Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Ionawr 2019. Amlygodd ers 2015, bod y Cyngor wedi wynebu gwireddu arbedion o oddeutu £27 miliwn, a oedd yn heriol i’w gyflawni. Nododd bod adolygiad ddiwedd Tachwedd o’r cyllidebau yn dangos darlun cymysg gyda rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor. Eglurodd y rhagwelir gorwariant sylweddol gan yr Adran Addysg, Adran Plant a Theuluoedd ynghyd â’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, a bod camau gweithredu pendant i sicrhau rheolaeth o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2019.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r Gyllideb Refeniw, a nodi y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·         Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

·         Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet 29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

·         Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet (Cabinet 29/01/19).

·         Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf.

·         Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol,

Ø  gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

Ø  (£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.

Ø  gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar gyllidebau'r Cyngor.”

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet Cyllid i sylwadau ac ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·         Bod y gorwariant ar gludiant disgyblion wedi ei drafod yng nghyfarfod y Cabinet ar 29 Ionawr 2019 yng nghyd-destun adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet Addysg. Byddai datrysiad i leihau’r gorwariant yn cymryd amser. Roedd bwriad i newid y dull darparu cludiant er mwyn cael darpariaeth ratach, oherwydd ei fod yn ddatrysiad tymor hir rhoddwyd ychwaneg o arian yng nghyllideb 2018-19 er mwyn cyfarch y gorwariant. Nid oedd yr arian ychwanegol yn cyfarch yr holl orwariant gan y disgwyliwyd datrysiad gan yr Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd.

·         O ran incwm parciau a thraethau yn yr Adran Economi a Chymuned, bod yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa incwm cyffredinol adrannol. Yn gyffredinol defnyddir incwm a gynhyrchwyd yn adrannol ar gyfer gwasanaethau eraill o fewn yr adran benodol.

·         Bod tueddiad o orwariant yn y Gwasanaeth Digartrefedd oherwydd bod nifer y digartref yn cynyddu. Nid oedd y sefyllfa yn unigryw i Wynedd gyda chynnydd yn nifer y digartref yn fater cenedlaethol.

  • Bod y Cyngor yn cyfathrebu efo Llywodraeth Cymru yng nghyswllt perchnogion tai yn cofrestru eu tai fel busnes er mwyn peidio talu Premiwm Treth y Cyngor. Rhoddir pwysau cynyddol ar y Llywodraeth Cymru i newid y trefniadau ond nid yn or-obeithiol y byddai newid yn y trefniadau. ‘Roedd Arweinydd y Cyngor yn rhan o drafodaethau ar y mater.
  • Bod pwysau ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau efo llai o arian, cynhelir trafodaethau yng nghyswllt perchnogion tai yn cofrestru eu tai fel busnes a’r effaith ariannol ar gynghorau yng nghyfarfodydd Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. ‘Roedd y Pennaeth Cyllid yn casglu gwybodaeth o’r gost ariannol o gofrestru tai fel busnes ar gynghorau yng nghyswllt colled incwm Treth y Cyngor. Gobeithir y byddai’r 8 cyngor arall, a oedd yn aelodau o’r Fforwm, yn cydweld bod angen newid trefniadau.
  • O ran effaith ariannol tai yn cael eu cofrestru fel busnes ar y Cyngor, bod ailddosbarthiad yng nghyswllt sylfaen drethiannol yn golygu bod y Cyngor yn ennill yn ariannol o ran grant Llywodraeth Cymru ond yn colli’n ariannol pan fo’r cofrestru fel busnes yn cael ei ôl-ddyddio. Nid oedd gan Swyddfa’r Prisiwr adnodd digonol i herio’r ceisiadau yn briodol. Ni ellir nodi swm penodol o ran y golled i’r Cyngor o ganlyniad i dai yn cael eu cofrestru fel busnes, ond ei fod yn debygol y byddai oddeutu £2 miliwn o incwm ychwanegol i’r Cyngor fel rhan o Gynllun Premiwm Treth y Cyngor.
  • O blaid y bwriad pan sefydlwyd Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i godi premiwm treth ar dai haf i gynhyrchu incwm ychwanegol. ‘Roedd cyfran o’r incwm a ddeillir o Gynllun Premiwm Treth y Cyngor wedi ei glustnodi ar gyfer y Strategaeth Dai. Bod pwysau gwleidyddol cynyddol o ran diwygio’r drefn cofrestru tai fel busnes, gydag Aelodau Seneddol a Chynulliad yn rhan o’r ymgyrch. ’Roedd y Cyngor yn lobio Llywodraeth Cymru yng nghyswllt yr angen i newid y drefn gan gyflwyno gofyniad i dderbyn caniatâd trwy’r drefn gynllunio er mwyn newid tŷ i fusnes.
  • O ran cyllideb yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, yng nghyd-destun maint y gyllideb nid oedd yr amrywiaethau o dan y penawdau yn sylweddol. Bod gan Adrannau hawl i symud tanwariant o dan un pennawd i bennawd arall ond roedd tueddiad pan fo gorwariant sylweddol i beidio symud arian oherwydd ei fod yn fesur gwell o ran y gwir sefyllfa. ‘Roedd symudiad o ran darparu gwasanaethau, gyda’r tanwariant a gorwariant o dan benawdau yn adlewyrchu’r galw. Bod y gwaith a wnaed fel rhan o Gynllun Alltwen yn cael ei rhaeadru i’r ardaloedd eraill ynghyd ag arian sylweddol (£800k) ar gyfer costau staffio unedau dementia yn fid ariannol fel rhan o’r gyllideb a argymhellir ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 yn ymateb i’r galw cynyddol.
  • Yn falch o dderbyn gwybodaeth gan aelod yng nghyswllt trefniadau cyngor yn Lloegr o godi tal am gostau gofal ar y cynghorau lle'r oedd unigolyn wedi symud. Pe byddai cyfle i’r Cyngor fe ymchwilir i’r mater.
  • Bod yr ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gomisiynwyd gan yr Adran Amgylchedd, yn rhan o adolygiad o’r maes Cludiant Cyhoeddus. Nid oedd yn cynnwys cludiant disgyblion yn yr Adran Addysg, ‘roedd gwaith penodol i’w gwblhau yn y maes yma gan yr Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd.
  • Bod gorwariant ym mlwyddyn ariannol 2018/19 yn fwy amlwg oherwydd bod mwy o adrannau yn gorwario. Gyda gwariant ar feysydd amddiffyn plant a phobl fregus a gwariant anorfod ar gludiant disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn yr Adran Addysg. Nid oedd gorwariant ar wasanaethau plant yn unigryw i Wynedd gyda gorwariant Prydeinig yn y maes. Darperir gwasanaethau yn unol â Ffordd Gwynedd gan roi pobl Gwynedd yn ganolog.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

Dogfennau ategol: