Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2018-23
(Adolygiad 2019/20).
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Croesawyd y cynllun a
nodwyd ei fod yn dangos bod y Cyngor yn ceisio cyflawni i bobl Gwynedd, a hynny
mewn cyfnod o gynni ariannol.
·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gosod cyfeiriad newydd i’r maes trechu tlodi, eglurodd
yr Arweinydd y bwriedid creu Bwrdd Llesiant Pobl, yn cynnwys cynrychiolaeth o’r
gwasanaethau plant, ieuenctid, ayb, i edrych ar y maes tlodi a chefnogaeth
teuluoedd ar draws holl waith y Cyngor.
Gobeithid y byddai hynny’n rhoi cyfeiriad a phwyslais newydd i’r Cyngor
yn y maes pwysig yma, yn arbennig mewn ardal sy’n dioddef o dlodi nad sy’n cael
ei gydnabod yn genedlaethol.
·
Nodwyd bod tua 38% o
arian y Cyngor yn cael ei wario y tu allan i’r sir, a holwyd pa waith sydd ar
droed i geisio uchafu’r ganran sy’n cael ei wario’n lleol. Mewn ymateb, nododd
yr Arweinydd fod hyn yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor ac y credai bod
Gwynedd ar flaen y gad o safbwynt caffael yn lleol.
·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gweledigaeth yr Arweinydd ar gyfer addysg ôl-16,
manylwyd ar y cydweithio rhwng y Cyngor hwn, Cyngor Ynys Môn a Grŵp
Llandrillo Menai gyda’r nod o ddod â gwahanol opsiynau gerbron maes o law.
·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sut y gellir denu mwy o ferched i ddod ar y Cyngor,
nododd yr Arweinydd ei fod yn llwyr ymwybodol o’r broblem, a hefyd y broblem o
ddenu pobl ifanc, pobl mewn swyddi, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl o
gefndiroedd eraill ar y Cyngor. Roedd
wedi lleisio ei farn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, oedd
hefyd yn ymwybodol iawn o’r broblem.
Ychwanegodd fod llwyth gwaith cynghorwyr, yn enwedig Aelodau Cabinet a
chadeiryddion craffu, wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd, fel ei fod
fwy neu lai yn waith llawn amser erbyn hyn, ac roedd yn anodd iawn i aelodau
gynnal gyrfa a chyflawni swydd cynghorydd ar yr un pryd. Credai fod yr ateb yn ymwneud yn rhannol â
thelerau’r swydd, ond ni ragwelai unrhyw newid mawr yn y cyfeiriad, heb uno’r
cynghorau a lleihau niferoedd cynghorwyr yn sylweddol. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig bod aelodau â
chyfrifoldebau gofalu yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, er mwyn
cryfhau’r gynrychiolaeth ddemocrataidd.
Nododd hefyd y byddai yna ymgyrch ar adeg pob etholiad i geisio denu
pobl o bob cefndir i sefyll etholiad.
·
Mewn ymateb i
gwestiwn, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r cynllun
prentisiaethau a bod yna gyfleoedd da iawn ymhob gwasanaeth. Er bod y Cyngor wedi colli £70m (25%) o’i
gyllideb dros y 10 mlynedd ddiwethaf, roedd yna enghreifftiau gwych o bobl
ifanc yn cychwyn gyrfa gyda’r Cyngor fel prentisiaid ac yn symud ymlaen i
swyddi o safon uchel.
·
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â siopau gweigion a busnesau’n cau yn y trefi, nododd yr Arweinydd
ei fod yn ymwybodol iawn o’r pwysau ar yr economi wledig a’r pwysau fydd yn ein
wynebu yn y dyfodol agos os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pwysleisiodd fod yr economi yn flaenoriaeth
uchel iddo ef yn bersonol a’i fod yn cyd-weithio gydag arweinwyr siroedd eraill
y Gogledd ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Roedd hefyd yn gyd-gadeirydd Fforwm Wledig
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n pwyso ar Lywodraeth Cymru i gymryd sylw
o broblemau neilltuol ardaloedd gwledig wrth ddatblygu’r economi. Cadarnhaodd y byddai’n brwydro’n galed i gael
gwaith o safon uchel i bobl yng nghefn gwlad Gwynedd.
·
Croesawyd yr ariannu
ym Mangor gan edrych ymlaen at gael canolfan ranbarthol wych yn y ddinas.
·
Nodwyd nad oedd
cyfeiriad yn y cynllun at boblogaeth Gwynedd sydd ag awtistiaeth a holwyd pa
ddarpariaeth sydd gan y Cyngor ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd y dylai hyn
fod yn rhan o waith dydd i ddydd y Cyngor, ond petai yna brosiectau o ran y
maes awtistiaeth y dylid eu huchafu, gellid edrych ar hynny ar gyfer yr
adolygiad nesaf o’r cynllun.
·
Holwyd beth oedd
diben y cynllun, os nad oedd yr arian ar gael i wireddu’r amcanion. Er enghraifft, o dan Strategaeth Cartrefi
Pobl Gwynedd, oni fyddai’n fwy realistig dweud bod y Cyngor yn ‘dymuno’, neu’n ‘chwilio am ffyrdd’ o ganfod cartrefi addas i bobl Gwynedd, yn
hytrach na dweud ei fod am ‘sicrhau’
hynny. Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd
fod yr adroddiad yn adnabod y maes tai fel un sydd angen sylw. Bwriedid cyflwyno’r Strategaeth Dai i’r
Cabinet yn fuan ac roedd y Cyngor mewn trafodaethau gyda’r cymdeithasau tai
ynglŷn â sut orau i gyfarch yr angen sy’n bodoli. Ychwanegodd, er gwaethaf y cyfyngiadau, ei
bod yn bwysig rhoi blaenoriaeth i’r materion hyn gan ddefnyddio hynny o arian
sydd ar gael i’w lawn botensial i gyflawni peth o’r angen.
PENDERFYNWYD mabwysiadu
Cynllun y Cyngor 2019-23 (Adolygiad 2019/20).
Dogfennau ategol: