I ystyried cynnwys yr adroddiad cynnydd a chynnig sylwadau
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y
Pennaeth Adran Addysg yn mynd drwy saith deilliant sydd yn rhan o’r Cynllun
Strategol er mwyn cael trafodaeth ar y meysydd.
Deilliant 1 - Mwy o blant 7 oed yn cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mynegodd y Pennaeth Addysg fod y targed o
99.1% yn darged cwbl uchelgeisiol ac y gwir ganran yw 97.9%. Nodwyd mai hwyr
ddyfodiad gan blant heb ddim Cymraeg yw un o’r rhesymau dros beidio cyrraedd y
targed. Ychwanegwyd fod un ysgol o fewn dalgylch Bangor o ganlyniad i fod yn
ysgol grefyddol a mwy o annibyniaeth ieithyddol. Mynegwyd yn dilyn penodiadau
newydd i’r ysgol fod newidiadau wedi bod i agwedd yr ysgol at yr iaith.
Deilliant 2 - Mwy o ddisgyblion yn parhau i
wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Uwchradd.
Nodwyd fod y canran yn is ac yn 83.4% o’i gymharu â’r taged o 84.7%. Mynegwyd
fod hyn o ganlyniad i un ysgol uwchradd ym Mangor. Mynegwyd fod gwaith yn cael
ei wneud gyda’r ysgol a bod gwelliant sylweddol wedi digwydd gyda chynnydd yn y
nifer sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.
Deilliant 3 a 4 - Mwy o fyfyrwyr 14-16 yn
astudio at gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg a Mwy o fyfyrwyr 14-19 oed
yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgolion, Colegau a Dysgu
Seiliedig ar Waith. Nodwyd fod data calonogol ar gyfer llwybr 14-19oed. Nodwyd
ei bod yn anodd mesur faint yn union sydd yn gwneud eu harholiadau drwy gyfrwng
y Gymraeg. Nodwyd yn 2016-17 fod 79% wedi cofrestru i wneud TGAU Cymraeg iaith
Gyntaf. Nodwyd fod yr adran yn parhau i weithio gyda'r ysgolion i sicrhau
cyrsiau amodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Deilliant 5 - Mwy o fyfyrwyr a sgiliau uwch
yn y Gymraeg. Nodwyd fod y targed cyntaf - sef fod 77.2% o ddisgyblion ar
ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 a Graddau A* i mewn TGAU yn darged heriol. Mynegwyd
fod canran Gwynedd yn uwch ‘na chanran llawer o siroedd. Mynegwyd fod cwymp yn
y canrannau eleni yn cyd-fynd a’r cwymp cenedlaethol mewn canlyniadau. Mynegwyd
fod y canlyniadau'r deilliant yma yn cyd-fynd a buddsoddiad y sir mewn trochi
pobl ifanc yn yr iaith.
Deilliant 6 - Darpariaeth Anghenion Dysgu
Ychwanegol Cyfrwng Cymraeg. Nodwyd nad oes targedau ar gael ar gyfer
darpariaeth anghenion Dysgu ychwanegol a bod hyn o ganlyniad i ddarpariaeth ar
gael yn ddwyieithog i’r holl ddisgyblion.
Deilliant 7 - Cynllunio’r Gweithlu a
Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Nodwyd fod y mater yma yn fater sydd wedi codi
yn benodol yn rhanbarthol. Gan fod angen sicrhau gweithlu o safon uchel er mwyn
cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mynegwyd fod angen gwella
sgiliau athrawon ac angen i ysgolion fod yn arwain ar godi’r defnydd o’r
Gymraeg. Nodwyd pan drafodwyd y Siarter Iaith Uwchradd a’r ysgolion, fod Ysgol
Friars a Tywyn wedi bod yn flaengar iawn ac yn cyfrannu llawer mwy at y
drafodaeth. Mynegwyd yn Ysgol Tywyn fod gwaith arbennig o dda wedi ei wneud a
bod y Gymraeg drwy’r cynllun wedi ei dreiddio i mewn i’r gymuned.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
-
Holwyd am ddefnydd o’r iaith gyda rhieni sydd yn
Dysgu eu plant o gartref. Nodwyd yn genedlaethol fod nifer y rhai sydd yn
addysgu eu plant o’r cartref wedi codi ond eu bod yn parhau i fod yn ganran
hynod o isel.
-
Trafodwyd dalgylch Bangor yn enwedig gan fod gwaith
ail strwythuro ar droed, a holwyd os bydd yn gwneud gwahaniaeth o ran iaith i’r
ysgol grefyddol. Mynegwyd yn rhan o’r ail strwythuro fod y plant yn dueddol o
fynd i ddwy ysgol arall ym Mhenrhosgarnedd.
-
Trafodwyd lleihad mewn nifer o blant sydd yn cael
eu hasesu drwy’r Gymraeg erbyn Cyfnod Allweddol 3 - nodwyd mai’r rheswm dros
hyn oedd un Ysgol Uwchradd ym Mangor.
-
Nodwyd y byddai yn syniad da i gael aelodau o staff
a disgyblion o Ysgol Tywyn i ddod draw i’r Pwyllgor Iaith i drafod sut mae’r
Siarter Iaith Uwchradd wedi mynd ymhellach ac wedi gallu newid agweddau at yr
iaith o fewn y gymuned. Mynegwyd fod angen nodi beth yw’r arferion da o fewn
Ysgol Tywyn fel bod modd lledaenu i ysgolion eraill ar draws y sir.
-
Trafodwyd os oes modd rhwydweithio ac ysgolion ar
draws Cymru ac nid Gwynedd yn unig, gan fod angen efallai rhannu arferion da'r
sir ar draws Cymru. Mynegwyd fod arferion da yn cael ei rhannu yn rhanbarthol
drwy GwE.
-
Nodwyd fod gwaith da yn cael ei wneud mewn ysgolion
ac mae ystadegau arbennig o dda. Mynegwyd fod Ysgol Dolbadarn wedi derbyn
rhagorol yn y 5 maes, ac yn un o ddwy ysgol drwy Gymru sydd wedi derbyn
rhagorol yn y maes.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd
yr adroddiad.
Dogfennau ategol: