i lobïo’r Llywodraeth yn y mater hwn.
·
Cyfeiriwyd at y
cynlluniau arbedion oedd yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, ond y penderfynodd
y Cabinet beidio eu gweithredu (Atodiad 3 i’r adroddiad). Nodwyd bod hyn yn newyddion cadarnhaol dros
ben a byddai’r codiad treth o 5.8% yn parhau i ariannu rhai gwasanaethau
gwerthfawr.
·
Nodwyd bod yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyfeirio at
gynnydd treth o 5.5%, yn hytrach na 5.8%.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Cyllid mai dyna’r ffigur a gyflwynwyd i’r
pwyllgor, ond y cynhaliwyd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu cyn i’r Cabinet
argymell yr union dreth. Ychwanegodd fod
y newid o 5.5% i 5.8% er mwyn cyfarch y materion fu’n rhan o’r ymgynghoriad
cyhoeddus, ond y penderfynodd y Cabinet beidio eu gweithredu.
·
Nodwyd bod y Cyngor
mewn sefyllfa amhosib’. Er bod pobl o
fewn y sir yn dibynnu ar fanciau bwyd, roedd y Cyngor yn cynyddu’r dreth tua
£70 y tŷ. Mewn ymateb, nododd yr
Aelod Cabinet Cyllid fod dyletswydd ar yr holl aelodau i ysgrifennu at eu
haelodau Seneddol a Chynulliad i ddwyn pwysau am well setliad i’r Cyngor.
·
Mynegwyd siomedigaeth
bod cynifer o gwestiynau wedi codi yng nghyfarfod y Cyngor, er i bawb gael
cyfle i godi’r cwestiynau hyn yn y gyfres o weithdai aelodau ar y gyllideb.
·
Holwyd ai bwriad y
Llywodraeth oedd tynnu’r gwaed allan o’r cynghorau sir er mwyn cael gwared
ohonynt, ac annogwyd yr Arweinydd i godi’r cwestiwn yma ar ran y cynghorwyr
gyda Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd
gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb
o £248,013,890 ar gyfer 2019/20, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o
£176,551,790 a £71,462,100 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.8%.
(b) Ychwanegu
£18,316,130 at y rhaglen gyfalaf i’w wario yn 2019/20 er mwyn sefydlu rhaglen
gyfalaf gwerth £34,991,250 erbyn 2019/20 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn
Atodiad 4 i’r adroddiad
2. Nodi
fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 19
Tachwedd 2018, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn
2019/20 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 51,926.38 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen
drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y
Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y
flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned
–
Aberdaron |
553.03 |
|
Llanddeiniolen |
1,836.69 |
Aberdyfi |
977.73 |
Llandderfel |
497.72 |
|
Abergwyngregyn |
118.92 |
Llanegryn |
159.72 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,154.94 |
Llanelltyd |
288.42 |
|
Arthog |
617.35 |
Llanengan |
2,119.89 |
|
Y Bala |
774.71 |
Llanfair |
309.59 |
|
Bangor |
3,885.63 |
Llanfihangel y
Pennant |
216.38 |
|
Beddgelert |
316.54 |
Llanfrothen |
221.28 |
|
Betws Garmon |
138.73 |
Llangelynnin |
409.42 |
|
Bethesda |
1,674.96 |
Llangywer |
137.30 |
|
Bontnewydd |
432.27 |
Llanllechid |
340.89 |
|
Botwnnog |
447.42 |
Llanllyfni |
1,411.04 |
|
Brithdir a
Llanfachreth |
424.51 |
Llannor |
901.93 |
|
Bryncrug |
341.95 |
Llanrug |
1,135.80 |
|
Buan |
228.88 |
Llanuwchllyn |
312.51 |
|
Caernarfon |
3,543.60 |
Llanwnda |
783.86 |
|
Clynnog Fawr |
447.08 |
Llanycil |
200.54 |
|
Corris |
303.66 |
Llanystumdwy |
866.24 |
|
Criccieth |
944.01 |
Maentwrog |
280.90 |
|
Dolbenmaen |
606.10 |
Mawddwy |
350.59 |
|
Dolgellau |
1,228.41 |
Nefyn |
1,474.65 |
|
Dyffryn Ardudwy |
812.10 |
Pennal |
220.86 |
|
Y Felinheli |
1,157.21 |
Penrhyndeudraeth |
772.99 |
|
Ffestiniog |
1,745.06 |
Pentir |
1,188.82 |
|
Y Ganllwyd |
86.50 |
Pistyll |
252.01 |
|
Harlech |
791.40 |
Porthmadog |
2,014.59 |
|
Llanaelhaearn |
443.57 |
Pwllheli |
1,753.45 |
|
Llanbedr |
322.90 |
Talsarnau |
321.85 |
|
Llanbedrog |
713.19 |
Trawsfynydd |
507.98 |
|
Llanberis |
759.06 |
Tudweiliog |
461.40 |
|
Llandwrog |
1,029.14 |
Tywyn |
1,605.03 |
|
Llandygai |
990.62 |
|
Waunfawr |
560.86 |
sef
y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar
gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu
fwy’n berthnasol.
3. Bod
y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn
2019/20 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a)
£380,182,830 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf
(gwariant gros). |
(b)
£130,295,020 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf
(incwm). |
(c)
£249,887,810 |
Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm
3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran
32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
(ch)
£176,081,773 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn
amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer
cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai
amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a
ganiateir. |
(d)
£1,421.36 |
Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod,
y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y
Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor
am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd)
£2,343,940 |
Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir
atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned). |
(e)
£1,376.22 |
Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir
wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y
Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm
sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau
hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar
gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig). |
(f) Ar
gyfer rhannau o ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,403.34 |
|
Llanddeiniolen |
1,393.53 |
Aberdyfi |
1,412.87 |
Llandderfel |
1,394.30 |
|
Abergwyngregyn |
1,401.45 |
Llanegryn |
1,407.52 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,425.83 |
Llanelltyd |
1,402.22 |
|
Arthog |
1,395.66 |
Llanengan |
1,399.81 |
|
Y Bala |
1,407.20 |
Llanfair |
1,418.21 |
|
Bangor |
1,475.36 |
Llanfihangel y
Pennant |
1,427.42 |
|
Beddgelert |
1,406.23 |
Llanfrothen |
1,409.21 |
|
Betws Garmon |
1,394.96 |
Llangelynnin |
1,400.16 |
|
Bethesda |
1,431.42 |
Llangywer |
1,405.35 |
|
Bontnewydd |
1,419.02 |
Llanllechid |
1,399.69 |
|
Botwnnog |
1,388.51 |
Llanllyfni |
1,410.82 |
|
Brithdir a
Llanfachreth |
1,390.35 |
Llannor |
1,396.35 |
|
Bryncrug |
1,412.37 |
Llanrug |
1,420.24 |
|
Buan |
1,392.60 |
Llanuwchllyn |
1,408.22 |
|
Caernarfon |
1,432.23 |
Llanwnda |
1,411.94 |
|
Clynnog Fawr |
1,409.77 |
Llanycil |
1,396.17 |
|
Corris |
1,403.96 |
Llanystumdwy |
1,393.54 |
|
Criccieth |
1,420.71 |
Maentwrog |
1,397.76 |
|
Dolbenmaen |
1,405.92 |
Mawddwy |
1,401.38 |
|
Dolgellau |
1,425.06 |
Nefyn |
1,420.30 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,419.32 |
Pennal |
1,403.39 |
|
Y Felinheli |
1,410.79 |
Penrhyndeudraeth |
1,425.64 |
|
Ffestiniog |
1,499.42 |
Pentir |
1,418.28 |
|
Y Ganllwyd |
1,410.90 |
Pistyll |
1,415.90 |
|
Harlech |
1,464.67 |
Porthmadog |
1,406.38 |
|
Llanaelhaearn |
1,432.58 |
Pwllheli |
1,417.85 |
|
Llanbedr |
1,420.17 |
Talsarnau |
1,438.36 |
|
Llanbedrog |
1,402.86 |
Trawsfynydd |
1,411.65 |
|
Llanberis |
1,413.11 |
Tudweiliog |
1,391.39 |
|
Llandwrog |
1,429.66 |
Tywyn |
1,431.13 |
|
Llandygai |
1,397.83 |
|
Waunfawr |
1,397.62 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r
eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o
ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u
rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol
ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn
ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu
fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a
nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r
rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i
dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl
y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan
y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar
gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol
fandiau prisio.
4.
Nodi ar gyfer y
flwyddyn 2019/20 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r
symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r
Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
185.40 |
216.30 |
247.20 |
278.10 |
339.90 |
401.70 |
463.50 |
556.20 |
648.90 |
5.
Wedi pennu’r
cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag
Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer
y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2019/20 ar gyfer pob categori o dai annedd a
ddangosir yn yr Atodiad.
Dogfennau ategol: