Cyflwynir yr adroddiad sicrwydd er mwyn i’r aelodau drafod
ei gynnwys ac ystyried unrhyw bwyntiau sydd yn codi allai fod yn berthnasol i
Gyngor Gwynedd ac allai arwain at gamau gweithredu er mwyn gwella
cydymffurfiaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd cyfrifiad
arall yn cael ei gynnal mewn dwy flynedd. Nodwyd fod yr adroddiad wedi ei
gyflwyno yn y cyfarfod blaenorol ond fod angen crynodeb a thrafod y nodweddion
perthnasol i Wynedd. Mynegwyd yn flynyddol fod Comisiynydd y Gymraeg yn
cyhoeddi adroddiad sydd yn destun ymchwil gan ei swyddogion am lwyddiannau
sefydliadau i weithredu a chydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg. Ychwanegwyd eu
bod yn cyhoeddi’r adroddiadau er mwyn cynnig barn annibynnol er mwyn rhoi
gwybod i siaradwyr Cymraeg, i dynnu sylw sefydliadau at arferion llwyddiannus
ac i ddarparu tystiolaeth i wleidyddion. Mynegwyd mai adroddiad am 2017/18 yw’r
adroddiad hwn, gan nodi fod gwaith datblygu wedi ei wneud bellach.
Esboniwyd fod yr adroddiad yn amlygu tair prif her
i sefydliadau fel y nodir isod
-
Datblygu eu darpariaeth er mwyn sicrhau gof
gwasanaethau Cymraeg ar gael ac o ansawdd, ac nad ydynt yn trin y Gymraeg yn
llai ffafriol na’r Saesneg
-
Gwella dealltwriaeth o’r rhesyma dros
benderfyniadau defnyddwyr, a chymred camau cadarnhaol i hybu a hwyluso
defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg
-
Rhoi ystyriaeth fanwl a strategol ar sut i
gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mynegodd y Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg, fod yr
adroddiad yn codi sawl pwynt diddordeb, ond ei bod am ganolbwyntio ar 3
argymhelliad i sefydliadau.
Argymhelliad 1 - Nodwyd er bod profiadau defnyddwyr
yn dal i wella, mae angen cysondeb er mwyn rhoi ffydd i bobl fod gwasanaethau
ar gael yn y Gymraeg, ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r
Saesneg. Mynegwyd mai Technoleg yw’r mater dan sylw a bod llawer o
ddatblygiadau wedi bod yn dilyn arolwg
gael ei gynnal o’r gwasanaeth hunanwasanaeth. Ond ategwyd, er bod hyn yn
gadarnhaol fod angen fod yn wyliadwrus o appiau newydd i sicrhau fod y ddwy
iaith yn gweithio. Ychwanegwyd fod angen edrych i mewn i greu appiau ein hunain
yn hytrach na cheisio addasu rhai sydd ar gael yn Saesneg yn barod.
Argymhelliad 2 - Nodwyd mai’r argymhelliad oedd i
sefydliadau annog defnyddio gwasanaethau Cymraeg, a'u gwneud yn hawdd i’w
defnyddio a deall profiadau go iawn ddefnyddwyr. Mynegwyd fod yr argymhelliad
yma wedi ei thrafod mwy nad unwaith, a
bod y dystiolaeth a gyflwynwyd ddim yn codi dim pryderon newydd. Nodwyd fod
angen meddwl am ffordd o ddelio gyda’r rhwystrau. Ychwanegwyd fod rhai adrannau
o fewn y Cyngor wedi bod yn ceisio gwneud mwy o ddefnydd o Gymraeg clir ac i
leihau’r defnydd o eiriau mwy technegol.
Trafodwyd ffurflenni gan nodi fod ymchwiliad ym
Mangor wedi dangos mai dim ond hanner y cyfranogwyr oedd yn dewis llenwi
ffurflenni drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd ei fod yn codi’r cwestiwn os oes
angen creu ffurflenni dwyieithog, ac i ystyried camau syml i newid hyn. Nodwyd
fod yr adroddiad cenedlaethol yn nodi y
byddai pobl yn ‘debygol iawn o wneud cais swydd yn Gymraeg os yw’r Gymraeg yn
hanfodol’ i’r swydd. Serch hyn, nodwyd fod nifer uchel o geisiadau swyddi yng
Ngwynedd yn cael ei gyflwyno drwy’r Saesneg. Ychwanegwyd fod hyn er bod lefel o
Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob swydd.
Wrth edrych ar y defnydd o’r Gymraeg mewn
cyfarfodydd Cyhoeddus nodwyd fod y safonau yn nodi fod modd cyfrannu drwy
gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd fod polisi'r Cyngor yn nodi fod Cyfarfodydd i gyd yn
cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mynegwyd fod angen amlygu hyn i’r
Comisiynydd Iaith.
Argymhelliad 3 - nodwyd mai’r argymhelliad oedd yr
angen i sefydliadau roi ystyriaeth strategol a manwl i gynyddu’r defnydd o’r
Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi, ac o ran iaith gweithredu mewnol.
Nodwyd fod angen asesu'r drefn sydd gan y Cyngor o asesu effaith, gan fod y
safonau yn gofyn i sefydliadau ystyried sur y gellir gweithredu penderfyniad
mewn ffordd sy’n arwain at effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg. Mynegwyd wrth
edrych ar waith sydd yn cael ei wneud drwy grantiau a chontractau, cydnabuwyd
fod gwaith i’w wneud yn y maes hwn. Ychwanegwyd ei fod yn flaenoriaeth.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
-
Mynegwyd fod yr adroddiad yn dangos brwdfrydedd yn
y maes, ond fod dros 60% o ymatebwyr sydd yn rhan o’r data yn peidio
defnyddio’r iaith o ganlyniad i resymau sy’n ymwneud a hyder. Mynegwyd fod
angen mynd i’r afael a chodi hyder. Holwyd yn ychwanegol at faint y sampl a
phobl a ddefnyddiwyd gan drafod pa mor wyddonol gywir yw’r sampl.
-
Trafodwyd dechrau sgyrsiau yn Gymraeg, gan holi os
yw hyn yn digwydd ym mhob lleoliad o fewn y Cyngor gan gynnwys Canolfannau
Hamdden. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud a'i fod yn ddisgwyliad ar bob aelod o
staff i gychwyn sgwrs drwy’r Gymraeg. Nodwyd efallai fod angen gwneud
ymarferion i weld os hyn digwydd ym mhob lleoliad. Ychwanegwyd fod defnydd o’r
iaith Gymraeg yn llafar i’w weld ar bob swydd ddisgrifiad.
-
Trafodwyd ceisiadau swyddi gan nodi ei bod yn
syniad efallai fod adran i ddangos eu sgiliau ysgrifenedig Cymraeg yn rhan o
Ffurflen Gais y Cyngor.
-
Mynegwyd wrth edrych ar ffurflenni, fod angen
casglu gwybodaeth er mwyn ystyried creu ffurflenni dwyieithog. Ychwanegwyd fod
angen sicrhau yn gyntaf dealltwriaeth o sut i ddefnyddio, deall a datblygu
data. Mynegwyd angen am roi rhaglen at ei gilydd ar sut i gasglu gwybodaeth.
-
Nodwyd wrth drafod gofyn y Safonau am i Gyngor
Gwynedd ‘ystyried sut y gellir gweithredu penderfyniad mewn ffordd sy’n arwain
at effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg’ y dylai’r Cyngor gof yn llawer gwell am
wneud hyn. Mynegwyd fod y Cyngor yn gwneud asesiadau effaith sydd yn adnabod y
risgiau ieithyddol ond efallai fod pobl yn cymryd y maes yma yn ganiataol. Mynegwyd
efallai fod trigolion Gwynedd yn rhoi ymddiriedaeth yn yr aelodau i sicrhau fod
y Gymraeg yn cael blaenoriaeth. Nodwyd yr angen i’r Cyngor fod yn gwneud camau
ychwanegol i sicrhau fod y Gymraeg yn flaenoriaeth ac i fod yn fwy
rhagweithiol.
-
Mynegwyd fod cynnydd yn y nifer o swyddi ble mae’r
angen am siaradwyr Cymraeg - a holwyd pa waith mae’r adran yn ei wneud i roi'r
neges yma i ddisgyblion o fewn ysgolion. Nodwyd fod HunanIaith yn gwneud gwaith
cyson a phobl ifanc, ond nodwyd ei fod yn faes ble maent yn edrych ar sut mae
gwybodaeth yn cael ei rannu ac mae angen trafodaeth bellach ar y maes.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: