Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid ar Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20 er mwyn rhoddi cyfle i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb ariannol a’r risgiau perthnasol, cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 19 Chwefror.

 

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid. Eglurodd bod yr holl aelodau wedi cael mewnbwn mewn gweithdai a bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal ar Dreth y Cyngor ynghyd â’r cynlluniau arbedion. Nododd bod trafodaethau manwl wedi arwain at y gyllideb a argymhellwyd.

 

Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys yr adroddiad, gan nodi bod bwlch ariannol o £13 miliwn a oedd yn cynnwys costau chwyddiant o £7.5 miliwn a galw anorfod am wasanaethau o £4 miliwn. Nododd nad oedd y cynnydd grant gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol yn ddigonol i gwrdd â’r costau hyn. Cyfeiriodd at Atodiad 2 o’r adroddiad a oedd yn cynnwys manylion bidiau ariannol anorfod i ymateb i’r pwysau ar wasanaethau, gwerth cyfanswm o £2.5 miliwn. Ymhelaethodd bod y bidiau ariannol wedi eu trafod mewn gweithdai yn fis Rhagfyr, lle'r oedd yr aelodau’n cydsynio bod y gwariant yn anorfod. Amlygodd bod gofynion gwario 2019/20, cyn arbedion, yn £253.2 miliwn.

 

Nododd bod £2.48 miliwn o arbedion eisoes wedi’u cymeradwyo, bod £2.45 miliwn o arbedion arfaethedig, £0.5 miliwn o arbedion effeithlonrwydd pellach, a oedd yn dod i gyfanswm o £5.4 miliwn o arbedion i leihau’r bwlch.

 

Tynnodd sylw at yr hyn a argymhellir i’r Cabinet ei gymeradwyo, sef:

 

“(a)  Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2019) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £247,797,900 ar gyfer 2019/20 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £176,551,790 a £71,246,110 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.5%.

 

2.    Ychwanegu £18,316,130 at y rhaglen gyfalaf i’w wario yn 2019/20 er mwyn sefydlu rhaglen gyfalaf gwerth £34,991,250 erbyn 2019/20 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

(b)     Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3, er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

(c)     Nodi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a’r tafluniadau sy’n Atodiad 8, a mabwysiadu’r cynllun sy’n rhan 18-20 ohono.”

 

Nododd bod yr hyn a argymhellir yn amodol ar benderfyniad y Cabinet i gymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r cynlluniau arbedion a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 3, neu i beidio gweithredu ambell gynllun, fel yr awgrymwyd yn Atodiad 12. Eglurodd pe byddai penderfyniad i beidio gweithredu’r 5 cynllun yn Atodiad 12, byddai’r ffigyrau yn newid i:

·         sefydlu cyllideb o £247,869,620 ar gyfer 2019/20,

·         i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £176,551,790,

·         a £71,317,830 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.6%.

 

Cyfeiriodd at yr asesiad effaith o safbwynt cydraddoldeb, asesiad llesiant o ran gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd ag asesiad o gadernid yr amcangyfrifon a oedd yn nodi’r risgiau.

 

Amlygodd bod Strategaeth Ariannol Tymor Canol wedi ei lunio, er gwaethaf cryn ansicrwydd am y dyfodol, yn bennaf oherwydd Adolygiad Gwariant 2019 Llywodraeth San Steffan. Nododd o ystyried y tafluniadau ei fod yn debygol byddai angen mwy o arbedion i’r dyfodol, felly byddai rhaid pwyso ar Lywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn briodol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         Pryder o ran effaith cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor ar drigolion. Fyddai’n bosib codi ymwybyddiaeth o Gynllun Gostyngiadau Treth Cyngor? Oedd cymorth ar gael i drigolion ar gyfer hawlio gostyngiad?

·         Beth oedd lefel y risg o ran grantiau penodol?

·         Pryder o ran canlyniadau’r cynni ariannol a’r effaith ar drigolion o ystyried bod Gwynedd yn un o’r ardaloedd tlotaf yng ngorllewin Ewrop. Byddai’n anodd cadw’r ddysgl yn wastad os nad oedd y cynni ariannol yn dod i ben.

·         Bod cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn gyson uwch yng Ngwynedd dros y 6 mlynedd diwethaf a bod cynghorau Ynys Môn a Conwy yn bwriadu cynyddu eu Treth Cyngor ar gyfer 2019/20 9% i ddal i fyny efo’r cynnydd yng Ngwynedd. Siomedig o’r nifer a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus. O ystyried y nifer isel o ymatebion sut gellir gwneud penderfyniad?

·         Ni ellir parhau i gynyddu Treth y Cyngor gyda thrigolion yn gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran gwario eu harian.

·         Bod aelodau wedi cael digon o gyfle i gyfrannu at y broses ac yn ddiolchgar o’r trafodaethau agored. Fe fyddai’r sefyllfa ariannol yn llawer gwaeth heb waith yr Adran Gyllid dros y blynyddoedd ac fe ddylai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfleu neges gryf i Lywodraeth Cymru o ran yr angen i ariannu awdurdodau lleol yn briodol. Er mwyn cael cyllideb hafal roedd rhaid dewis rhwng cynyddu Treth y Cyngor a thorri gwasanaethau.

·         Bod yr adroddiad yn cyfeirio at £0.5 miliwn o arbedion effeithlonrwydd pellach, a fyddai’n bosib nodi mwy o fanylion a’r amserlen ar gyfer eu gwireddu yn yr adroddiad cyn iddo fynd gerbron y Cyngor Llawn? Annog y Cabinet i wrando ar farn rhai o’r aelodau yn y gweithdy a pheidio gweithredu ar y 5 cynllun a nodir yn Atodiad 12 ac o ganlyniad cynyddu Treth y Cyngor 5.6%.

 

Ymatebwyd i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-

·         Bod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2018 wedi mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2019/20. Roedd staff yr Uned Trethi yn unol â Ffordd Gwynedd yn rhoi cymorth i drigolion o ran talu neu glirio eu dyled a’u cynorthwyo i hawlio gostyngiadau pan yn briodol.

·         Bod rhan fwyaf o grantiau yn rhai Llywodraeth Cymru, roedd risg o ran lefel uwch o ddarpariaeth yn y gyllideb a’r grant yn dod i ben. Roedd grantiau a dderbynnir gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiectau penodol yn hytrach nac i ariannu gwasanaethau. Pe byddai grant yn dod i ben byddai’n rhaid i’r Cyngor atal y ddarpariaeth benodol neu wynebu’r gost. Roedd rhaid i’r Cyngor fyw gyda’r risg.

·         Cydweld o ran y cynni ariannol, un o brif ystyriaethau’r Cabinet wrth asesu’r cynlluniau arbedion oedd eu heffaith ar bobl Gwynedd. Yr unig ddewis i’r Cyngor oedd gweithredu cynlluniau arbedion a chynnydd yn Nhreth y Cyngor er mwyn cyfarch y bwlch ariannol.

·         Ei fod yn ddigon teg nodi’r sylw o ran nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Bu cyfle i bobl Gwynedd leisio’u barn ar ddau achlysur, gydag ymgynghoriad ar beth oedd yn bwysig i bobl Gwynedd ynghyd ag ymgynghoriad ar y cynlluniau arbedion. Mewn cyfundrefn democratiaeth gynrychiadol roedd aelodau’r Cyngor yn cynrychioli eu hetholwyr. Nodwyd gan fwyafrif o aelodau mewn gweithdy y dylid ail-edrych ar rhai cynlluniau arbedion ac roedd y cynlluniau penodol yma i’w hystyried gan y Cabinet cyn penderfynu ar argymhelliad i’r Cyngor Llawn.

·         Tra mai Treth Gyngor Cyngor Gwynedd oedd y chweched uchaf yng Nghymru, roedd hyn yn deillio’n bennaf o’r rhaniad grant a welwyd ar ad-drefnu yn 1996 wrth i’r dyraniad grant beidio adlewyrchu’r rhaniad gwariant bryd hynny. Dengys y dystiolaeth fod cynnydd Treth Gyngor Cyngor Gwynedd wedi bod yn llai nag 14 Cyngor arall yng Nghymru dros y cyfnod ers hynny gan ddangos nad penderfyniadau Cyngor Gwynedd oedd wedi golygu ei fod y 6ed uchaf ond megis yr hyn a ddigwyddodd ar ad-drefnu yn 1996.

·         Ei fod yn ddeddfwriaethol angenrheidiol bod gan y Cyngor gyllideb hafal, yr unig opsiynau ar gael i’r Cyngor i ariannu’r bwlch oedd gweithredu cynlluniau arbedion a chynyddu Treth y Cyngor. Roedd angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i’r ffordd yr ariennir llywodraeth leol gyda sefyllfa ariannu cynghorau yn dod yn ddyrys. Bod yr hyn a argymhellir o ran y gyllideb yn ateb lled-dderbyniol ar gyfer y flwyddyn 2019/20 ond roedd sefyllfa ariannol 2021/22 yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru.

·         O ran yr arbedion effeithlonrwydd pellach, bod syniadau ar sut i wireddu’r arbedion effeithlonrwydd pellach ac yn ffyddiog ei fod yn bosib i’w gael ond ni ellir manylu gan ei fod yn sefyllfa sensitif o ran swyddi.

·         Cadarnhau y byddai’r 5 cynllun i arbed a nodir yn Atodiad 12 yn derbyn ystyriaeth yn nhrafodaethau’r Cabinet ar 19 Chwefror.

 

Nodwyd gwerthfawrogiad o waith swyddogion yr Adran Cyllid, yr Aelod Cabinet Cyllid a’r Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad a’r risgiau perthnasol.

Dogfennau ategol: