Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 12 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol ac un archwiliad
grant wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw o ran archwiliadau dilyniant, bod gweithrediad derbyniol ar 71.17% o’r camau cytunedig,
sef 116 allan
o 163.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol –
Trefniadau Diogelu
- Sefydliadau
Mewn ymateb i ymholiad gan
aelod, eglurodd y Rheolwr Archwilio bod system yn amlygu pan fo angen adnewyddu dadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Ymhelaethodd ei fod yn broses hir
a bod cyfrifoldeb ar yr unigolyn i
gyflwyno cais. Ychwanegodd bod gwendidau wedi eu hadnabod
o ran cyflwyno modiwlau hyfforddiant diogelu i staff ac o’r herwydd bod archwiliad yng nghyswllt adolygiad
o drefniadau hyfforddiant ar yr ystod
o fodiwlau diogelu wedi ei gynnwys
yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2019/20.
Nododd aelod ei phryder o ran yr amrywiaeth yn
y nifer o staff a oedd wedi cwblhau’r
modiwlau diogelu yn y canolfannau hamdden. Holodd beth fyddai’r trefniadau
yn dilyn trosglwyddo’r canolfannau hamdden i gwmni
Byw’n Iach Cyf. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Archwilio y byddai gwaith dilyniant ar archwiliadau canolfannau hamdden yn cael eu
cwblhau cyn trosglwyddo i’r cwmni ar 1 Ebrill
2019 a byddai hyn a ddarganfuwyd yn cael ei adrodd
i’r Pwyllgor. Ymhelaethodd
y byddai adroddiadau archwilio yn cael
eu cyflwyno i Fwrdd Byw’n
Iach Cyf yn dilyn y trosglwyddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach,
nododd y Rheolwr Archwilio ei fod
yn debygol y byddai’r cwmni yn gweithredu yn
unol â chyfundrefnau’r Cyngor yng nghyswllt
dadleniadau.
Nododd aelod y dylai’r archwiliad dderbyn ystyriaeth gan y Gweithgor Gwella Rheolaethau oherwydd bod diffygion wedi eu hamlygu.
Mewn ymateb i sylw,
nododd y Rheolwr Archwilio oherwydd ei fod yn
fater corfforaethol roedd trefniadau hyfforddiant yn amrywio ac yn sefyllfa
gweithwyr tymhorol ei fod yn
fwy problemus, ond yn bwysig
eu bod hwythau yn derbyn yr
hyfforddiant. Eglurodd pe byddai’r archwiliad
yn derbyn ystyriaeth yn y gweithgor, mai Cadeirydd y Panel Gweithredol Diogelu fyddai’n bresennol ac mi fyddai’n anodd iddo egluro’r
sefyllfa o ran staff traethau
ac harbyrau. Nododd bod y
Panel Gweithredol yn anfon neges i’r
timau rheoli adrannol ac fe
ddylai gael ei raeadru i
reolwyr i sicrhau gweithrediad.
Tynnodd aelod sylw bod y cam gweithredu i barhau i
godi ymwybyddiaeth gweithwyr y Cyngor o drefniadau diogelu corfforaethol a’r angen i gwblhau
hyfforddiant, ond bod angen ychwaneg o waith i wella’r
lefel sicrwydd a oedd yn
bresennol yn gyfyngedig.
Rheoliad Diogelu
Data Cyffredinol
Nododd aelod y dylai’r archwiliad dderbyn ystyriaeth gan y Gweithgor Gwella Rheolaethau oherwydd bod yr archwiliad wedi derbyn lefel sicrwydd
cyfyngedig.
Cronfa’r Degwm
Eglurodd y Rheolwr Archwilio bod y Gronfa yn cwmpasu
Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn gydag anghydfod
trawsffiniol hirdymor yng nghyswllt darn o dir wedi ei
ddatrys bellach a symudiad i ddatgymalu’r
gronfa.
Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod, nododd y Rheolwr Archwilio y byddai gwaith dilyniant
yn cael ei
gwblhau a bod archwiliad wedi ei gynnwys
yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2019/20.
Biliau Cylchol
Nododd y Rheolwr Archwilio bod yr archwiliad ar
filiau cylchol yr Adran Amgylchedd
yn deillio o ddarganfod achosion, fel rhan o archwiliad,
ble na
anfonebwyd rhai tenantiaid manddaliadau’r Cyngor. Ymhelaethodd bod sawl ymdrech i
dderbyn diweddariad gan y Gwasanaeth Eiddo o ran os oedd cwsmeriaid yn parhau mewn
eiddo ac os oedd ôl-rhent yn
ddyledus i’r Cyngor ai peidio
mewn perthynas â 2 gwsmer, ond yn
anffodus ni dderbyniwyd cadarnhad. Eglurodd bod y system bilio cylchol bellach yn cynhyrchu anfonebau
tan fod y trefniant yn cael ei
ganslo.
Nododd aelod bod y sefyllfa yn annerbyniol
a bod angen sicrhau y derbynnir y wybodaeth. Ychwanegodd aelod y dylid cyfleu pryder
y Pwyllgor i’r Adran gan ofyn am ymateb.
Tanciau Disel
a Rheoli Disel
Nododd y Rheolwr Archwilio bod gwendidau wedi eu hamlygu peth
amser yn ôl a’u bod dal i fodoli ar
adeg yr archwiliad.
Mewn ymateb i sylw gan
aelod o ran y sefyllfa ar un safle, nododd
y Rheolwr Archwilio bod y rheolwr safle wedi
datgan ei bryder am gyflwr tanc disel a’r
systemau draeniau ar sawl achlysur.
Pwysleisiodd bod y rheolwr safle wedi gweithredu
yn briodol ac yn unol â Ffordd
Gwynedd gan gymryd cyfrifoldeb drwy adrodd ar y diffyg.
Nododd aelod y dylai’r archwiliad dderbyn ystyriaeth gan y Gweithgor Gwella Rheolaethau.
PENDERFYNWYD:
(i)
derbyn yr adroddiad
ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 19 Tachwedd 2018 hyd at 1 Chwefror 2019 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr
y gwasanaethau perthnasol;
(ii)
bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorwyr
Dewi Wyn Roberts, Angela Russell a Cemlyn Williams i wasanaethu ar y Gweithgor Gwella Rheolaethau gyda’r Cynghorydd
Alwyn Gruffydd yn eilydd i ystyried yr
archwiliadau canlynol:
Ø Trefniadau Diogelu
– Sefydliadau
Ø Rheoliad Diogelu
Data Cyffredinol
Ø Tanciau Disel
a Rheoli Disel
(iii) anfon neges at yr Adran Amgylchedd yn nodi pryder y Pwyllgor o ran diffyg ymateb i ymholiadau ynghlwm â’r archwiliad Biliau Cylchol gan ofyn am ymateb.
Dogfennau ategol: