I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Amlygwyd bod yr ymgeisydd
wedi nodi collfarn am drosedd
o dan adran 4 Deddf Trefn Cyhoeddus 1986 ar ei ffurflen
gais nad oedd wedi ei gynnwys
ar y cofnod DBS.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau
personol. Eglurodd pob sefyllfa yn
fanwl yn eu tro ac amlinellodd
na dderbyniodd gollfarn am fethu rhoi
gwybodaeth ynghylch hunaniaeth gyrrwr ond hysbysiad cosb
benodedig a phwyntiau ar ei drwydded.
Ategodd hefyd nad oedd yn
gyrru cerbydau yn rheolaidd ac mai gwaith gyrru
wrth gefn y byddai yn wneud
fwyaf.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod
y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yn 2012 am drosedd o dan Adran 4 o’r Ddeddf
Trefn Gyhoeddus 1986.Ym mis
Hydref 2016, derbyniodd 4 pwynt cosb ar
ei drwydded gyrru am dorri
terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus.
Ystyriwyd 6 pwynt ychwanegol a dderbyniodd ym mis Mawrth 2018 am dramgwyddo gofynion
ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati
ynghyd a 6 pwynt pellach am fethu
a rhoi gwybodaeth ynghylch hunaniaeth gyrrwr.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf
Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch
troseddau o drais ac fe nodir ym
mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded
fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr
ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai
na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Ystyriwyd
paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau
traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae MS90 - methu darparu gwybodaeth
am hunaniaeth gyrrwr yn cael ei gynnwys.
Nodir ym mharagraff 12.3 y byddai cais fel arfer
yn cael ei
wrthod os yw’r ymgeisydd wedi cyflawni trosedd traffig difrifol unigol ac nad ydyw wedi bod yn rhydd o gollfarn am oleiaf 6 mis.
Ystyriwyd
amod 6 o amodau trwydded gyrru cerbyd hacni a hur preifat, lle
nodi’r bod gofyn i yrrwr hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu ar ôl derbyn
collfarn am unrhyw drosedd dan ddeddfwriaeth
traffig. Os canfyddir bod tor-amod, gall paragraff 17.1 o’r Polisi fod yn
berthnasol lle amlinellir na fydd cais
fel rheol yn cael ei
ganiatáu oni bai bod 12 mis wedi mynd heibio ers
yr achos mwyaf diweddar o hynny.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y gollfarn o 2012 yn ymwneud a thrais, ond gan fod
cyfnod o
6 mlynedd wedi pasio ers y digwyddiad
(tu hwnt i gyfnod 3 blynedd)
nid oedd paragraff 6.5 yn berthnasol ac felly roedd yr Is bwyllgor
yn fodlon nad oedd yn
sail i wrthod y cais.
Wrth ystyried yr arnodiadau
/ ardystiadau (endorsements) gyrru,
daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad nad oeddynt yn
cyrraedd y trothwy ar gyfer gwrthod,
er yn destun
pryder. Amlygwyd bod paragraff 13.1 o’r Polisi yn
diffinio ‘mân droseddau traffig’ fel troseddau lle
mae’r
ymgeisydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Er
hynny, nid yw’n dilyn bod trosedd sydd yn denu
4 pwynt cosb neu fwy yn
cyfrif fel trosedd traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Diffinnir ‘trosedd traffig difrifol’ ym mharagraff 12.2 ac nid yw’r materion
gyrru o Hydref 2016 a Mawrth 2018 yn disgyn o fewn
y diffiniad hwnnw. At ddibenion y polisi, ystyriwyd mai arnodiad
Mai 2018 yn unig oedd yn ymwneud
a throsedd traffig difrifol a gan fod yr arnodiad yn ddigwyddiad
o dros 10 mis yn ôl (tu
hwnt i’r cyfnod 6 mis), nid oedd y gwaharddiad
o dan baragraff 12.3 yn sefyll.
Yn dilyn cadarnhad gan yr ymgeisydd
mai dirwy drwy rybudd cosb
benodedig a phwyntiau yn unig a dderbyniodd
mewn perthynas â’r arnodiadau (ac nid collfarn droseddol),
nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn
bod amod 6 o’r drwydded gyrru cerbyd hacni a hurio preifat, yn dechnegol wedi ei dorri. Er
hynny, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn, fel
ymarfer da, y dylid adrodd ar unrhyw fater
ac argymhellwyd, bod yr ymgeisydd yn hysbysu’r
Awdurdod Trwyddedu o unrhyw arnodiadau i’r dyfodol.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd ac y byddai’r Uned Drwyddedu
yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.