Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm ac Uwch Swyddog Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd
Cofnod:
i)
Canllaw Cynllunio Atodol: Ail-adeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad
Cyflwyniad gan Heledd
Jones yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 16 Tachwedd 2018 ac yn gofyn am
gymeradwyaeth i gyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Materion
a godwyd:
·
Angen eglurhad pam fod adeiladau
sydd wedi cael eu hadeiladu cyn 1919 yn cael eu hystyried fel rhai
traddodiadol?
·
Beth a olygir gan y term ‘agos
at’ Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol h.y. wrth ystyried effaith unrhyw
fwriad ar yr AHNE?
·
Angen ychwanegu’r gair “Nac Ydy”
rhwng dau flwch yn y siart llif.
·
O ran dymchwel ac ail-adeiladu,
ydi’r canllaw yn adnabod adeiladau sâl?
·
Pryder
am ail-ddefnyddio adeiladau fferm yng nghefn gwlad. Mae’n haws i ffermydd mawr ddangos fod y
busnes yn hyfyw i gymharu hefo ffermydd bach sy’n golygu gall ffermydd mawr
cael tŷ i aelod o’r teulu sy’n gweithio ar y fferm neu weithiwr ar y fferm
drwy NCT6. Er hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r polisi’n cydnabod bod gweithwyr
eraill yn bwysig i ardaloedd gwledig. Polisïau yn caniatáu trosi adeiladau
allanol i lety wyliau ond dim i dŷ ar gyfer trigolion lleol.
·
Ydy tai fforddiadwy yn
fforddiadwy i drigolion lleol, yn enwedig mewn llefydd fel Abersoch?
·
Mae’r canllaw yn rhwystro yn
hytrach nag hwyluso datblygiadau yng nghefn gwlad.
Ymateb:
·
Ar ôl 1919 fe gyflwynwyd dulliau
mwy modern o adeiladu e.e. waliau geudod a seiliau adeiladu. Eglurodd nad oedd y dyddiad yn un rhagnodol
ond caiff ei gynnwys yn y canllaw er mwyn rhoi syniad i bobl beth a ddiffinnir
fel adeilad traddodiadol.
·
Ni
ellir diffinio yn union yr hyn a olygir gan ‘agos at’ yr AHNE. Rhaid ystyried
pob achos yn unigol o safbwynt effaith y bwriad ar osodiad yr AHNE. Mae pob
bwriad yn wahanol o safbwynt yr hyn a gynigir a’r
math o dirwedd o fewn yr AHNE sydd angen ei ystyried. Mae effaith datblygiad unigol ar olygfeydd i
mewn ac allan o’r AHNE yn seiliedig felly ar ddadansoddiad o dystiolaeth am
ardrawiad gweledol y datblygiad .
·
Mae
rhan 13 o’r canllaw yn delio gydag addasrwydd adeiladau ac yn cefnogi polisi
TAI 13 o ran bod angen adroddiad strwythurol ac adroddiad hyfywdra ariannol
sy’n dangos nad yw’r adeilad yn economaidd hyfyw i’w ail-ddefnyddio. Nid yw hyn
yn eithrio ail-adeiladu tai o ansawdd gwael, cyn belled a bod yr adeilad yn
cyd-fynd â’r holl ofynion perthnasol yn y polisi a’r canllaw.
·
Hefo bwriad i drosi adeiladau
yng nghefn gwlad, mae rhaid cydymffurfio hefo polisïau cenedlaethol sy’n rhoi
blaenoriaeth i drosi ar gyfer defnydd economaidd. Mae polisi cenedlaethol wedi
dechrau newid cyfeiriad ac adnabod y newid yn yr economi wledig e.e. cyfeiriad
at fentrau gwledig yn hytrach na ffermio ac amaethyddiaeth yn unig. Tra rhoddir
blaenoriaeth i ddefnydd cyflogaeth, os ydyw tystiolaeth yn dangos nad ydyw
hynny yn hyfyw yna gellir rhoi caniatâd cynllunio i drosi adeilad ar gyfer
tŷ fforddiadwy i berson lleol. Mae
rhan 5 o’r canllaw, “Blaenoriaethu defnydd cyflogaeth”, yn amlygu’r dystiolaeth
sydd ei angen er mwyn profi nad oes modd gwneud defnydd cyflogaeth hyfyw addas
o’r adeiladau e.e. marchnata am gyfnod o 12 mis, tystiolaeth berthnasol gan
arwerthwr eiddo.
·
Mae
prisiau tai fforddiadwy canolradd yn ganran o’r pris tai farchnad agored. Mewn aneddleoedd ble mae pris tŷ
marchnad agored yn uchel, fel Abersoch er enghraifft, byddai’r gwahaniaeth
rhwng pris y ty fforddiadwy a phris ty tebyg ar y farchnad agored, h.y. y discownt,
yn fwy. Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol
ar Dai Fforddiadwy, sydd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, yn rhoi fwy o
wybodaeth ar y pwnc hwn.
·
Nodi’r sylw
Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i
gymeradwyo cyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
ii) Canllaw Cynllunio Atodol:
Ymrwymiadau Cynllunio
Cyflwyniad gan Nia
Davies yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 16 Tachwedd 2018 ac yn gofyn am gymeradwyaeth
i gyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Materion
a godwyd:
·
Angen
cysoni’r derminoleg bang eang/band llydan ar dudalen 74 - yn Gymraeg ac yn
Saesneg.
·
Tudalen 85 – cyfeirio at y
“Cyngor” ac nid y “Cynghorau”
Ymateb
·
Nodi’r pwyntiau.
Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i
gymeradwyo cyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Dogfennau ategol: